Paratoi ar gyfer digwyddiadau i wylwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi eich hun fel stiward a gwirio'r lleoliad neu ganolfan cyn digwyddiad.
Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:
Paratoi ar gyfer gweithgareddau stiwardio
Adnabod ac ymateb i beryglon
Mae'r safon hon ar gyfer stiwardiaid a staff tebyg eraill sy'n cydweithio'n uniongyrchol gyda gwylwyr a grwpiau cleient eraill er mwyn gofalu am eu diogelwch a'u lles mewn digwyddiadau a mannau poblog.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
**** **Paratoi ar gyfer gweithgareddau stiwardio** 1. cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol er mwyn cyflawni'ch dyletswydd 2. cydymffurfio â'r gweithdrefnau cofrestru a mynychu'r sesiwn gyfarwyddo cyn y digwyddiad 3. cofnodi'r holl wybodaeth yn y sesiwn gyfarwyddo cyn y digwyddiad er mwyn cyflawni'ch dyletswydd **Adnabod ac ymateb i beryglon** 4. cydymffurfio gyda gweithdrefnau'r lleoliad i wirio'r offer a chyfleusterau 5. gofalu eich bod yn ymgyfarwyddo gyda'ch man penodedig a gwirio am unrhyw **fygythiadau a pheryglon** dichonol 6. ymateb i'r **bygythiadau a pheryglon** gan gydymffurfio gyda'r gweithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw 7. rhoi gwybod am y sefyllfa a sut aethoch chi i'r afael â hi i'ch goruchwyliwr |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi ar gyfer gweithgareddau stiwardio
y gofynion cyfreithiol, cyfundrefnol a gofynion y lleoliad yn ymdrin â'r math o ddigwyddiad
y dull y mae disgwyl ichi gyflawni'ch dyletswydd
gweithdrefnau cofrestru'r digwyddiad a lleoliad
lle i gasglu trwyddedau, cardiau adnabod ac unrhyw adnoddau gofynnol eraill
pwysigrwydd mynychu'r sesiwn gyfarwyddo cyn y digwyddiad
yr wybodaeth y dylech chi ei chofnodi
Adnabod ac ymateb i beryglon
y gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol ar gyfer:
gwirio offer a chyfleusterau
- adnabod bygythiadau a pheryglon
cywiro sefyllfaoedd a rhoi gwybod am fygythiadau a pheryglon
y meini prawf ar gyfer asesu bygythiadau a pheryglon
9. lefelau cyfredol a'r mathau o fygythiadau terfysgol sy'n berthnasol i fannau poblog
Cwmpas/ystod
GWYBODAETH YCHWANEGOL
Cydraddoldeb ac Amrywioldeb
Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw ac a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf:
- gwahanol anghenion corfforol
- gwahanol anghenion diwylliannol
- anghenion ieithyddol
- credoau
Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth
Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod:
Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau.
Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau.
Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau.
Cwmpas Perfformiad
Bygythiadau a pheryglon (Ymdrin ag 1 a 2 o leiaf)
diogelwch
amddiffyn
glanweithdra
amgylcheddol
offer diffygiol
strwythurol
Gwybodaeth Cwmpas
*Adnoddau *
1. nodiadau cyfarwyddo
Offer diogelwch
Offer amddiffyn
Nwyddau ysgrifennu
* *
Gwybodaeth
bygythiadau a pheryglon dichonol
gweithdrefnau stiwardio
rheolau'r lleoliad
offer
arwyddion a hysbysiadau
amseriadau cyn y digwyddiad
gweithdrefnau rheoli digwyddiadau, geiriau cod perthnasol a mannau ymgynnull
trefniadau cyn y digwyddiad
* *
Bygythiadau a pheryglon
diogelwch
amddiffyn
glanweithdra
amgylcheddol
offer diffygiol
strwythurol
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn sicrhau bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.
Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:
- Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol
- Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau
- Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
- Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft.
- Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain
- Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol
- Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon
- Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib
- Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.
- Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth
- Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad
- Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad
- Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd
- Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu
- Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch
Sgiliau
Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr
- Gwrando a gweithredu
- Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
- Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
- Diplomyddiaeth
- Empathi
- Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
- Arwain drwy esiampl
- Gwydnwch
- Rheoli ymddygiad heriol
- Mentora cydweithwyr
- Ysgogi eraill
- Trafod a chyfaddawdu
- Derbyn a chynnig adborth
- Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Safonau a gweithdrefnau wedi'u cytuno
Gweithdrefnau wedi'u cymeradwyo eisoes sy'n gofnod o weithrediadau'r lleoliad o ddydd i ddydd. Gall fod yn weithdrefnau gweithredu arferol, gweithdrefnau mewn argyfwng a chynlluniau wrth gefn. Mae hyn yn ymwneud â gofynion y lleoliad ynghyd â gofynion cyfundrefnol.
Dolenni I NOS Eraill
SKASS2, SKASS3, SKASS4, SKASS5