Cynllunio Rhaglenni Hyfforddi Chwaraeon
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â chi'n cynllunio rhaglenni hyfforddi chwaraeon. Golyga hyn weithio tuag at amcan wedi ei sefydlu mewn perthynas â chystadleuaeth a'r cylch hyfforddi dros gyfnod penodedig neu sesiwn dymhorol.
Prif ddeilliant y safon yw:
1. Cynllunio rhaglenni hyfforddi chwaraeon
Rhaid i hyfforddwyr hefyd gymryd i ystyriaeth ganllawiau gan y Cyrff Llywodraethu Chwaraeon a'u profiad blaenorol hwy eu hunain pan yn cyflawni rhaglenni hyfforddi chwaraeon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cwrdd â’r sawl sy’n cymryd rhan ar amser a mewn lle priodol
2. sefydlu cydberthynas ac ymwneud â’r sawl sy’n cymryd rhan gan ddefnyddio technegau priodol
3. egluro eich rhan a’ch cyfrifoldebau chi a’r sawl sy’n cymryd rhan yn y broses hyfforddi chwaeaeon
4. cyfathrebu mewn modd effeithiol gyda’r sawl sy’n cymryd rhan sydd y eu hannog i ymgysylltu mewn modd gonest ac agored
5. rhoi ar waith broses o gydsyniad gwybodus ar gyfer casglu gwybodaeth
6. nodi dulliau priodol o gasglu gwybodaeth a data perthnasol ynglŷn â’r sawl sy’n cymryd rhan
7. casglu a chofnodi gwybodaeth a data gan y sawl sy’n cymryd rhan
8. cydosod ffynonellau o wybodaeth all eich helpu chi i gynllunio rhaglen hyfforddi chwaraeon
9. nodi gofynion y gweithgaredd chwaraeon er mwyn cael gwybodaeth ar gyfer cynllunio’r rhaglen
10. adolygu eich dadansoddiad o lefel datblygiad y sawl sy’n cymryd rhan, perffromiad gwirioneddol a photensial er mwyn hysbysu gosod amcanion a nôd cyffredinol
11. mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau posibl I ddatblygiad y sawl sy’n cymryd rhan yn cynnwys addasiadau rhesymol i gynllun y rhaglen, dulliau o gyflawni a dulliau hyfforddi
12. cynllunio’r rhaglen mewn perthynas â hamdden neu gystadleuaeth a’r cylchoedd hyfforddi
13. nodi a chytuno ar amcanion rhaglenni gyda’r sawl sy’n cymryd rhan ac eraill
14. cynllunio a threfnu’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y rhaglen hyfforddi chwaraeon
15. cynllunio ffocws a blaenoriaeth pob cam o’r rhaglen hyfforddi chwaraeon
16. trafod a chytuno gydag eraill eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau
17. datblygu dulliau o werthuso perfformiad sy’n ddiogel, dilys a dibynadwy
18. cynllunio rhaglen ar gyfer gwerthusiad o’r rhaglen a’i rannu gyda’r sawl sy’n cymryd rhan ac eraill
19. cyfeirio neu ddanfon at unigolyn cymwys unrhyw rai sy’n cymryd rhan na ellir cwrdd â’u hanghenion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i’ch ymarfer gwaith ac y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â hwy
2. pwysigrwydd cwrdd â’r sawl sy’n cymryd rhan ar yr amser ac yn y man ac i ddarparu lle priodol
3. sut i adeiladu cydberthynas gyda gwahanol rai sy’n cymryd rhan
4. pwysigrwydd pennu swyddogaethau a chyfrifoldebau ar yn dechrau er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau
5. sut all sgiliau cyfathrebu hyfforddwr chwaraeon ddylanwadu ar ansawdd y wybodaeth, ymroddiad a chymhelliant tuag at gyflawni’r rhaglen hyfforddi chwaraeon
6. sut all cyfathrebu di-eiriau ddylanwadu ar y wybodaeth a gaiff ei chasglu gan y sawl sy’n cymryd rhan
7. pryd a sut i sicrhau cydsyniad ar sail gwybodaeth sy’n briodol ar gyfer gwybodsaeth y sawl sy’n cymryd rhan
8. sut i nodi dulliau priodol ar gyfer casglu gwybodaeth a data gan y sawl sy’n cymryd rhan
9. y mathau a’r ffynonellau o wybodaeth sydd angen eu cydgasglu er mwyn cefnogi cynllunio’r rhaglen
10. y pwysigrwydd o nodi gofynion a gweithgaredd chwaeaeon a sut gall hyn gael ei ddefnyddio fel gwybodaeth ar gyfer cynllunio’r rhaglen
11. y pwysigrwydd o adolygu eich dadansoddiad o lefel datblygu’r sawl sy’n cymryd rhan, eu cymhelliant a’u perfformiad gwirioneddol a photensial fel gwybodaeth ar gyfer gosod amcanion
12. sut i adnabod a mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau posibl i ddatblygiad y sawl sy’n cymryd rhan a phryd i wneud addasiadau rhesymol i gynllun y rhaglen, dulliau cyflawni a dulliau hyfforddi
13. sut i gynllunio’r rhaglen mewn perthynas â hamdden neu gystadleuaeth a’r cylchoedd hyfforddi
14. yr egwyddorion a’r prosesau sydd ar waith wrth gynllunio a chyfnodoli
15. pwysigrwydd nodi a chytuno ar amcanion y rhaglen gyda’r sawl sy’n cymryd rhan ac eraill
16. sut i gynllunio’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y rhaglen hyfforddi chwaraeon
17. pwysigrwydd cynllunio ffocws a blaenoriaethau pob cam o’r rhaglen hyfforddi chwaraeon
18. pwysigrwydd egluro i eraill eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth
- y sawl sy'n cymryd rhan
- lle mae'r sawl sy'n cymryd rhan arni o ran datblygiad
- anghenion neilltuol y sawl sy'n cymryd rhan ac eraill
- cyflyrau meddygol y sawl sy'n cymryd rhan ac eraill
- nodau y gyfres o sesiynau hyfforddi
- dulliau dysgu
gwerthusiadau a chynlluniau gweithredu o sesiynau eraill
lleoliad wedi ei fwriadu ar gyfer sesiynau
- gwella gallu corfforol
- gwella llythrennedd corfforol
- gwella gallu meddyliol
- gwella sgiliau a thechnegau
- gwella gallu tactegol
- gwella ffordd o fyw
- darparu hwyl a mwynhad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Llythrennedd Corfforol
Llythrennedd corfforol yw'r cymhelliad, hyder, gallu corfforol, gwybodaeth a'r ddealltwriaeth i werthfarwogi a chymryd cyfrifoldeb dros ymhel â gweithgareddau corfforol am oes
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon yma yn cysylltu gyda SKASPC3 a SKASPC4