Monitro a darparu gwasanaethau spa gwlyb
Trosolwg
Mae’r safon yma yn cydfodoli â, Gweithredu, a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. Mae’r safon yma’n ymwneud â Monitro a darparu gwasanaethau spa gwlyb. Mae cyfleusterau spa gwlyb yn cynnwys cawodydd, cawodydd crai, ystafell ager, therapi pwll thalasso, therapi hydro, therapi arnofiant, pwll plymio, tybiau poeth, profiadau baddoni a bar rhew/caban eira. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar ôl y gwasanaeth er mwyn ei wella. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu’r wybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a’r canllawiau arferion gorau diweddaraf. Caiff defnyddwyr y safon yma eu cynghori i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau, i gynnwys ymateb cymorth cyntaf mewn argyfwng pe byddai yna ddigwyddiad niweidiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau, i gynnwys:
1.1 paratoi a chynnal a chadw’r cyfleusterau spa gwlyb yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.
1.2 cyfarwyddo gweinyddion y spa ynghylch glanhau ac atgyflenwi adnoddau er mwyn sicrhau'r effeithlonrwydd gorau
- gwneud ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y cyfleusterau spa gwlyb
3. 3. rhoi cyflwyniad i’r unigolyn ar gyfer defnyddio’r cyfleusterau’r spa gwlyb yn unol â’r protocol gwasanaeth spa gwlyb i gynnwys:
3.1 y manteision, y defnydd y gellir ei wneud ohonynt a'r cyfyngiadau
.4. cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, eu bod wedi deall y gwasanaeth spa arfaethiedig, i gynnwys:
4.1 canlyniadau disgwyliedig
4.2 gwrth-weithredoedd
4.3 adweithiau niweidiol
4.4 ymdeimlad corfforol
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus gan yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth spa gwlyb
- rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth spa gwlyb
7. cyfarwyddo'r unigolyn i gymryd cawod, cyn defnyddio'r cyfleuster spa gwlyb
- cyfeirio'r unigolyn i'r spa gwlyb i gynnwys:
8.1 dangos iddo/iddi'r cyfarwyddiadau a'r peryglon cysylltiedig
monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth spa gwlyb
gweithredu'r camau cywir os bydd yna adwaith niweidiol
cwblhau cofnod gwasanaeth spa'r unigolyn yn unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso gwasanaeth y spa a chymryd camau priodol
13. dod â’r gwasanaeth spa i ben drwy gau’r cyfleuster spa i lawr a’i ddadheintio yn unol â’r protocol gwasanaeth spa gwlyb
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau o ran monitro a darparu cyfleusterau spa gwlyb a'r pwysigrwydd o weithio o fewn eich galluogrwydd
2. pam bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer foesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol 3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer orau
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i wasanaethau spa gwlyb, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
- y mathau o, diben, defnyddioldeb a chyfyngiadau at gyfleusterau spa gwlyb mewn perthynas â:
6.1 gweithgareddau neu driniaethau diweddar a all gyfyngu ar y gwasanaeth
6.2 hanes meddygol diweddar a chyfredol
6.3 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw
6.4 meddyginiaethau a chyflyrau meddygol
6.5 cefndir diwylliannol a hanes
7. yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig â gwasanaethau spa gwlyb a sut i ymateb
y cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth spa gwlyb
pwysigwrydd glanhau ac atgyflenwi adnoddau o fewn cyfleusterau spa gwlyb, i gynnwys:
9.1 sut, pryd a pham y gellir dirprwyo dyletswyddau glanhau i weinyddion y spa
10. sut i baratoi, cynnal a chadw a chau cyfleusterau spa gwlyb yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion cyfundrefnol a deddfwriaethol i gynnwys:
10.1 dadheintio
10.2 profi lleithder
10.3 profi dŵr
10.4 pennu tymereddau gweithredol wedi eu hargymhell
sut i gwblhau a dehongli profion gyda'ch lefel o arbenigedd a sut i ymateb
pwysigrwydd gwybod i bwy i adrodd am broblemau sydd y tu allan i rychwant eich arbenigedd chi
pam ei bod yn bwysig i drafod a darganfod amcanion, pryderon, disgwyliadau, y canlyniadau a chytuno ar gynllun gwasanaeth y spa
y strwythurau tâl ac opsiynau gwasanaeth
y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus am y gwasanaeth spa
pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth spa gwlyb
17. rhesymau pam dylai’r unigolyn gael cawod, cyn y gwasanaeth spa gwlyb
pam ei fod yn bwysig ymgyfarwyddo unigolyn, cyn defnyddio'r cyfleusterau spa gwlyb
argymhellion ynglŷn â pha mor hir ddylai gwasanaethau spa gwlyb barhau, yn unol â'r protocol gwasanaethau spa a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, i gynnwys:
19.1 peryglon cysylltiedig o ddefnydd gormodol
- pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod, ac ar ôl y gwasanaeth spa gwlyb
21. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ynglŷn â chwblhau a chadw cofnod gwasanaeth spa gwlyb yr unigolyn
canlyniadau disgwyliedig y gwasanaethau spa gwlyb
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth
y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth spa gwlyb
Cwmpas/ystod
Cyfleusterau spa gwlyb
- cawodydd
- cawodydd crai
- ystafell ager
- pwll therapi thalasso
- therapi hydro
- therapi arnofiant
- pwll plymio
- barau rhew
- barau rhew/ cabannau eira
- Profiadau baddoni
- Tybiau poeth
Protocol gwasanaeth spa gwlyb
- amgylchedd gwaith
- iechyd a diogelwch
- atal a rheoli haint
- cynllun gwasanaeth
cydsyniad gwybodus
canlyniadau profion
- cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- rheoli data
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau a chyngor
- cynaliadwyedd
- rheoli gwastraff
- ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
- ymarfer adfyfyriol
Adweithiau Niweidiol
teimlo'n wanllyd
chwydlyd
- cosi ar y croen
- cur pen, pen tost
- alergeddau
- anaphylacsis
- ymateb o bryder
fasoymlediad
dadhydradu
Cyfarwyddiadau
- hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a'r ymarferydd
- cyfawrwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
- cyfyngiadau a pheryglon cysylltiedig
- gwasanaethau y dyfodol
Anatomeg a Ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
- effeithiau corfforol, seicolegol a ffisiolegol cyfleusterau spa gwlyb
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwyddion llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Anatomeg a Ffisioleg
Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau.
Gwrth Weithred
Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAS2, SKAS3, SKABS1, SKABBR2, SKAB4, SKABS1, SKABS2, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7,
SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3