Cynllunio sesiynau hyfforddi chwaraeon
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a chofnodi sesiwn a chyfres o sesiynau hyfforddi cysylltiedig a graddedig fel ei gilydd.
Rhaid i hyfforddwyr ystyried hefyd y canllawiau a roddir gan y Cyrff Llywodraethu Chwaraeon a'u profiad blaenorol personol wrth gynllunio sesiynau hyfforddi chwaraeon.
Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio sesiynau hyfforddi chwaraeon.
Prif ddeilliant y safon hon yw:
- cynllunio sesiynau hyfforddi chwaraeon
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio sesiynau hyfforddi chwaraeon
casglu a chofnodi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn paratoi eich cynllun
adnabod anghenion y cyfranogwyr a goblygiadau'r rhain gogyfer â chynllunio
adnabod amcanion cyffredinol y sesiwn
dewis a chynllunio gweithgareddau fydd o gymorth i'r cyfranogwyr gyflawni eu hamcanion ar gyfer caffael sgìl
sicrhau bod y cyrchnodau yn rhai cyswllt, eu bod yn raddedig ac yn gyson â'r amcanion cyffredinol
cynllunio gweithgareddau ar gyfer pob sesiwn fydd yn ysgogi'r cyfranogwyr ac yn cyflawni'r cyrchnodau arfaethedig.
cytuno ar amcanion cyffredinol y sesiynau hyfforddi chwaraeon gyda'r cyfranogwyr ac eraill
cynllunio amseriadau, dilyniannau, dwyster a hyd y sesiynau hyfforddi chwaraeon
trefnu adnoddau ar gyfer eich sesiynau arfaethedig
paratoi cynllun wrth gefn neu ddiwygio'r sesiwn, yn seiliedig ar asesiad risg
cyfeirio unrhyw gyfranogwyr nad ydych yn gallu cyfarfod â'u hanghenion at sylw person neu asiantaeth gymwys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio sesiynau hyfforddi chwaraeon
gofynion y sefydliad mewn perthynas â chyflwyno sesiynau hyfforddi chwaraeon
ffynonellau gwybodaeth y gall yr hyfforddwr eu defnyddio wrth gynllunio a pharatoi sesiynau hyfforddi
y mathau o wybodaeth sydd eu hangen er mwyn cynllunio sesiynau hyfforddi chwaraeon
sut i hybu hawliau a dewisiadau cyfranogwyr drwy gynllunio a chyflwyno rhaglenni'n effeithiol
sut i gynllunio a chofnodi gweithgareddau fydd o gymorth i'r cyfranogwyr gyflawni eu hamcanion ar gyfer caffael sgìl
sut i asesu anghenion unigol gan gynnwys y rhai hynny sy'n gysylltiedig ag anabledd a namau a gofynion a chyfleoedd ar gyfer pobl anabl
pwysigrwydd pennu cyrchnod cyffredinol ar gyfer y gyfres yn ogystal â chyrchnodau unigol sesiynol oddi mewn i'r gyfres
pam y dylai cyrchnodau fod yn rhai cyswllt, yn raddedig ac yn gyson ag amcanion cyffredinol y rhaglen a neu'r gyfres
y broses a'r ystyriaethau wrth gynllunio cydbwysedd o weithgareddau a dulliau hyfforddi ar gyfer pob sesiwn fydd yn ysgogi'r cyfranogwyr ac yn cyflawni'r cyrchnodau arfaethedig yn achos unigolion a grwpiau
pwysigrwydd cynllunio amseriadau, dilyniannau, dwyster a hyd realistig mewn perthynas â'r gweithgareddau
y mathau o adnoddau a chyfarpar sydd eu hangen arnoch er mwyn cyflwyno'r sesiynau
pwysigrwydd cynllunio eich adnoddau ar gyfer eich sesiynau arfaethedig, gan sicrhau bod yr adnoddau'n bodloni rheolau a rheoliadau chwaraeon penodol
pwysigrwydd paratoi cynllun wrth gefn neu ddiwygio cynllun sesiwn yn seiliedig ar asesiad risg
pryd i gyfeirio unrhyw gyfranogwr nad ydych yn gallu cyfarfod â'i anghenion a'i botensial at sylw person neu asiantaeth gymwys
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Gwybodaeth
1.1 cyfranogwyr
1.2 cam yn natblygiad cyfranogwyr
1.3 anghenion penodol cyfranogwyr ac eraill
1.4 cyflyrau meddygol cyfranogwyr ac eraill
1.5 amcanion y gyfres o sesiynau hyfforddi
