Rheoli a gwella perthnasoedd mewnol ac allanol sy’n ymwneud yn benodol â gwaith chwarae

URN: SKAPW99
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â rheoli perthnasoedd sy’n ymwneud yn benodol â gwaith chwarae; gan gynnwys perthnasoedd gyda phlant, pobl ifanc, gofalwyr a chydweithwyr. Mae’r safon hefyd yn cynnwys perthnasoedd gyda sefydliadau, asiantaethau ac unigolion sy’n gysylltiedig â gwaith chwarae er mwyn i chi gydweithio a hyrwyddo gwaith chwarae a’i werth i’r gymuned.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. gweithio gydag eraill i sefydlu a chynnal perthnasoedd
  2. arwain a chefnogi gwaith staff yn y lleoliad gwaith chwarae
  3. cydweithio gyda sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill

Mae’r safon hon ar gyfer unigolyn sy’n gweithio ym maes gwaith chwarae, ac sy’n rheoli amryw o safleoedd traws-sector; unigolyn sy’n gweithio mewn rôl sy’n cynnwys rheoli nifer o leoliadau gwaith chwarae sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc  chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Byddant yn gyfrifol am redeg y lleoliadau gwaith chwarae hyn, ac yn gyfrifol am staff niferus a’u lles.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio. *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gweithio gydag eraill i sefydlu a chynnal perthnasoedd

  1. sefydlu a chynnal perthnasoedd gydag eraill a staff
  2. cyfathrebu’n effeithiol gydag eraill a staff
  3. ymateb i gwestiynau, syniadau ac awgrymiadau
  4. rhannu a hyrwyddo gwybodaeth yn y gymuned ehangach, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  5. rheoli materion sy’n codi, anghytundeb neu gwynion gan eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  6. darparu cyngor a chanllawiau ar wasanaethau, asiantaethau neu weithwyr proffesiynol ategol a allai fod yn ddefnyddiol i eraill, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

*
*

Arwain a chefnogi gwaith staff yn y lleoliad gwaith chwarae

*
*

*7. monitro’r gwaith o gadw a datblygu staff
8. darparu *
gwybodaeth
er mwyn galluogi staff i gefnogi anghenion plant a phobl ifanc, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
9. rheoli rolau, cyfrifoldebau, buddiannau a phryderon staff
10. ymgynghori â staff ynghylch penderfyniadau a gweithgareddau ac ystyried eu safbwyntiau
11. hwyluso cytundebau a wnaed gyda staff a rhoi gwybod iddyn nhw
12. rheoli unrhyw wrthdaro o ran buddiannau ac anghytuno ymhlith staff, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
13. rheoli a chymryd rhan mewn ymarfer adfyfyriol gydag staff

Cydweithio gyda sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill

  1. meithrin cysylltiadau gyda sefydliadau, asiantaethau ac unigolion y byddech yn gallu cydweithio gyda nhw
  2. ymateb i ymholiadau gan sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  3. cyfnewid gwybodaeth berthnasol mewn cytundeb gyda’r sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill
  4. cyfathrebu pwrpas, gwerthoedd a dulliau eich maes gwaith gyda sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill a’r gymuned yn ehangach
  5. cyfathrebu gwybodaeth mewn iaith ac arddull sy’n addas i’r sefydliadau, asiantaethau ac unigolion sy’n gysylltiedig
  6. ymchwilio i gyfleoedd ariannu posib o ffynonellau allanol ar gyfer prosiect gwaith ar y cyd
  7. gwerthuso canfyddiadau’r ymchwil a nodi canlyniadau
  8. cytuno ar baramedrau ar gyfer cydweithio gyda sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill
  9. cytuno ar amserlen ar gyfer cydweithio gyda sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill
  10. cytuno ar gyfrifoldebau sy’n ddichonadwy ac sy’n gyson â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  11. cytuno sut y byddwch yn monitro ac yn adolygu effeithiolrwydd yr amserlen ar gyfer cydweithio gyda sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill
  12. cynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gyda sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill wrth gydweithio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gweithio gydag eraill i sefydlu a chynnal perthnasoedd

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r  egwyddorion i’ch gwaith chi.
  2. sut i feithrin a chynnal perthynas waith gydag eraill
  3. pwysigrwydd cyfathrebu’n effeithiol
  4. sut i hwyluso dealltwriaeth pobl o nodweddion unigryw, amrywiaeth a gwahaniaethau
  5. sut i hwyluso dealltwriaeth pobl o deimladau a safbwyntiau pobl eraill
  6. pwysigrwydd ymateb i gwestiynau, syniadau ac awgrymiadau
  7. sut i adnabod a gwerthfawrogi nodweddion unigryw a gwahaniaethau
  8. y math o wybodaeth sydd i’w rhannu a’i hyrwyddo
  9. pwysigrwydd hyrwyddo eich maes gwaith eich hun a’i werthoedd, pwrpas a dulliau yn ehangach, i’r gymuned
  10. y mathau o gyfleoedd y byddech yn gallu eu defnyddio i hyrwyddo eich gwaith a’ch sefydliad a sut i nodi cyfleoedd newydd addas
  11. y mathau o faterion, anghytuno neu gwynion gan eraill a ffyrdd y gallech eu rheoli
  12. y mathau o wasanaethau, asiantaethau neu weithwyr proffesiynol atodol fyddai’n gallu rhoi mwy o arweiniad a chymorth

