Datblygu eich sgiliau technegol i gyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon
Trosolwg
Mae'r strategaeth hon yn ymwneud â sgiliau technegol a'u pwysigrwydd er mwyn cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon. Byddwch yn gweithio gyda hyfforddwyr profiadol a hyfedr a/neu staff eraill; fodd bynnag, bydd gennych rôl bwysig hefyd er mwyn gwella eich perfformiad technegol.
Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:
Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau technegol.
Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau technegol.
Defnyddio eich sgiliau technegol a'u gwerthuso.
Mae'r safon hon ar gyfer athletwyr sydd â'r potensial gwirioneddol i gyflawni rhagoriaeth yn eu chwaraeon ac sydd am berfformio ar y lefel uchaf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau technegol.
- gweithio gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn:
1.1 cytuno ar y sgiliau technegol ar gyfer rhagoriaeth yn eich rôl/rolau
1.2 dadansoddi lefel eich sgiliau technegol a'ch potensial i gyflawni rhagoriaeth
1.3 dewis nodau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau eich perfformiad technegol
1.4 cynllunio rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn cyflawni eich nodau technegol
- cytuno ar eich prif flaenoriaethu gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn cyflawni rhagoriaeth technegol yn eich rôl/rolau
Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau technegol.
cymryd rhan yn y rhaglen datblygiad technegol a gynllunnir
dadansoddi sut ydych yn cymryd rhan yn y rhaglen datblygiad technegol
cyfrannu at asesiadau parhaus o'ch cynnydd
rhoi adborth i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ar y rhaglen datblygiad technegol
gwneud addasiadau i'ch rhaglen er mwyn eich helpu i gyflawni eich nodau technegol
Defnyddio eich sgiliau technegol a'u gwerthuso
trafod gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill sut gallwch ymarfer y sgiliau technegol angenrheidiol a chytuno ar sut i wneud hyn cyn, yn ystod ac ar ôl cystadlu
defnyddio eich gallu technegol i gymryd rhan mewn ymarferion cyn-cystadlu
rhoi adborth i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ar effeithiolrwydd ymarferion sgiliau technegol cyn-cystadlu a gwneud awgrymiadau er mwyn gwella
integreiddio eich sgiliau technegol â'ch sgiliau tactegol, corfforol a seicolegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol
gweithio gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn gwerthuso eich perfformiad technegol a'ch nodau technegol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau technegol.
ffynonellau gwybodaeth am ofynion technegol eich rôl yn eich chwaraeon a sut i wneud y defnydd gorau ohonynt
y sgiliau technegol sydd eu hangen i gyflawni rhagoriaeth yn eich rôl yn eich chwaraeon
ffyrdd effeithiol o weithio gyda'ch hyfforddwyr a/staff eraill ar wella eich sgiliau technegol
y mathau o asesiadau a ddefnyddir i ddadansoddi sgiliau technegol yn eich chwaraeon a sut i gymryd rhan ynddynt
pwysigrwydd rhoi eich barn a'ch safbwyntiau eich hun wrth asesu eich sgiliau technegol
y mathau o flaenoriaethau technegol y gallai athletwyr yn eich rôl orfod canolbwyntio arnynt i ragori
Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau technegol.
pam mae'n rhaid i chi bennu nodau technegol, eu deall, a chytuno arnynt er mwyn rhagori yn eich chwaraeon
y mathau o nodau technegol y gallai fod angen i athletwyr ar eich lefel eu pennu
prif gydrannau eich rhaglen datblygiad technegol ar eich lefel yn eich chwaraeon a sut maent yn gallu helpu i gyrraedd eich nodau
y mathau o wybodaeth y gallwch eu rhoi i hyfforddwyr a/neu staff eraill i'w helpu i ddatblygu eich rhaglen datblygu sgiliau technegol yn unol â'ch anghenion
pwysigrwydd cadw at eich rhaglen datblygiad technegol a sut i wneud hynny
sut i gyfrannu'n gadarnhaol at bob elfen o'r rhaglen datblygiad technegol
pwysigrwydd rhoi adborth gonest i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ynghylch pa mor dda mae eich rhaglen datblygiad technegol yn bodloni eich anghenion
beth i'w gynnwys yn eich adborth yn ystod eich rhaglen datblygiad technegol
ffyrdd o addasu eich rhaglen datblygu sgiliau technegol i fodloni eich anghenion
Defnyddio eich sgiliau technegol a'u gwerthuso
sut i wneud y defnydd mwyaf o'ch sgiliau technegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol
y mathau o ymarferion technegol cyn-cystadlu sy'n gallu eich helpu i baratoi ar gyfer cystadleuaeth a sut i'w defnyddio
ffyrdd eraill o helpu eich hyfforddwyr a/neu staff i wella eich ymarferion technegol cyn-cystadlu
pwysigrwydd gwneud gwerthusiadau manwl a gwrthrychol o'ch perfformiad technegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol
dulliau gwerthuso perfformiad technegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol
ffyrdd o gyfrannu at werthusiadau o'ch perfformiad technegol
sut i ddefnyddio gwerthusiadau i wella eich sgiliau technegol ymhellach