1.6 dulliau dysgu
1.7 gwerthusiadau a chynlluniau gweithredu o sesiynau eraill
1.8 lleoliad arfaethedig ar gyfer y sesiynau
2. Cyfranogwyr
2.1 unigolion
2.2 grwpiau
2.3 cyfranogwyr gydag anghenion penodol
*
3. Eraill*
3.1 gwylwyr
3.2 hyfforddwyr eraill
3.3 maethegwyr
3.4 rhieni neu warcheidwaid
3.5 ffisiotherapyddion
3.6 defnyddwyr y cyfleuster
3.7 mentoriaid
3.8 gwirfoddolwyr
3.9 gweinyddwyr chwaraeon
3.10 ffisiolegwyr
3.11 biofecanyddion
3.12 hyfforddwyr cryfder a chyflyru
3.13 hyfforddwyr ffordd o fyw
**
- Adnoddau**
*
*
4.1 cyfleusterau
4.2 staff hyfforddi
4.3 staff cynnal
4.4 cyfarpar
4.5 defnyddiau
4.6 cyllid
5. Nodau
*
*
Allai gynnwys ond nid yn gyfyngedig i:
5.1 gwella gallu corfforol
5.2 gwella gallu meddyliol
5.3 gwella sgiliau a thechnegau
5.4 gwella gallu tactegol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Cyfranogwyr
1.1 unigolion
1.2 grwpiau
1.3 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol **canlynol yn tanategu'r broses hyfforddi a byddant o gymorth i hyfforddi chwaraeon er mwyn sicrhau ei fod yn cael yr effaith a fwriedir ar y cyfranogwyr.
Dylai hyfforddwyr:
ddilyn a sefydlu eich athroniaethau a'ch gwerthoedd hyfforddi chi ar gyfer chwaraeon drwy gydol y broses hyfforddi
annog a galluogi'r cyfranogwyr i wneud dewisiadau a phenderfyniadau effeithiol ar gyfer gofynion technegol a thactegol y gamp
sicrhau bod egwyddorion caffael sgìl yn cael eu cynnwys yn y sesiwn a neu'r rhaglen
cefnogi, cydlynu a rheoli'r broses hyfforddi yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr ynghanol y broses
canfod ac adnabod anghenion y cyfranogwr ar ddechrau'r broses a dylai hyfforddwyr anelu at fynd i'r afael â'r rheiny drwy gyfrwng eu hyfforddiant. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn achos cyfranogwr sydd ag anabledd
anelu at alluogi'r cyfranogwyr, gan gefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain oddi mewn i gyfyngiadau'r amgylchedd
cynnig cyfleoedd, a hynny mewn amgylchedd sy'n ysgogi, yn rheoli risg, ac yn meithrin her, mwynhad ac, uwchlaw popeth, llwyddiant
amcanu at gynyddu hyder a hunan-barch y cyfranogwr
cynnal a chadw cyfrinachedd
sicrhau gwahaniaethiad a chynhwysiant fydd yn galluogi cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol ac sy'n amrywio o ran gallu i gymryd rhan mewn sesiynau a neu raglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr sydd ag anableddau a dylid cyfarfod â'u hanghenion.
bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwydd eu sefydliad dan ddeddfwriaeth a chodau ymarfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
bod yn ymwybodol o swyddogaethau personél cynnal e.e. swyddogaethau maethegydd, seicolegydd, meddyg, ffisiotherapydd, ffisiolegydd a defnyddio strwythurau chwaraeon-benodol i ganfod cefnogaeth, gan gynnwys adnabod pryd i gyfeirio problemau at sylw arbenigwyr
derbyn a pharchu swyddogaeth swyddogion wrth iddyn nhw sicrhau bod y dull o gynnal cystadlaethau yn deg ac yn unol â'r rheolau
myfyrio ar eu harferion eu hunain a cheisio bob amser i wella eu gallu hyfforddi
annog pobl i beidio defnyddio cyffuriau gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon
parhau i gynnal a chadw iechyd, diogelwch a lles y cyfranogwyr, a hynny drwy gydol y broses hyfforddi
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r broses hyfforddi. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod hyfforddi chwaraeon yn digwydd mewn amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol.
