Gwerthuso ac adolygu rhaglenni hyfforddi chwaraeon
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â chi'n monitro ac adolygu rhaglenni hyfforddi chwaraeon. Byddwch yn gwneud gwerthusiad o'r rhaglen hyfforddi chwaeaeon ac yn gwerthuso eich perfformiad eich hun a pherfformiad eraill er mwyn cefnogi cyflawni yn y dyfodol.
Prif ddeilliant a safon yma yw:
1. gwerthuso rhaglenni hyfforddi chwaraeon
Rhaid i hyfforddwyr hefyd gymryd i ystyriaeth ganllawiau gan y Cyrff Llywodraethu Chwaraeon a'u profiad blaenorol hwy eu hunain pan yn monitro, adolygu a gwerthuso rhaglenni.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. monitro ac adolygu’r rhaglen hyfforddi chwaraeon gan ddefnyddio’r dulliau a nodwyd yn ystod cynllunio’r rhaglen hyfforddi chwaraeon
2. Dadansoddi’r dystiolaeth o’r broses fonitro ac adolygu ac addasu’r amcanion perfformio
3. cynnwys eraill yn y broses fonitro ac adolygu
4. gofyn am adborth gan eraill pan yn gwerthuso rhaglen hyfforddi chwaraeon
5. cwblhau gwerthusiad manwl o raglen hyfforddi chwaraeon
6. trafod canlyniadau’r gwerthusiad gyda’r sawl sy’n cymryd rhan ac eraill
7. gofyn am gyngor arbenigol gan eraill er mwyn cefnogi datblygiad a lles a sawl sy’n cymryd rhan
8. cydgasglu argymhellion ar gyfer gwelliant a chwblhau adroddiad ar y canfyddiadau
9. rhoi ar waith argymhellion ar gyfer gwelliannau i raglenni hyfforddi chwaraeon presennol ac yn y dyfodol
10. gwerthuso eich perfformiad eich hun a pherfformiad eraill
11. nodi cyfleoedd i ddatblygu a fydd yn cefnogi rhaglenni hyfforddi chwaraeon presennol ac yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i'ch ymarfer gwaith ac y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â hwy
2. sut i gwblhau gwerthusiad o raglenni hyfforddi chwaraeon
pwysigrwydd monitro ac adolygu'r dulliau a gafodd eu dewis pan yn cynllunio'r rhaglen hyfforddi chwaraeon
sut mae dadansoddiad o'r dystiolaeth o'r broses fonitro ac adolygu yn darparu gwybodaeth ar gyfer canlyniadau'r gwerthusiad
5. pwysigrwydd cynnwys eraill yn y broses werthuso
sut i reoli cyfraniadau gan eraill
sut i sicrhau bod y canlyniadau o'r gwerthusiad yn cael eu cyfleu yn effeithiol i'r sawl sy'n cymryd rhan ac i eraill
sut i fesur ansawdd y profiad hyfforddi a datblygiad y sawl sy'n cymryd rhan
dulliau o gydgasglu a chofnodi argymhellion ar gyfer gwelliant
sut i gwblhau adroddiad ar y canfyddiadau o'r gwerthusiad
11. pwysigrwydd gweithredu'r argymhellion ar gyfer gwelliant o fewn rhaglenni hyfforddi chwaraeon yn y presennol a'r dyfodol
- pwysigrwydd cymryd amcanion eich sefydliad i ystyriaeth pan yn gwerthuso eich perfformiad eich hun a pherfformiad eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Dulliau
- arsylwi
- holi
- defnyddio technoleg i gofnodi a dadansoddi perfformiad
- dulliau o gasglu gwybodaeth ac ystadegau i'w dadansoddi
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon yma yn cysylltu gyda SKASPC2 a SKASPC3