Datblygu eich sgiliau tactegol i gyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon
Trosolwg
Mae'r strategaeth hon yn ymwneud â sgiliau tactegol a'u pwysigrwydd er mwyn cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon. Byddwch yn gweithio gyda staff hyfforddi profiadol a hyfedr a/neu staff eraill; fodd bynnag, bydd gennych rôl bwysig hefyd er mwyn gwella eich perfformiad tactegol.
Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:
Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau tactegol.
Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau tactegol.
Defnyddio eich sgiliau tactegol a'u gwerthuso
Mae'r safon hon ar gyfer athletwyr sydd â'r potensial gwirioneddol i gyflawni rhagoriaeth yn eu chwaraeon ac sydd am berfformio ar y lefel uchaf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau tactegol.
- gweithio gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn:
1.1 cytuno ar y gofynion tactegol er mwyn rhagori yn eich rôl/rolau
1.2 dadansoddi eich lefelau eich hunain o ymwybyddiaeth dactegol a gwneud penderfyniadau a'ch potensial ar gyfer cyflawni rhagoriaeth
1.3 dewis nodau sy'n cyflawni eich blaenoriaethau tactegol
1.4 cynllunio rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn cyflawni eich nodau tactegol
- cytuno ar eich prif flaenoriaethu gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn cyflawni rhagoriaeth tactegol yn eich rôl/rolau
Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau tactegol.
cymryd rhan yn y rhaglen datblygiad tactegol a gynllunnir
dadansoddi sut ydych yn cymryd rhan yn y rhaglen datblygiad tactegol
cyfrannu at asesiadau parhaus o'ch cynnydd
rhoi adborth i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ynghylch pa mor dda mae eich rhaglen datblygu sgiliau technegol yn bodloni eich anghenion
gwneud addasiadau i'r rhaglen ddatblygu er mwyn eich helpu i gyflawni eich nodau tactegol
Defnyddio eich sgiliau tactegol a'u gwerthuso
trafod gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill sut gallwch ymarfer y sgiliau tactegol angenrheidiol a chytuno ar sut i wneud hyn cyn, yn ystod ac ar ôl cystadlu
defnyddio eich galluoedd tactegol i gymryd rhan mewn ymarferion cyn-cystadlu
rhoi adborth i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ar effeithiolrwydd ymarferion sgiliau tactegol cyn-cystadlu a gwneud awgrymiadau er mwyn gwella
integreiddio eich sgiliau tactegol â'ch sgiliau technegol, corfforol a seicolegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol
gweithio gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn gwerthuso eich perfformiad a'ch nodau tactegol a'u gwella
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau tactegol.
ffynonellau gwybodaeth am ofynion tactegol eich rôl yn eich chwaraeon a sut i'w defnyddio'n llawn
y sgiliau tactegol sydd eu hangen i gyflawni rhagoriaeth yn eich rôl yn eich chwaraeon
ffyrdd effeithiol o weithio gyda'ch hyfforddwyr a/staff eraill ar wella eich sgiliau tactegol
y mathau o asesiadau a ddefnyddir i ddadansoddi tactegau ar eich lefel chi yn eich chwaraeon a sut i gymryd rhan ynddynt
pwysigrwydd rhoi eich barn a'ch safbwyntiau eich hun wrth asesu eich sgiliau tactegol
y mathau o flaenoriaethau tactegol y gallai athletwyr yn eich rôl orfod canolbwyntio arnynt er mwyn rhagori
Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau tactegol.
pam mae'n rhaid i chi bennu nodau tactegol, eu deall, a chytuno arnynt er mwyn rhagori yn eich chwaraeon
y mathau o nodau tactegol y gallai fod angen i athletwyr ar eich lefel eu pennu ar gyfer eu hunain
prif gydrannau rhaglen dactegol ar eich lefel yn y chwaraeon a sut maent yn gallu helpu i gyrraedd eich nodau
y mathau o wybodaeth y gallwch eu rhoi i hyfforddwyr a/neu staff eraill i'w helpu i ddatblygu eich rhaglen dactegol yn unol â'ch anghenion
pwysigrwydd cadw at eich rhaglen dactegol a sut i wneud hynny
sut i gyfrannu'n gadarnhaol at bob elfen o'ch rhaglen dactegol
pwysigrwydd rhoi adborth gonest i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ynghylch pa mor dda mae eich rhaglen dactegol yn bodloni eich anghenion
beth i'w gynnwys yn eich adborth yn ystod eich rhaglen datblygiad tactegol
ffyrdd o addasu eich rhaglen datblygiad tactegol i fodloni eich anghenion
Defnyddio eich sgiliau tactegol a'u gwerthuso
sut i wneud y defnydd mwyaf o'ch sgiliau tactegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol
y mathau o ymarferion tactegol cyn-cystadlu sy'n gallu eich helpu i baratoi ar gyfer cystadleuaeth a sut i'w defnyddio
ffyrdd eraill o helpu eich hyfforddwyr a/neu staff eraill i wella eich ymarferion tactegol cyn-cystadlu
pwysigrwydd gwneud gwerthusiadau manwl a gwrthrychol o'ch perfformiad tactegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol
dulliau gwerthuso perfformiad tactegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol
ffyrdd o gyfrannu at werthusiadau o berfformiad tactegol
sut i ddefnyddio gwerthusiadau i wella eich sgiliau tactegol ymhellach