Dylai hyfforddwyr:
annog ymddygiad positif a hynny mewn ffordd deg, cyson, cymeradwy ac effeithiol
rheoli ymddygiad unigolyn a grŵp; dylid herio a rheoli problemau risg ac ymddygiad gyda golwg ar y côd ymarfer perthnasol
gosod rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad ar waith yn ystod y sesiwn hyfforddi a neu'r rhaglen
gweithredu fel patrwm ymddwyn drwy gynnal a chadw'r safonau ymddygiad personol uchaf posib a chyflwyno argraff ffafriol o chwaraeon
defnyddio technegau cyfathrebu priodol ac ymatebion addas wrth ymdrin â gwrthdaro lle bynnag y gall hwnnw ddigwydd; e.e. ennill cydweithrediad, osgoi adweithiau stereoteip, hunanreolaeth a delio'n effeithiol â negyddoldeb
annog a gwobrwyo ymddygiad positif
adnabod mathau o ymddygiad gan gyfranogwyr ac eraill all beri gofid emosiynol a gwybod sut i ymateb
adnabod ymddygiad gwahaniaethol oddi mewn i'r grŵp neu gan eraill sy'n ymwneud â'r rhaglen a gwybod beth yw'r gweithdrefnau y dylid eu dilyn os digwydd unrhyw helynt
bod yn ymwybodol o'r grym y bydd hyfforddwr yn ei ddatblygu gyda chyfranogwyr yn y berthynas hyfforddi ac osgoi unrhyw gyfeillach
Sgiliau
Mae'r sgiliau canlynol yn tanategu'r broses hyfforddi. Mae'r sgiliau hyn yn sicrhau bod rhaglen hyfforddi chwaraeon yn cael yr effaith y bwriadwyd iddi ei chael ar y cyfranogwyr ac ar eraill.
Dylai hyfforddwyr:
gynnig ysbrydoliaeth
cyfathrebu'n glir ac yn fanwl gywir
tanio a chynnal brwdfrydedd
annog cymhelliad
sicrhau cynhwysiant a chydraddoldeb
hybu gwneud penderfyniadau
Geirfa
Gweithgareddau
**Elfennau o sesiwn hyfforddi chwaraeon all fod yn canolbwyntio ar sut y byddwch chi'n datblygu: nerth, dyfalbarhad, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol neu strategaethau'r cyfranogwr ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau hyfforddi chwaraeon yn cynnwys un neu fwy o weithgareddau.
Dull hyfforddi
**Sut y byddwch chi, fel yr hyfforddwr, yn cyflwyno sesiwn hyfforddi chwaraeon. Mae'n bosib y byddwch yn defnyddio un neu fwy o'r dulliau canlynol wrth gyflwyno sesiwn hyfforddi chwaraeon: cyfan, rhan, cyfan; llunio; modelu; gorchymyn ac ymateb; cwestiwn ac ateb, cyfarwyddyd drwy dasgau gosod penodol; gemau hybu dealltwriaeth; Dweud, gwerthu, rhannu a chaniatáu.
Steil hyfforddi
**Y ffordd rydych chi'n meithrin perthynas â'r cyfranogwyr yn ystod sesiwn hyfforddi chwaraeon; gall hyn gynnwys defnyddio amrywiaeth o ddulliau. Er enghraifft: rhoi cyfarwyddyd i'r cyfranogwyr ynghylch beth i'w wneud, neu eu cefnogi er mwyn iddyn nhw ddatrys problemau drostynt eu hunain.
*
Côd Ymarfer*
Yn ychwanegol at y Gwerthoedd Allweddol ar gyfer Hyfforddi sydd wedi eu cynnwys yn y safon hon, mae'n bosib bod canllawiau penodol i hyfforddwyr, swyddogion a chyfranogwyr ar gael gan chwaraeon neu weithgareddau unigol, drwy'r Corff Llywodraethu Chwaraeon.
Cyfathrebu drwy ysgrifennu
Gall hyn gynnwys nodiadau neu negeseuon byrion neu roi taflen wybodaeth i gyfranogwr neu gyfranogwyr neu anfon e-bost atyn nhw.
*
*
Person neu asiantaeth gymwys
Gall fod yn hyfforddwr, yn arolygydd neu'n sefydliad arall mwy cymwys.
Cydweithwyr
Y bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw – pobl sy'n gweithio ar yr un lefel â chi neu eich arolygydd.
*
Gwybodaeth gyfrinachol*
**Dilyn canllawiau cydnabyddedig ar gyfer polisïau a gweithdrefnau.
*
Oeri*
Gweithgareddau diogel sy'n galluogi'r cyfranogwyr i ddod atyn nhw eu hunain yn feddyliol ac yn gorfforol ar ôl gweithgareddau y buon nhw'n eu gwneud mewn sesiwn hyfforddi chwaraeon.
