Datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cynhyrchiol â rhanddeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cynhyrchiol â rhanddeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys cydweithwyr o fewn eich sefydliad eich hun, pobl y mae eich sefydliad eich hun yn gweithio gyda hwy o fewn sefydliadau eraill a rhanddeiliaid allanol eraill.
Mae'r safon hon yn berthnasol i reolwyr ac arweinwyr sy'n gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Mae gan y safon hon gysylltiadau agos gyda holl safonau ym maes allweddol DD Adeiladu a chynnal perthnasoedd a hefyd ym maes CFAM&LAA3 Datblygu a chynnal eich rhwydweithiau proffesiynol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rhaid eich bod chi'n gallu:**
*
*1. Adnabod rhanddeiliaid allanol a natur eu diddordeb mewn gweithgareddau a pherfformiad eich sefydliad.
2. Sefydlu perthnasoedd gwaith gyda'r rhanddeiliaid perthnasol, boed mewnol neu allanol.
3. Adnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, diddordebau a phryderon rhanddeiliaid a gofynion eu rheolwyr, yn enwedig mewn sefyllfaoedd rheoli matrics.
4. Ceisio creu amgylchedd sy'n hybu ffydd a chyd barch, yn enwedig lle nad oes gennych awdurdod, neu awdurdod rhanedig, dros eich cydweithwyr
5. Ceisio deall sefyllfaoedd anodd a phroblemau o safbwynt y rhanddeiliaid a chynnig cyngor, lle bo angen, i symud pethau ymlaen
6. Rhoi'r wybodaeth briodol i rhanddeiliaid i'w galluogi i berfformio'n effeithiol
7. Ymgynghori â rhanddeiliaid mewn perthynas â phenderfyniadau a gweithgareddau allweddol ac ystyried eu barnau, yn cynnwys eu blaenoriaethau, disgwyliadau a'u hagweddau tuag at risgiau posibl
8. Cyflawni cytundebau a wnaed gyda rhanddeiliaid a'u hysbysu
9. Hysbysu rhanddeiliaid yn ddi-oed os oes unrhyw anawsterau neu os fydd hi'n amhosib cyflawni cytundebau
10. Adnabod a datrys gwrthdaro buddiannau ac anghydfod gyda rhanddeiliaid mewn ffyrdd sy'n isafu ar niwed i waith a gweithgareddau neu i'r rhanddeiliaid perthnasol
11. Monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith â rhanddeiliaid er mwyn nodi meysydd i'w gwella
12. Ceisio a rhoi adborth er mwyn gwella eich perfformiad chi a pherfformiad y rhanddeiliaid
13. Monitro datblygiadau ehangach er mwyn adnabod problemau y gall fod o ddiddordeb neu achosi pryderon i randdeiliaid yn y dyfodol ac er mwyn canfod rhanddeiliaid newydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol**
*
*1. Manteision datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol â rhanddeiliaid
2. Gwahanol fathau o randdeiliaid ac egwyddorion allweddol sy'n sail i'r cysyniad o 'randdeiliad'
3. Sut i adnabod rhanddeiliaid eich sefydliad, yn cynnwys gwybodaeth gefndirol a natur eu diddordeb yn eich sefydliad
4. Egwyddorion cyfathrebu'n effeithiol a sut i'w gweithredu er mwyn cyfathrebu'n effeithiol â rhanddeiliaid
5. Pam ei bod hi'n bwysig adnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, diddordebau a phryderon rhanddeiliaid
6. Pwysigrwydd creu amgylchedd sy'n hybu ffydd a chyd barch lle nad oes gennych awdurdod, neu awdurdod rhanedig, dros eich cydweithwyr
7. Pwysigrwydd deall sefyllfaoedd anodd a phroblemau o safbwynt eraill a chynnig cyngor, lle bo angen, i symud pethau ymlaen
8. Sut i adnabod a bodloni anghenion gwybodaeth y rhanddeiliaid
9. Pa wybodaeth sy'n addas i'w rhoi i randdeiliaid a'r ffactorau sydd angen eu hystyried
10. Sut i ymgynghori â rhanddeiliaid mewn perthynas â phenderfyniadau a gweithgareddau allweddol
11. Pwysigrwydd ystyried barnau rhanddeiliaid a chael eich gweld yn ei wneud, yn enwedig mewn perthynas â'u blaenoriaethau, disgwyliadau a'u hagweddau tuag at risgiau posibl
12. Pam ei bod yn bwysig cyfathrebu â rhanddeiliaid ynglŷn â chyflawni cytundebau neu unrhyw broblemau sy'n effeithio ar neu'n atal cyflawniad
