Monitro a darparu gwasanaethau spa sych
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, Gweithredu, a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. Mae'r safon yma'n ymwneud â Monitro a darparu gwasanaethau spa sych. Mae cyflusterau spa sych yn cynnwys cawodydd, cawodydd crai, ystafell ager, therapi pwll thalasso, therapi hydro, therapi arnofiant, pwll plymio, tybiau poeth, profiadau baddoni a bar rhew/caban eira. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar ôl y gwasanaeth er mwyn ei wella. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a'r canllawiau arferion gorau diweddaraf. Caiff defnyddwyr y safon yma eu cynghori i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau, i gynnwys ymateb cymorth cyntaf mewn argyfwng pe byddai yna ddigwyddiad niweidiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau, i gynnwys:
1.1 paratoi a chynnal a chadw'r cyfleusterau spa sych yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
1.2 cyfarwyddo gweinyddion y spa ynghylch glanhau ac atgyflenwi adnoddau er mwyn sicrhau'r effeithlonrwydd gorau
2. gwneud ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y cyfleusterau spa sych
- rhoi sesiwn gyflwyno i'r unigolyn ar gyfer defnyddio cyfleusterau'r spa sych i gynnwys:
3.1 y manteision, y defnydd y gellir ei wneud ohonynt a'r cyfyngiadau
4. cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, eu bod wedi deall y gwasanaeth spa arfaethedig, i gynnwys:
4.1 canlyniadau disgwyliedig
4.2 gwrth-weithredoedd
4.3 adweithiau niweidiol a sut i ymateb iddynt
*4.4 ymdeimlad corfforol
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus gan yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth spa sych
6. rhoi *cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth spa sych
7. cyfarwyddo'r unigolyn i gymryd cawod, cyn defnyddio'r cyfleuster spa sych
8. cyfeirio'r unigolyn i'r spa sych i gynnwys:
8.1 dangos iddo/iddi'r cyfarwyddiadau a'r peryglon cysylltiedig
9. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth spa sych
10. gweithredu'r camau cywir os bydd yna adwaith niweidiol
11. cwblhau cofnod gwasanaeth spa'r unigolyn yn unol â deddfwriaeth data
12. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso gwasanaeth y spa a chymryd camau priodol
13. dod â'r gwasanaeth spa i ben drwy gau'r cyfleuster spa i lawr a'i ddadheintio yn unol â'r protocol gwasanaeth spa sych
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau o ran monitro a darparu cyfleusterau spa sych a'r pwysigrwydd o weithio o fewn eich gallu
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol 3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer orau
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i wasanaethau spa sych, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
6. y mathau o, diben, defnyddioldeb a chyfyngiadau cyfleusterau spa sych mewn perthynas â:
6.1 gweithgareddau neu driniaethau diweddar a all gyfyngu ar y gwasanaeth
6.2 hanes meddygol diweddar a chyfredol
6.3 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw
6.4 meddyginiaethau a chyflyrau meddygol
6.5 cefndir diwylliannol a hanes
yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig â gwasanaethau spa sych a sut i ymateb iddynt
y cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth spa sych
pwysigwrydd glanhau ac atgyflenwi adnoddau o fewn cyfleusterau spa sych, i gynnwys:
9.1 sut, pryd a pham y gellir dirprwyo dyletswyddau glanhau i weinyddion y spa
9.2 sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol ar gyfer defnyddio'r cynnyrch
10. sut i baratoi, cynnal a chadw a chau cyfleusterau spa sych yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion cyfundrefnol a deddfwriaethol i gynnwys:
10.1 dadheintio
10.2 profi cyfarpar
10.3 pennu tymereddau gweithredol wedi eu hargymhell
11. pwysigrwydd gwybod i bwy i adrodd am broblemau sydd y tu allan i rychwant eich arbenigedd chi
pam ei bod yn bwysig i drafod a darganfod amcanion, pryderon, disgwyliadau, y canlyniadau a chytuno ar gynllun gwasanaeth y spa
y strwythurau tâl a dewisiadau o wasanaeth
14. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus ar gyfer y gwasanaeth spa
pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth spa sych
rhesymau pam y dylai'r unigolyn gael cawod, cyn y gwasanaeth spa sych
17. pam ei bod yn bwysig rhoi cyflwyniad i’r unigolyn, cyn defnyddio’r cyfleusterau spa sych
- argymhellion ynglŷn â pha mor hir ddylai gwasanaethau spa sych barhau, yn unol â'r protocol gwasanaethau spa a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, i gynnwys:
18.1 peryglon disgwyliedig defnydd gormodol
- pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod, ac ar ôl y gwasanaeth spa sych
20. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ynglŷn â chwblhau a chadw cofnod gwasanaeth spa sych yr unigolyn
canlyniadau disgwyliedig y gwasanaethau spa sych
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth
y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth spa sych
Cwmpas/ystod
Cyfleusterau spa sych
- sauna
- gwelyau wedi eu cynhesu
- therapi golau
- therapi isgoch
- profiadau a chyfleusterau lles
Protocol gwasaneth spa sych
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- atal a rheoli haint
- cynllun gwasanaeth
cydsyniad gwybodus
canlyniadau profion
- cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- rheoli data
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau a chyngor
- cynaliadwyedd
- rheoli gwastraff
- ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
- ymarfer adfyfyriol
*
*Adweithiau Niweidiol
- teimlad o bendro
- chwydlyd
- cosi ar y croen
- cur pen, pen tost
- alergeddau
- anaphylacsis
- ymateb o bryder
- dadhydradu gormodol
*
**
**
**
*Cyfarwyddiadau
- hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a'r ymarferydd
- cyfawrwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
- cyfyngiadau a pheryglon cysylltiedig
- gwasanaethau y dyfodol
Anatomeg a Ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
- effeithiau corfforol, seicolegol a ffisiolegol cyfleusterau spa sych
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwyddion llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Anatomeg a Ffisioleg
Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau.
Gwrth Weithred
Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Cyfleusterau lles a phrofiad
Gall cyfleusterau lles gynnwys mannau fel, y man ymlacio, ystafelloedd newid,solariwm, campfeydd, dosbarthiadau ymarfer corff ac amgylcheddau triniaeth.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAS1, SKAS3, SKABS1, SKABBR2, SKAB4, SKABS1, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3