Cyflawni a rheoli rhaglenni hyfforddi chwaraeon

URN: SKASPC3
Sectorau Busnes (Suites): Hyfforddi Chwaraeon
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â chyflawni a rheoli rhaglenni hyfforddi chwaraeon. Mae hyn yn golygu gweithio tuag at amcan sydd wedi ei sefydlu mewn perthynas â chystadleuaeth a'r cylch hyfforddi dros gyfnod penodedig neu sesiwn dymhorol.

Prif ddeilliant y safon yma yw

  1. cyflawni a rheoli rhaglenni hyfforddi chwaraeon

Rhaid i hyfforddwyr hefyd gymryd i ystyriaeth ganllawiau gan y Cyrff Llywodraethu Chwaraeon a'u profiad blaenorol hwy eu hunain pan yn cyflawni rhaglenni hyfforddi chwaraeon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. gweithio’n ddiogel bob amser ac yn unol â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau

2. paratoi’r sawl sy’n cymryd rhan ar gyfer sesiynau hyfforddi chwaraeon

  1. asesu parodrwydd y sawl sy’n cymryd rhan ar gyfer hynny

  2. cadarnhau ac, os oes angen, adolygu eich cynlluniau ar gyfer y sesiwn

5. egluro a chytuno ar yr amcanion gyda’r sawl sy’n cymryd rhan

  1. rhoi gwybodaeth am y sesiwn i’r sawl sy’n cymryd rhan a sut mae hynny yn cefnogi eu hamcanion

7. rheoli’r modd y caiff meithrin sgiliau, cyflyru corfforol a datblygu sgiliau meddyliol eu cyflawni o fewn y rhaglen hyfforddi chwaraeon.

  1. sicrhau bod gan bawb sy’n cymryd rhan y cyfle i fod yn rhan o’r rhaglen sydd wedi ei chynllunio

  2. arsylwi a dadansoddi perfformiad y sawl sy’n cymryd rhan

  3. cynnal cyfathrebu rheolaidd gyda’r sawl sy’n cymryd rhan ac eraill

  4. addasu eich hyfforddi a’ch dull o arwain i gwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan ac eraill.

  5. rhoi adborth parhaus i’r sawl sy’n cymryd rhan ac i eraill ar eu perfformiad

13. addasu’r rhaglen hyfforddi chwaraeon er mwyn sicrhau bod sesiynau yn cwrdd â nodau ac amcanion y rhaglen

  1. ceisio cael cyngor arbenigol gan eraill er mwyn cefnogi datblygiad a lles y sawl sy’n cymryd rhan

  2. gwneud yn siwr bod y sawl sy’n cymryd rhan yn cael y wybodaeth y maent yn gofyn amdani am sesiynau yn y dyfodol

16. gadael yr amgylchedd a’r cyfarpar mewn cyflwr sy’n dderbyniol ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol ac yn unol â’r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y ddeddfwriaeth, canllawiau,  polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol  sy’n berthnasol i’ch ymarfer gwaith ac y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â hwy 

2. sut i baratoi’r sawl sy’n cymryd rhan ar gyfer sesiynau hyfforddi chwaraeon 

  1. sut i asesu parodrwydd y sawl sy’n cymryd rhan ar gyfer bod yn rhan o sesiwn hyfforddi chwaraeon  

  2. pwysigrwydd cadarnhau ac, os oes angen, adolygu’r cynlluniau ar gyfer y sesiwn hyfforddi 

  3. pwysigrwydd cytuno ar yr amcanion gyda’r sawl sy’n cymryd rhan ac egluro’r rhesymeg a gweithredu a’r broses adolygu 

  4. pwysigrwydd rhoi gwybodaeth ynglŷn â’r rhaglen yn barhaus i’r sawl sy’n cymryd rhan a sut mae hynny’n cefnogi eu hamcanion a’u dyheadau 

  5. y modd mae meithrin sgiliau yn cael ei weithredu a’i reoli, cyflyru corfforol, llythrennedd corfforol a sgiliau meddyliol o fewn y rhaglen hyfforddi chwaraeon 

  6. sut mae’n dangos ac egluro mewn modd clir a chywir ddatblygu sgiliau a datblygu sgiliau meddyliol 

  7. pwysigrwydd sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y sesiynau sydd wedi eu cynllunio 

  8. pam ei fod yn bwysig i arsylwi perfformiad y sawl sy’n cymryd rhan yn ystod y gweithgaredd  

  9. sut i ddatblygu a chynnal cyfathrebu effeithiol gyda’r sawl sy’n cymryd rhan ac eraill 

12. pwysigrwydd addasu eich hyfforddi a’ch dull o arwain er mwyn cwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan ac eraill 

  1. sut i roi adborth parhaus i’r sawl sy’n cymryd rhan ynglŷn â’u perfformiad 

  2. pryd i addasu’r rhaglen hyfforddi chwaraeon er mwyn sicrhau bod y sesiwn yn cwrdd ag amcanion y rhaglen.

  3. ystod a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd fel ag y mae’n berthnasol i’ch swydd 

  4. cyngor arbenigol sydd ar gael i gyfeirio ato 

  5. pam ei fod yn bwysig i sicrhau fod gan y sawl sy’n cymryd rhan y wybodaeth y maent ei hangen ynglŷn â sesiynau yn y dyfodol

  6. pwysigrwydd gadael yr amgylchedd a’r cyfarpar mewn cyflwr sy’n dderbyniol i’w defnyddio yn y dyfodol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Amcanion

  1. gwella gallu corfforol
  2. gwella llythrennedd corfforol
  3. gwella gallu meddyliol
  4. gwella sgiliau a thechnegau
  5. gwella gallu tactegol
  6. gwella ffordd o fyw
  7. darparu hwyl a mwynhad

Gwybodaeth Cwmpas

Datblygu sgiliau**

  1. ffitrwydd corfforol
  2. gwytnwch aerobig
  3. gwytnwch cyhyrol
  4. hyblygrwydd
  5. cyflymder
  6. cryfder
  7. pwer
  8. cyfansoddiad y corff
  9. ffitrwydd sy'n gysylltiedig â sgil
  10. ystwythder
  11. cydbwysedd
  12. cydlyniad
  13. pwer
  14. amser adweithio

Dull o arwain

  1. awdurdodol
  2. democrataidd
  3. laissez-faire

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Llythrennedd Corfforol

Llythrennedd corfforol yw'r cymhelliad, hyder, gallu corfforol, gwybodaeth a'r dealltwriaeth i werthfawrogi a chymryd cyfrifioldeb tros ymwneud â gweithgareddau corfforol ar gyfer bywyd


Dolenni I NOS Eraill

​Mae’r safon yma yn cysylltu gyda SKASPC2 and SKASPC4


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASC3

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr; , Hyfforddwr

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

cyflawni; rheoli; chwaraeon; hyfforddi; rhaglenni; sesiynau