13. Sut i adnabod gwrthdaro buddiannau gyda rhanddeiliaid a'r technegau i'w defnyddio i reoli neu i gael gwared arnynt
14. Sut i adnabod anghydfod gyda rhanddeiliaid a'r technegau i'w ddatrys
15. Y niwed a achosir i unigolion a sefydliadau gan wrthdrawiadau buddiannau ac anghydfod gyda rhanddeiliaid
16. Sut i adnabod ac ystyried materion gwleidyddol wrth ddelio â rhanddeiliaid
17. Sut i reoli disgwyliadau rhanddeiliaid
18. Sut i fonitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith â rhanddeiliaid
19. Sut i gael adborth o randdeiliaid a gwneud defnydd effeithiol ohono
20. Sut i roi adborth i randdeiliaid gyda'r bwriad o wella eu perfformiad
21. Pwysigrwydd monitro datblygiadau ehangach mewn perthynas â rhanddeiliaid a sut i wneud hynny mewn ffordd effeithiol
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector**
*
*22. Tueddiadau a datblygiadau yn eich diwydiant neu sector sy'n gyfredol neu'n dod i'r amlwg
23. Deddfwriaeth sy'n benodol i'r sector, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer
24. Safonau ymddygiad a pherfformiad yn eich diwydiant neu sector
25. Diwylliant eich diwydiant neu sector
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun**
*
*26. Gweledigaeth, gwerthoedd, cynlluniau, strwythur a diwylliant eich sefydliad
27. Rhanddeiliaid perthnasol, eu rolau a'u cyfrifoldebau
28. Rhanddeiliaid a adnabuwyd, eu cefndir a'u diddordebau mewn gweithgareddau a pherfformiad y sefydliad
29. Cytundebau â rhanddeiliaid
30. Anghenion gwybodaeth y rhanddeiliaid
31. Dulliau ymgynghori â rhanddeiliaid ar benderfyniadau a gweithgareddau allweddol
32. Prosesau'ch sefydliad ar gyfer cynllunio a gwneud penderfyniadau
33. Dulliau cyfathrebu â rhanddeiliaid
34. Pŵer, dylanwad a gwleidyddiaeth o fewn eich sefydliad
35. Y safonau ymddygiad a pherfformiad y disgwylir yn eich sefydliad
36. Dulliau sy'n weithredol ar gyfer monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith â rhanddeiliaid.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ymddwyn fel y ganlyn:
1. Adnabod pa ddulliau cyfathrebu sy'n well gan bobl
2. Defnyddio cyfryngau ac arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer pobl a sefyllfaoedd gwahanol
3. Cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd glir, gryno a chywir ac mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth
4. Rhoi gwybod i bobl am gynlluniau a datblygiadau yn ddi-oed
5. Dangos parch at farn a gweithredoedd eraill
6. Cydymffurfio ag a sicrhau bod eraill yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau diwydiannol, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol
7. Ceisio deall anghenion a chymhellion pobl
8. Creu ymdeimlad o ddiben cyffredin
9. Gweithio tuag at sefyllfaoedd lle mae pawb ar eu hennill
10. Ystyried y wleidyddiaeth fewnol ac allanol sy'n effeithio ar faes gwaith eich hun
11. Cadarnhau'r disgwyliadau sydd gennych chi ac eraill o berthnasoedd
12. Ymddygiad delfrydol sy'n dangos, ac ysbrydoli eraill i ddangos, parch ac awydd i helpu a chydweithio
13. Cadw at eich addewidion i eraill
14. Adnabod unrhyw achos o wrthdaro, cydnabod teimladau a barnau bob parti, ac ailgyfeirio eu hegni tuag at nod gyffredin
15. Ystyried effaith eich ymddygiad chi ar eraill
16. Adnabod anghenion a diddordebau rhanddeiliaid a rheoli'r rhain yn effeithiol
Sgiliau
Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ddangos y sgiliau canlynol:
1. Cydbwyso anghenion a diddordebau sy'n mynd yn groes i'w gilydd
2. Cyfathrebu
3. Ymgynghori
4. Dangos empathi
5. Rheoli gwybodaeth
6. Cynnwys eraill
7. Arweiniad
8. Rheoli gwrthdaro
9. Monitro
10. Rhwydweithio
11. Casglu adborth
12. Cyflwyno gwybodaeth
13. Blaenoriaethu
14. Datrys problemau
15. Rhoi adborth
16. Adolygu
17. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa