Cynorthwyo gyda chynllunio, cyflwyno ac adolygu sesiwn hyfforddi chwaraeon

URN: SKASC1
Sectorau Busnes (Suites): Hyfforddi Chwaraeon
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â sut y byddech chi'n cynorthwyo gyda chynllunio, cyflwyno ac adolygu sesiwn hyfforddi chwaraeon.

Rhaid i hyfforddwyr ystyried hefyd y canllawiau a roddir gan y Cyrff Llywodraethu Chwaraeon a'u profiad blaenorol personol wrth gynorthwyo gyda chynllunio sesiynau hyfforddi chwaraeon.

Prif ddeilliant y safon hon yw:

  1. Cynorthwyo gyda chynllunio, cyflwyno ac adolygu sesiwn hyfforddi chwaraeon

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio fel cynorthwywyr hyfforddi, hyfforddwyr cynorthwyol, cyfarwyddwyr cynorthwyol neu arweinwyr gweithgareddau cynorthwyol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynorthwyo gyda chynllunio, cyflwyno ac adolygu sesiwn hyfforddi chwaraeon


*

  1. adnabod eich cyfrifoldebau ar gyfer y sesiwn hyfforddi chwaraeon

  2. adnabod y cyrchnodau ar gyfer y sesiwn hyfforddi chwaraeon

  3. cytuno gyda'r person cyfrifol ar y cynllun ar gyfer y sesiwn hyfforddi chwaraeon

  4. asesu parodrwydd y cyfranogwyr i gymryd rhan

  5. cyflwyno'r gweithgareddau arfaethedig

  6. rhoi arddangosiadau ac esboniadau clir

  7. sylwi ar berfformiad y cyfranogwyr yn ystod y gweithgaredd

  8. rhoi adborth i'r cyfranogwyr yn ystod y gweithgaredd

  9. sicrhau bod diogelwch y cyfranogwyr yn cael ei gynnal a'i gadw

  10. gweithio i amseriadau arfaethedig a chytunedig

  11. cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i'ch cylch gwaith at sylw'r person cyfrifol

  12. cyfrannu at yr adborth ar berfformiad y cyfranogwyr

  13. gadael y lleoliad a'r cyfarpar mewn cyflwr derbyniol ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol

  14. rhoi ystyriaeth i adborth y cyfranogwyr

  15. rhoi adborth i'r person cyfrifol ar berfformiad y cyfranogwyr

  16. cyfrannu at adolygu'r sesiwn

  17. trafod eich perfformiad chi eich hun gyda'r person cyfrifol

  18. cofnodi cynllun datblygu personol yn seiliedig ar yr adolygiad o'r sesiwn er mwyn datblygu ymhellach eich sgiliau hyfforddi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Cynorthwyo gyda chynllunio, cyflwyno ac adolygu sesiwn hyfforddi chwaraeon

**

  1. eich cyfrifoldebau yn ystod y sesiwn hyfforddi chwaraeon gan gynnwys:

1.1 gofynion iechyd a diogelwch

1.2 gweithdrefnau'r sefydliad

1.3 technegau

1.4 datblygu sgiliau

1.5 rheolau a chodau ar gyfer y gweithgareddau rydych chi'n eu harwain

  1. sut i adnabod a chofnodi'r cyrchnodau ar gyfer y sesiwn hyfforddi chwaraeon

  2. pwysigrwydd cydweithio â'r person cyfrifol

  3. pam ei bod yn bwysig cynllunio a pharatoi ar gyfer sesiwn

  4. sut i gyflwyno gweithgareddau arfaethedig

  5. sut i roi arddangosiadau ac esboniadau clir a chywir o sgiliau, technegau, rheolau, codau ac iechyd a diogelwch

  6. pam ei bod yn bwysig sylwi ar berfformiad cyfranogwyr yn ystod y gweithgaredd

  7. pwysigrwydd rhoi adborth i'r cyfranogwyr yn ystod gweithgaredd a neu sesiwn

  8. pam ei bod yn bwysig gweithio i amseriadau arfaethedig a chytunedig

  9. pryd i gyfeirio unrhyw sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i'ch cylch gorchwyl at sylw'r person cyfrifol

  10. pwysigrwydd gadael y lleoliad a'r cyfarpar mewn cyflwr derbyniol ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol

  11. pwysigrwydd rhoi ystyriaeth i adborth y cyfranogwr a chyfrannu at yr adborth ar berfformiad y cyfranogwr i'r cyfranogwr a'r person cyfrifol fel ei gilydd

  12. pam ei bod yn bwysig adolygu'r sesiwn a neu'r gweithgaredd a'r cyfranogwr yn barhaus

  13. pwysigrwydd gwneud defnydd cadarnhaol o adborth gan eraill a'r cyfranogwyr a thrafod eich perfformiad gyda'r person cyfrifol

  14. pam y dylech gofnodi'r canlyniadau o adolygiad y sesiwn er mwyn datblygu eich sgiliau hyfforddi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cyfranogwyr

1.1 unigol

1.2 grŵp

1.3 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol

2. Adborth

2.1 iechyd a diogelwch

2.2 rheolau a chodau

2.3 sgiliau a thechnegau

2.4 cyd-destun tactegol

2.5 ymddygiad cyfranogwyr


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd

​Mae'r gwerthoedd allweddol **canlynol yn tanategu'r broses hyfforddi a byddant o gymorth i hyfforddi chwaraeon er mwyn sicrhau ei fod yn cael yr effaith a fwriedir ar y cyfranogwyr.  

Dylai hyfforddwyr:

  1. ddilyn a sefydlu eich athroniaethau a'ch gwerthoedd hyfforddi chi ar gyfer chwaraeon drwy gydol y broses hyfforddi

  2. annog a galluogi'r cyfranogwyr i wneud dewisiadau a phenderfyniadau effeithiol ar gyfer gofynion technegol a thactegol y gamp

  3. sicrhau bod egwyddorion caffael sgìl yn cael eu cynnwys yn y sesiwn a neu'r rhaglen

  4. cefnogi, cydlynu a rheoli'r broses hyfforddi yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr ynghanol y broses

  5. canfod ac adnabod anghenion y cyfranogwr ar ddechrau'r broses a dylai hyfforddwyr anelu at fynd i'r afael â'r rheiny drwy gyfrwng eu hyfforddiant.  Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn achos cyfranogwr sydd ag anabledd

  6. anelu at alluogi'r cyfranogwyr, gan gefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain oddi mewn i gyfyngiadau'r amgylchedd

  7. cynnig cyfleoedd, a hynny mewn amgylchedd sy'n ysgogi, yn rheoli risg, ac yn meithrin her, mwynhad ac, uwchlaw popeth, llwyddiant

  8. amcanu at gynyddu hyder a hunan-barch y cyfranogwr

  9. cynnal a chadw cyfrinachedd

  10. sicrhau gwahaniaethiad a chynhwysiant fydd yn galluogi cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol ac sy'n amrywio o ran gallu i gymryd rhan mewn sesiynau a neu raglenni.  Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr sydd ag anableddau a dylid cyfarfod â'u hanghenion.

  11. bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwydd eu sefydliad dan ddeddfwriaeth a chodau ymarfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant  

  12. bod yn ymwybodol o swyddogaethau personél cynnal e.e. swyddogaethau maethegydd, seicolegydd, meddyg, ffisiotherapydd, ffisiolegydd a defnyddio strwythurau chwaraeon-benodol i ganfod cefnogaeth, gan gynnwys adnabod pryd i gyfeirio problemau at sylw arbenigwyr

  13. derbyn a pharchu swyddogaeth swyddogion wrth iddyn nhw sicrhau bod y dull o gynnal cystadlaethau yn deg ac yn unol â'r rheolau

  14. myfyrio ar eu harferion eu hunain a cheisio bob amser i wella eu gallu hyfforddi

  15. annog pobl i beidio defnyddio cyffuriau gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon

  16. parhau i gynnal a chadw iechyd, diogelwch a lles y cyfranogwyr, a hynny drwy gydol y broses hyfforddi


Ymddygiadau

​Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r broses hyfforddi.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod hyfforddi chwaraeon yn digwydd mewn amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol.

Dylai hyfforddwyr:

  1. annog ymddygiad positif a hynny mewn ffordd deg, cyson, cymeradwy ac effeithiol

  2. rheoli ymddygiad unigolyn a grŵp; dylid herio a rheoli problemau risg ac ymddygiad gyda golwg ar y côd ymarfer perthnasol

  3. gosod rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad ar waith yn ystod y sesiwn hyfforddi a neu'r rhaglen

  4. gweithredu fel patrwm ymddwyn drwy gynnal a chadw'r safonau ymddygiad personol uchaf posib a chyflwyno argraff ffafriol o chwaraeon

  5. defnyddio technegau cyfathrebu priodol ac ymatebion addas wrth ymdrin â gwrthdaro lle bynnag y gall hwnnw ddigwydd; e.e. ennill cydweithrediad, osgoi adweithiau stereoteip, hunanreolaeth a delio'n effeithiol â negyddoldeb

  6. annog a gwobrwyo ymddygiad positif

  7. adnabod mathau o ymddygiad gan gyfranogwyr ac eraill all beri gofid emosiynol a gwybod sut i ymateb 

  8. adnabod ymddygiad gwahaniaethol oddi mewn i'r grŵp neu gan eraill sy'n ymwneud â'r rhaglen a gwybod beth yw'r gweithdrefnau y dylid eu dilyn os digwydd unrhyw helynt 

  9. bod yn ymwybodol o'r grym y bydd hyfforddwr yn ei ddatblygu gyda chyfranogwyr yn y berthynas hyfforddi ac osgoi unrhyw gyfeillach


Sgiliau

​Mae'r sgiliau canlynol yn tanategu'r broses hyfforddi.  Mae'r sgiliau hyn yn sicrhau bod rhaglen hyfforddi chwaraeon yn cael yr effaith y bwriadwyd iddi ei chael ar y cyfranogwyr ac ar eraill.

Dylai hyfforddwyr:

  1. gynnig ysbrydoliaeth

  2. cyfathrebu'n glir ac yn fanwl gywir

  3. tanio a chynnal brwdfrydedd

  4. annog cymhelliad

  5. sicrhau cynhwysiant a chydraddoldeb

  6. hybu gwneud penderfyniadau


Geirfa

Gweithgareddau
**Elfennau o sesiwn hyfforddi chwaraeon all fod yn canolbwyntio ar sut y byddwch chi'n datblygu: nerth, dyfalbarhad, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol neu strategaethau'r cyfranogwr ar gyfer datrys problemau.  Mae sesiynau hyfforddi chwaraeon yn cynnwys un neu fwy o weithgareddau.

Dull hyfforddi
Sut y byddwch chi, fel yr hyfforddwr, yn cyflwyno sesiwn hyfforddi chwaraeon.  Mae'n bosib y byddwch yn defnyddio un neu fwy o'r dulliau canlynol wrth gyflwyno sesiwn hyfforddi chwaraeon: cyfan, rhan, cyfan; llunio; modelu; gorchymyn ac ymateb; cwestiwn ac ateb, cyfarwyddyd drwy dasgau gosod penodol; gemau hybu dealltwriaeth; Dweud, gwerthu, rhannu a chaniatáu.

Steil hyfforddi
Y ffordd rydych chi'n meithrin perthynas â'r cyfranogwyr yn ystod sesiwn hyfforddi chwaraeon; gall hyn gynnwys defnyddio amrywiaeth o ddulliau.  Er enghraifft: rhoi cyfarwyddyd i'r cyfranogwyr ynghylch beth i'w wneud, neu eu cefnogi er mwyn iddyn nhw ddatrys problemau drostynt eu hunain.

Côd Ymarfer

Yn ychwanegol at y Gwerthoedd Allweddol ar gyfer Hyfforddi sydd wedi eu cynnwys yn y safon hon, mae'n bosib bod canllawiau penodol i hyfforddwyr, swyddogion a chyfranogwyr ar gael gan chwaraeon neu weithgareddau unigol, drwy'r Corff Llywodraethu Chwaraeon.

**

Cyfathrebu drwy ysgrifennu**

Gall hyn gynnwys nodiadau neu negeseuon byrion neu roi taflen wybodaeth i gyfranogwr neu gyfranogwyr neu anfon e-bost atyn nhw.


*

Person neu asiantaeth gymwys

Gall fod yn hyfforddwr, yn arolygydd neu'n sefydliad arall mwy cymwys.

Cydweithwyr

Y bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw – pobl sy'n gweithio ar yr un lefel â chi neu eich arolygydd.

Gwybodaeth gyfrinachol
Dilyn canllawiau cydnabyddedig ar gyfer polisïau a gweithdrefnau.

Oeri

Gweithgareddau diogel sy'n galluogi'r cyfranogwyr i ddod atyn nhw eu hunain yn feddyliol ac yn gorfforol ar ôl gweithgareddau y buon nhw'n eu gwneud mewn sesiwn hyfforddi chwaraeon.