*
Cyfranogwyr disgwyliedig*
Nodweddion eich cyfranogwyr, sef y rhai y gwyddoch eu bod yn cymryd rhan, neu y disgwylir iddyn nhw gymryd rhan, mewn sesiwn hyfforddi chwaraeon neilltuol. Gall manylion am gyfranogwyr disgwyliedig gynnwys: nifer y mynychwyr, eu hoedran, rhyw, anabledd, a lefel eu profiad, potensial, uchelgais ac unrhyw gyflyrau meddygol.
* *
*
Adborth*
**Y broses o roi a derbyn barn ar berfformiad. Gall hyn gynnwys chi eich hun yn rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad i sesiwn hyfforddi chwaraeon; neu hyfforddwr mwy profiadol yn lleisio barn am eich perfformiad wrth gyflwyno sesiwn hyfforddi chwaraeon neilltuol.
*
Cyrchnodau*
**Gall y rhain fod yn rhai hir dymor, tymor canolig neu dymor byr. Bydd cyrchnodau sesiwn hyfforddi chwaraeon (unigol neu grŵp) yn canolbwyntio ar yr hyn y bydd cyfranogwyr yn gweithio tuag ato yn ystod y sesiwn.
*
Cydberthynas weithio dda*
Y math o berthynas â'ch cyfranogwyr a'ch cydweithwyr sy'n helpu'r cyfranogwyr i gyflawni eu nodau a'r tîm hyfforddi i weithio'n dda ac i roi gwasanaeth o safon uchel i'r cyfranogwyr – mae hyn yn cynnwys dod ymlaen yn dda gyda'ch cydweithwyr, bod yn deg wrthyn nhw, osgoi unrhyw anghytundebau diangen a pheidio gadael i'ch bywyd personol ddylanwadu ar y ffordd rydych chi'n ymagweddu at eraill.
*
Perygl*
Mae hwn yn rhywbeth peryglus neu'n rhywbeth allai achosi niwed.
* *
*
Gofynion iechyd a diogelwch*
Y rhai hynny sy'n ofynnol dan y gyfraith, codau ymarfer diwydiant, Cyrff Llywodraethu Chwaraeon (lle mae'r gweithgaredd yn dod dan awdurdod corff Llywodraethu) a gofynion eich sefydliad chi.
*
Cyfarwyddiadau*
Enghreifftiau posib: Cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr neu gyfarwyddiadau sydd wedi eu llunio gan eich sefydliad chi.
*
Dulliau dysgu*
**Y dulliau y mae'n well gan unigolion eu defnyddio er mwyn dysgu; dylech lunio eich sesiynau hyfforddi chwaraeon mewn ffordd fydd yn cyd-fynd â'r rhain.
*
Pobl sydd heb fod yn cymryd rhan*
Pobl sy'n mynychu ond heb fod yn cymryd rhan yn y sesiwn hyfforddi chwaraeon, oherwydd rhesymau meddygol, eu lefel gallu, sialensiau'r amgylchedd corfforol neu ddiffyg cyfarpar priodol.
*
Eraill*
Gallai hyn gynnwys gwylwyr, hyfforddwyr eraill, Maethegydd, Rhieni, Ffisiotherapydd, eraill o'r Cyfleuster, Mentoriaid, Gwirfoddolwyr, Gweinyddwyr Chwaraeon, Ffisiolegydd, Seicolegydd, hyfforddwr Cryfder Biomecaneg a chyflyru, hyfforddwr Ffordd o Fyw, mentor (nid yw hon yn rhestr gyflawn).
*
Safonau ymddangosiad ac ymddygiad y sefydliad*
Sut y mae eich sefydliad yn eich cynghori i wisgo a chyflwyno'ch hun yn ystod eich gweithgareddau hyfforddi; byddai hyn yn cynnwys gwisgo'r swyddwisg gywir neu ddillad eraill a safonau glanweithdra personol; mae hefyd yn cynnwys sut rydych chi'n ymddwyn pan fydd cyfranogwyr yn bresennol.
*
Cyfranogwyr*
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi chwaraeon. Mae'r rhain yn cynnwys ieuenctid, talent ac oedolion.
*
Pobl sydd ag anghenion penodol*
Amrywiaeth o bobl y bydd angen addasu eu sesiwn hyfforddi chwaraeon, o bosib, oherwydd anableddau corfforol, dysgu, synhwyraidd neu broblemau meddygol.
