Datblygu eich gallu corfforol er mwyn cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon
Trosolwg
Mae'r strategaeth hon yn ymwneud â ffitrwydd corfforol a'i bwysigrwydd er mwyn cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon. I fod yn llwyddiannus, mae angen i athletwyr o'r radd flaenaf feithrin lefelau uchel o ffitrwydd corfforol. Byddwch yn gweithio gyda staff hyfforddi profiadol a hyfedr a/neu staff eraill fel hyfforddwyr personol, ffisiotherapyddion a meddygon. Fodd bynnag, bydd gennych rôl bwysig yn gwella eich galluoedd corfforol hefyd.
Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:
Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich gallu corfforol.
Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich gallu corfforol.
Cymhwyso eich gallu corfforol a'i werthuso
Mae'r safon hon ar gyfer athletwyr sydd â'r potensial gwirioneddol i gyflawni rhagoriaeth yn eu chwaraeon ac sydd am berfformio ar y lefel uchaf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich gallu corfforol.
- gweithio gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn:
1.1 cytuno ar y gofynion corfforol er mwyn rhagori yn eich rôl/rolau
1.2 dadansoddi lefel eich gallu corfforol a'ch potensial i gyflawni rhagoriaeth
1.3 dewis nodau sy'n cyflawni eich blaenoriaethau corfforol
1.4 cynllunio rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn diwallu eich blaenoriaethau corfforol.
- cytuno ar eich prif flaenoriaethu gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn cyflawni'r lefel angenrheidiol o allu corfforol
Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich gallu corfforol.
cymryd rhan yn y rhaglen datblygiad corfforol a gynllunnir
dadansoddi sut rydych yn cymryd rhan yn y rhaglen
cyfrannu at asesiadau parhaus o'ch cynnydd
rhoi adborth i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ynghylch pa mor dda mae eich rhaglen datblygiad corfforol yn bodloni eich anghenion
gwneud addasiadau i'ch rhaglen datblygiad corfforol er mwyn eich helpu i gyflawni eich nodau corfforol
Cymhwyso eich gallu corfforol a'i werthuso
trafod gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill sut gallwch weithio ar eich gallu corfforol a chytuno ar sut i wneud hyn cyn, yn ystod ac ar ôl cystadlu
defnyddio eich gallu corfforol i gymryd rhan mewn ymarferion cyn-cystadlu
rhoi adborth i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ar effeithiolrwydd ymarferion corfforol cyn-cystadlu a gwneud awgrymiadau er mwyn gwella
integreiddio eich gallu corfforol â'ch sgiliau technegol, tactegol a seicolegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol
gweithio gyda'ch staff hyfforddi a/neu staff eraill er mwyn gwerthuso eich perfformiad a phennu nodau corfforol newydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich gallu corfforol.
ffynonellau gwybodaeth am ofynion corfforol eich chwaraeon a sut i wneud y defnydd gorau ohonynt
gofynion corfforol eich rôl/rolau yn eich chwaraeon
ffyrdd effeithiol o weithio gyda'ch hyfforddwyr a/staff eraill ar wella eich gallu corfforol
y mathau o asesiadau a ddefnyddir i ddadansoddi gallu corfforol yn eich chwaraeon, sut i gymryd rhan ynddynt a sut maent yn gweithio
pwysigrwydd rhoi eich barn a'ch safbwyntiau eich hun yn ystod asesiadau o'ch gallu corfforol
y mathau o flaenoriaethau corfforol y gallai athletwyr yn eich rôl orfod canolbwyntio arnynt i ragori
Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich gallu corfforol.
pam mae'n rhaid i chi bennu nodau corfforol, eu deall, a chytuno arnynt er mwyn rhagori yn eich chwaraeon
y mathau o nodau corfforol y gallai fod angen i athletwyr ar eich lefel eu pennu ar gyfer eu hunain
prif gydrannau eich rhaglen datblygiad corfforol ar eich lefel yn eich chwaraeon a sut maent yn gallu helpu i gyrraedd eich nodau
y mathau cyffredin o anafiadau yn eich chwaraeon a'r effeithiau tymor byr, canolig a hir gall y rhain eu cael ar eich perfformiad
gwahanol strategaethau ar gyfer lleihau'r risg o anafiadau
yr effaith seicolegol y gall anafiadau ei chael ar eich perfformiad
y strategaethau corfforol a seicolegol y gallwch eu defnyddio i wella ar ôl anafiadau
prif gydrannau rhaglen ddatblygu er mwyn gwella'n gorfforol a'n seicolegol ar ôl anaf
y mathau o wybodaeth y gallwch eu rhoi i hyfforddwyr a/neu staff eraill i'w helpu i ddatblygu eich rhaglen datblygiad corfforol yn unol â'ch anghenion
pwysigrwydd cadw at eich rhaglen datblygiad corfforol a sut i wneud hynny
pam mae gwella yn bwysig yn eich rhaglen datblygiad corfforol
pwysigrwydd eich cyfraniad at bob elfen o'r rhaglen datblygiad corfforol
pwysigrwydd rhoi adborth gonest i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ynghylch pa mor dda mae eich rhaglen datblygiad corfforol yn bodloni eich anghenion
beth i'w gynnwys yn eich adborth yn ystod eich rhaglen datblygiad corfforol
ffyrdd o addasu eich rhaglen datblygiad corfforol i fodloni eich anghenion
Cymhwyso eich gallu corfforol a'i werthuso
sut i wneud y defnydd mwyaf o'ch galluoedd corfforol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol
y mathau o dechnegau corfforol cyn-cystadlu sy'n gallu eich helpu i baratoi ar gyfer cystadleuaeth a sut i'w defnyddio
ffyrdd eraill o helpu eich hyfforddwyr a/neu staff eraill i wella eich ymarferion corfforol cyn-cystadlu
pwysigrwydd cynnal gwerthusiadau trylwyr a gwrthrychol o'ch perfformiad corfforol ac effaith technegau hyfforddi
dulliau gwerthuso gallu corfforol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol
ffyrdd o gyfrannu at werthusiadau o berfformiad corfforol
sut i ddefnyddio gwerthusiadau i wella eich gallu corfforol ymhellach
Cwmpas/ystod
Gofynion corfforol
dygnwch cardiofasgwlaidd
dygnwch cyhyrol
cryfder
hyblygrwydd
cyfansoddiad y corff
ystwythder
cydbwysedd
pŵer
cyflymder
gofyniad priodol arall, gan gynnwys gwella ar ôl anaf