Cyfranogwyr disgwyliedig

Nodweddion eich cyfranogwyr, sef y rhai y gwyddoch eu bod yn cymryd rhan, neu y disgwylir iddyn nhw gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi chwaraeon neilltuol.  Gall manylion am gyfranogwyr disgwyliedig gynnwys: nifer y mynychwyr, eu hoedran, rhyw, anabledd, a lefel eu profiad, potensial, uchelgais ac unrhyw gyflyrau meddygol. 


*

Adborth
**Y broses o roi a derbyn barn am berfformiad.  Gall hyn gynnwys chi eich hun yn rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad i sesiwn  hyfforddi chwaraeon; neu hyfforddwr mwy profiadol yn lleisio barn am eich perfformiad wrth gyflwyno sesiwn hyfforddi chwaraeon neilltuol.

Cyrchnodau
**Gall y rhain fod yn rhai hir dymor, tymor canolig neu dymor byr.  Bydd cyrchodau sesiwn hyfforddi chwaraeon (unigol neu grŵp) yn canolbwyntio ar yr hyn y bydd cyfranogwyr yn gweithio tuag ato yn ystod y sesiwn.


*

Cydberthynas weithio dda

Y math o berthynas â'ch cyfranogwyr a'ch cydweithwyr sy'n helpu'r cyfranogwyr i gyflawni eu nodau a'r tîm hyfforddi i weithio'n dda ac i roi gwasanaeth o safon uchel i'r cyfranogwyr – mae hyn yn cynnwys dod ymlaen yn dda gyda'ch cydweithwyr, bod yn deg wrthyn nhw, osgoi unrhyw anghytundebau diangen a pheidio gadael i'ch bywyd personol ddylanwadu ar y ffordd rydych chi'n ymagweddu at eraill.

Perygl

Mae hwn yn rhywbeth peryglus neu'n rhywbeth allai achosi niwed.

* *

Gofynion iechyd a diogelwch

Y rhai hynny sy'n ofynnol dan y gyfraith, codau ymarfer diwydiant, Cyrff Llywodraethu Chwaraeon (lle mae'r gweithgaredd yn dod dan awdurdod corff Llywodraethu) a gofynion eich sefydliad chi.

Cyfarwyddiadau

Enghreifftiau posib:  Cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr neu gyfarwyddiadau sydd wedi eu llunio gan eich sefydliad chi.

Dulliau dysgu
**Y dulliau y mae'n well gan unigolion eu defnyddio er mwyn dysgu; dylech lunio eich sesiynau hyfforddi chwaraeon mewn ffordd fydd yn cyd-fynd â'r rhain.

Pobl sydd heb fod yn cymryd rhan

Pobl sy'n mynychu ond heb fod yn cymryd rhan yn y sesiwn hyfforddi chwaraeon, oherwydd rhesymau meddygol, eu lefel gallu, sialensiau'r amgylchedd corfforol neu ddiffyg cyfarpar priodol.

Eraill

Gallai hyn gynnwys gwylwyr, hyfforddwyr eraill, Maethegydd, Rhieni, Ffisiotherapydd, eraill o'r Cyfleuster, Mentoriaid, Gwirfoddolwyr, Gweinyddwyr Chwaraeon, Ffisiolegydd, Seicolegydd, hyfforddwr Cryfder Biomecaneg a chyflyru, hyfforddwr Ffordd o Fyw, mentor (nid yw hon yn rhestr gyflawn).

Safonau ymddangosiad ac ymddygiad y sefydliad

Sut y mae eich sefydliad yn eich cynghori i wisgo a chyflwyno'ch hun yn ystod eich gweithgareddau hyfforddi; byddai hyn yn cynnwys gwisgo'r swyddwisg gywir neu ddillad eraill a safonau glanweithdra personol; mae hefyd yn cynnwys sut rydych chi'n ymddwyn pan fydd cyfranogwyr yn bresennol.

Cyfranogwyr

Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi chwaraeon.  Mae'r rhain yn cynnwys ieuenctid, talent ac oedolion.

Pobl sydd ag anghenion penodol

Amrywiaeth o bobl y bydd angen addasu eu sesiwn hyfforddi chwaraeon, o bosib, oherwydd anableddau corfforol, dysgu, synhwyraidd neu broblemau meddygol.

Cynllun datblygu personol
Cofnod o'r meysydd rydych chi'n dymuno eu gwella yn eich ymarfer hyfforddi, y nodau personol yr hoffech eu cyflawni, sut rydych chi'n mynd i wneud hyn ac erbyn pryd.

