Cynorthwyo gyda glanhau, cynnal a chadw a gweithio cyfleusterau spa
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. Mae'r safon ar gyfer gweinydd spa sy'n cynorthwyo gyda glanhau, cynnal a chadw a gweithgareddau cyfleusterau spa o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth uwch-aelod o'r staff. Dylai'r safon gael ei defnyddio ynghyd ag uwch-aelod o'r staff sy'n cyflawni SKAS3 - Monitro a darparu gwasanaethau spa gwlyb a/neu SKAS2 - Monitro a darparu gwasanaethau spa sych. Bydd dyletswyddau'n cynnwys glanhau ac atgyflenwi adnoddau er mwyn cynnal y glanweithdra a'r effeithlonrwydd gorau ar gyfer cyfleusterau spa a chynorthwyo gyda gweithgreddau spa.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio pan yn glanhau ac atgyflenwi mewn cyfleusterau
1. cadw at eich eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddiadau a chanllawiau i gynnwys:
1.1 dilyn cyfarwyddiadau gan uwch aelod o'r staff a cheisio cael cymorth pan fo angen
Monitro, glanhau a chynnal a chadw'r cyfleusterau spa
2. Glanhau a chynnal y defnydd effeithiol o'r *cyfleusterau spa yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a pholisïau a gweithdrefnau'r gwneuthurwr, i gynnwys:
2.1 defnyddio cynnyrch glanhau a chyfarpar amddiffyn personol yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
2.2 monitro ac atgyflenwi adnoddau a stoc
2.3 cadw at gyfnodau ysbaid sydd wedi eu pennu
2.4 diweddaru cofnodion cynnal a chadw yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
2.5 monitro amodau amgylcheddol
Gweithgreddau
*3. edrych allan am les unigolion yn rheolaidd, i gynnwys:
3.1 os bydd yna ddigwyddiad niweidiol, gweithredu ar y weithdrefn ymateb i argyfwng yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
3.2 os bydd yna ddigwyddiad niweidiol, rhoi gwybod i'r bobl berthnasol
3.3 cymryd camau priodol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
4. diweddaru cofnodion gweithredol yr ydych chi'n gyfrifol amdanynt, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
5. glanhau'r cyfleuster spa yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol er mwyn ei baratoi ar gyfer defnydd pellach
* *
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd gwrando ar a chymryd cyfarwyddyd gan uwch- aelod o'r staff
eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau o ran glanhau a chynnal a chadw cyfleusterau spa a phwysigrwydd gweithio o fewn maes eich gallu
pam mae'n rhaid i chi gydymffurfio ag arfer foesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol
4. pwysigwrydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau arfer orau ynglŷn â gwybodaeth wedi eu diweddaru
- y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n ymwneud â gwasanaethau spa, i gynnwys:
5.1 heintiau cyffredin sy'n cael eu cludo drwy'r aer a'r dŵr a all effeithio ar amgylcheddau spa ac ar unigolion
6. pwysigrwydd cyfeirio at gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion cyfundrefnol ar gyfer defnydd diogel a chynnal a chadw cyfarpar a chyfleusterau spa
y deunyddiau glanhau sy'n addas ar gyfer cyfleusterau spa a chyfarpar a phwysigrwydd eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
yr amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer cyfleusterau spa a pham mae nhw'n bwysig
9. y tymereddau gweithredol a’r lefelau lleithder a argymhellir ar gyfer cyfleusterau spa gwlyb a sych
- y cyfarwyddiadau ysgrifenedig a'r peryglon cysylltiedig ar gyfer pob cyfleuster spa, i gynnwys:
10.1 cymorth cyntaf
10.2 pwysigrwydd eu harddangos yn glir
- sut i gynnal a chadw cyfleusterau spa a chyfarpar
12. pwysigrwydd cynnal lefelau stoc yn aml ac adrodd am stoc isel i uwch-aelod o'r staff mewn modd amserol, i gynnwys:
12.1 sut i gynnal cynaliadwyedd
13. hyd oes defnyddiol a argymhellir ar gyfer pob spa yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr , i gynnwys:
13.1 y peryglon sy'n gysylltiedig â defnyddio mwy na'r hyn a argymhellir
pwysigrwydd gwirio iechyd a lles unigolion yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth spa
pwysigrwydd cynnal hydradiad ar gyfer staff ac unigolion o fewn mannau spa
yr adweithiau niweidiol a phwysigrwydd cymryd camau priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
17. y deilliannau disgwyliedig o ddefnyddio pob cyfleuster spa
18. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth spa
Cwmpas/ystod
Cyfleusterau Spa
- gwlyb
- sych
- profiadau a chyfleusterau lles
- man ymlacio
- man newid
- man gwasanaeth
- man triniaeth
Adweithiau Niweidiol
- teimlo'n wanllyd
- chwydlyd
- cosi ar y croen
- cur pen, pen tost
- alergeddau
- anaphylacsis
- ymateb o bryder
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwyddion llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Man Ymlacio
Ystafell neu fan yn y spa sy'n rhoi amser i'r cleient ymlacio, gorffwyso ac oeri rhwng triniaethau mewn amgylchedd ddiogel. Mae'r fan yma yn gadael i gleientau yfed dŵr/hylifau er mwyn ailhydradu'r corff a darllen yn ddistaw. * *
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Cyfleusterau a phrofiad lles
Gall cyfleusterau lles gynnwys mannau fel, man ymlacio, ystafelloedd newid, solariwm, campfeydd, dosbarthiadau ymarfer corff ac amgylcheddau triniaeth.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAS2, SKAS3, SKABS1, SKABBR2, SKAB4, SKABS1, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3