*
Cynllun datblygu personol*
Cofnod o'r meysydd rydych chi'n dymuno eu gwella yn eich ymarfer hyfforddi, y nodau personol yr hoffech eu cyflawni, sut rydych chi'n mynd i wneud hyn ac erbyn pryd.
* *
*
Cynllun*
**Disgrifiad o sesiwn arbennig yw cynllun sesiwn hyfforddi chwaraeon; bydd amcanion, nodau, cynnwys, gweithgareddau, amseriadau a chyfarpar angenrheidiol y sesiwn wedi eu cynnwys yn y cynllun. Bydd cynlluniau'n cael eu cofnodi fel arfer fel bod modd eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.
* *
*
Ymarfer*
Ailadrodd technegau a sgiliau sy'n cael eu perfformio y tu allan i gyd-destun yr amgylchfyd cystadleuol neu gyfranogiad arferol mewn chwaraeon neu weithgaredd; a gall hyn fod yn sail i sesiwn hyfforddi chwaraeon.
* *
*
Rhaglen*
**Mae rhaglen hyfforddi chwaraeon yn gynllun ar gyfer sesiynau hyfforddi neu'n gyfres o gynlluniau, fel arfer er mwyn datblygu cyfranogwyr dros gyfnod penodol o amser.
*
Person cyfrifol*
Gall fod yn hyfforddwr, rheolwr, arolygydd gweithgaredd mwy cymwys neu brofiadol, y byddech chi'n adrodd wrtho/wrthi.
* *
*
Adolygu*
**Y broses lle disgwylir i chi ddadansoddi'r sesiynau a gynlluniwyd ac a gyflwynwyd gennych, gan nodi'r hyn aeth yn dda a pha bethau y gellid fod wedi eu gwella.
* *
*
Rheolau'r gamp neu'r gweithgaredd*
Bydd y rhain wedi eu diffinio, fel rheolau neu gyfreithiau, gan y Corff Llywodraethu Chwaraeon sy'n gyfrifol am y gamp neu'r gweithgaredd.
* *
*
Sesiwn hyfforddi chwaraeon*
Cyfnod penodol o amser pryd y bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'r nod o wella'u perfformiad mewn camp neu weithgaredd penodol.
* *
*
Arolygydd*
Y person sy'n rheoli'ch gwaith yn uniongyrchol, e.e. hyfforddwr blaen/prif hyfforddwr, arweinydd y gweithgaredd, rheolwr llinell, rheolwr y ganolfan.
* *
*
Arddangosiadau technegol gywir*
Bydd y rhain wedi'u diffinio fel arfer gan lawlyfrau technegol y Corff Llywodraethu Chwaraeon sy'n gyfrifol am y gamp neu'r gweithgaredd.
*
Amseru a dilyniant*
**Amseriadau a threfn gweithgareddau oddi mewn i sesiwn neu raglen hyfforddi chwaraeon.
*
Hyfforddiant*
Gall hyn olygu cwrs, ond gallai hefyd gynnwys edrych ar eraill yn gwneud pethau sy'n newydd i chi, derbyn cyfarwyddiadau gan eraill ar bethau newydd sy'n rhaid i chi eu gwneud a chael cyfleoedd i ymarfer sgiliau newydd.
*
Lleoliad*
**Lle ffisegol neu fan lle mae dŵr lle bwriedir i'ch sesiwn hyfforddi chwaraeon gael ei chynnal. Bydd nodweddion lleoliadau priodol o bosib wedi eu diffinio gan y Corff Llywodraethu Chwaraeon.
* *
*
Cynhesu*
Gweithgareddau diogel sy'n galluogi cyfranogwyr i baratoi'n feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer sesiwn hyfforddi chwaraeon.
*
Amgylchfyd gweithio*
Pobl a'r amgylchfyd corfforol diffiniedig.
*
Eich lefel gallu chi*
**Y rôl rydych chi'n gymwys i'w chyflawni, ar y cyd gyda'ch profiad yn y rôl honno; sicrhau nad ydych chi'n rhoi hyfforddiant i gyfranogwyr ar weithgareddau sydd heb fod oddi mewn i'ch lefel gallu chi.
*
Lles*
Cefnogi lles y cyfranogwr gan gynnwys ffordd o fyw sylfaenol, ymwybyddiaeth o ofal maethol a chyffuriau.
Dolenni I NOS Eraill
SKASC3 a SKASC4