Cynllun
Disgrifiad o sesiwn arbennig yw cynllun sesiwn hyfforddi chwaraeon; bydd amcanion, nodau, cynnwys, gweithgareddau, amseriadau a chyfarpar angenrheidiol y sesiwn wedi eu cynnwys yn y cynllun.  Bydd cynlluniau'n cael eu cofnodi fel arfer fel bod modd eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach. 


*

Ymarfer

Ailadrodd technegau a sgiliau sy'n cael eu perfformio y tu allan i gyd-destun yr amgylchfyd cystadleuol neu gyfranogiad arferol mewn chwaraeon neu weithgaredd; a gall hyn fod yn sail i sesiwn hyfforddi chwaraeon.


*

Rhaglen
**Mae rhaglen hyfforddi chwaraeon yn gynllun ar gyfer sesiynau hyfforddi neu'n gyfres o gynlluniau, fel arfer er mwyn datblygu cyfranogwyr dros gyfnod penodol o amser.


*

Person Cyfrifol
Gall fod yn hyfforddwr, rheolwr, arolygydd gweithgaredd mwy cymwys neu brofiadol, y byddech chi'n adrodd wrtho/wrthi.

*
 *

Adolygu
Y broses lle disgwylir i chi ddadansoddi'r sesiynau a gynlluniwyd ac a gyflwynwyd gennych, gan nodi'r hyn aeth yn dda a pha bethau y gellid fod wedi eu gwella.

Rheolau'r gamp neu'r gweithgaredd

Bydd y rhain wedi eu diffinio, fel rheolau neu gyfreithiau, gan y Corff Llywodraethu Chwaraeon sy'n gyfrifol am y gamp neu'r gweithgaredd.

Sesiwn hyfforddi chwaraeon

Cyfnod penodol o amser pryd y bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'r nod o wella'u perfformiad mewn camp neu weithgaredd penodol.


*

Arolygydd

Y person sy'n rheoli'ch gwaith yn uniongyrchol, e.e. hyfforddwr blaen/prif hyfforddwr, arweinydd y gweithgaredd, rheolwr llinell, rheolwr y ganolfan.

*
 *

Arddangosiadau technegol gywir

Bydd y rhain wedi'u diffinio fel arfer gan lawlyfrau technegol y Corff Llywodraethu Chwaraeon sy'n gyfrifol am y gamp neu'r gweithgaredd.

Amseru a dilyniant
Amseriadau a threfn gweithgareddau oddi mewn i sesiwn neu raglen hyfforddi chwaraeon.

Hyfforddiant

Gall hyn olygu cwrs, ond gallai hefyd gynnwys edrych ar eraill yn gwneud pethau sy'n newydd i chi, derbyn cyfarwyddiadau gan eraill ar bethau newydd sy'n rhaid i chi eu gwneud a chael cyfleoedd i ymarfer sgiliau newydd.

Lleoliad
**Lle ffisegol neu fan lle mae dŵr lle bwriedir i'ch sesiwn hyfforddi chwaraeon gael ei chynnal.  Bydd nodweddion lleoliadau priodol o bosib wedi eu diffinio gan y Corff Llywodraethu Chwaraeon.

Cynhesu

Gweithgareddau diogel sy'n galluogi cyfranogwyr i baratoi'n feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer sesiwn hyfforddi chwaraeon.

Amgylchfyd gweithio

Pobl a'r amgylchfyd corfforol diffiniedig.

Eich lefel gallu chi
Y rôl rydych chi'n gymwys i'w chyflawni, ar y cyd gyda'ch profiad yn y rôl honno; sicrhau nad ydych chi'n rhoi hyfforddiant i gyfranogwyr ar weithgareddau sydd heb fod oddi mewn i'ch lefel gallu chi.

Lles

Cefnogi lles y cyfranogwr gan gynnwys ffordd o fyw sylfaenol, ymwybyddiaeth o ofal maethol a chyffuriau.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cyplysu â SKASC2, SKASC3 a SKASC4


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASC1

Galwedigaethau Perthnasol

Hyfforddi Chwaraeon

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cynorthwyo; Cynllunio; Cyflwyno; Adolygu; Hyfforddi Chwaraeon; Sesiwn; Nodau; Person Cyfrifol; Cyfranogwr; Gweithgareddau; Cynllun Datblygu