Arwain a chefnogi gwaith staff yn y lleoliad gwaith chwarae

  1. sut i hybu amgylchedd sy’n cymell ac yn cadw staff
  2. sut i gefnogi datblygiad staff
  3. pwysigrwydd ysgogi, cadw a datblygu staff
  4. ffyrdd o ddarparu gwybodaeth er mwyn galluogi staff i gefnogi anghenion plant a phobl ifanc
  5. sut i reoli rolau, cyfrifoldebau, buddiannau a phryderon staff
  6. pwysigrwydd ymgynghori gyda staff ac ystyried eu safbwyntiau mewn perthynas â phenderfyniadau a gweithgareddau
  7. sut i hwyluso cytundebau a wnaed gyda staff a phwysigrwydd rhoi gwybodaeth iddyn nhw
  8. sut i nodi gwrthdaro o ran buddiannau ac anghytuno ymhlith staff
  9. eich polisïau a gweithdrefnau sefydliadol i reoli gwrthdaro o ran buddiannau ac anghytuno ymhlith staff
  10. pwysigrwydd rheoli a chymryd rhan mewn ymarfer adfyfyriol gyda staff

Cydweithio gyda sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill

  1. pwysigrwydd rhwydweithio er mwyn hyrwyddo eich sefydliad
  2. sut i nodi a chreu cysylltiadau gyda sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill y gallech gydweithio gyda nhw
  3. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymateb i ymholiadau gan sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill
  4. ffyrdd o rannu gwybodaeth mewn cytundeb gyda’r sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill
  5. y gwahanol fathau o sefydliadau, asiantaethau ac unigolion y gallech gydweithio gyda nhw i ddatblygu polisi neu strategaeth lleol ar y cyd i fynd i’r afael â phrosiect
  6. sgiliau cyflwyno a chyfathrebu a sut i addasu iaith ac arddull cyflwyno ar gyfer anghenion gwahanol gynulleidfaoedd gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion cyfathrebu gwahanol o bosib
  7. sut i hyrwyddo eich maes gwaith mewn ffordd sy’n ystyried rhagdybiaethau a safbwyntiau pobl eraill
  8. dulliau ymchwil ar gyfer canfod cyfleoedd ariannu posib o ffynonellau allanol
  9. dulliau gwerthuso ar gyfer nodi canlyniadau canfyddiadau’r gwaith ymchwil
  10. gofynion sylfaenol ysgrifennu bidiau er mwyn gwneud ceisiadau am arian allanol
  11. y buddion ar y cyd a fyddai’n deillio o gydweithio gyda’r sefydliadau, asiantaethau ac unigolion hyn
  12. y sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer gweithio ar y cyd yn llwyddiannus
  13. pwysigrwydd cytuno’n glir ar y paramedrau wrth gydweithio
  14. anawsterau posib sy’n gysylltiedig â chydweithio
  15. sgiliau cyd-drafod a datrys problemau sy’n berthnasol i weithio ar y cyd
  16. pwysigrwydd cadw mewn cysylltiad ac adolygu cynnydd gyda’r sefydliadau, asiantaethau ac unigolion eraill sy’n gysylltiedig a sut i wneud hyn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Eraill (o leiaf 4 allan o 5)
1. plant a phobl ifanc
2. rhieni a/neu ofalwyr
3. cydweithwyr
4. gweithwyr proffesiynol eraill

Gwybodaeth
1. am chwarae a gwaith chwarae
2. am brofiadau’r plant a’r bobl ifanc
3. am y cyfleoedd sydd ar gael yn y lleoliad gwaith chwarae
4. am y gweithdrefnau a’r gwerthoedd a gytunwyd
5. am y ffyrdd y gall rhieni a/neu ofalwyr gymryd rhan yn y lleoliad gwaith chwarae

Safbwyntiau
1. blaenoriaethau
2. disgwyliadau
3. agweddau at risgiau posib

Sefydliadau, asiantaethau ac unigolion (o leiaf 3 allan o 5)
1. yn y maes gwaith chwarae
2. mewn meysydd arbenigol eraill
3. statudol
4. anstatudol
5. y rhai hynny sy’n draddodiadol yn wynebu rhwystrau o ran
Mynediad

Cyfathrebu (o leiaf 3 allan o 5)
1. ieithoedd confensiynol
2. ieithoedd anghonfensiynol
3. cyfathrebu heb fod yn llafar
4. llenyddiaeth ysgrifenedig
5. deunydd hyrwyddo a marchnata

Prosiect
1. rhannu syniadau
2. adnoddau
3. digwyddiadau cymdeithasol
4. dathliadau, fel Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

Paramedrau
1. nodau ac amcanion
2. rolau, cyfrifoldebau a dull o rannu gwaith
3. dull gweithredu
4. proses
5. ethos
6. pwyslais
7. mesurau wrth gefn


Gwybodaeth Cwmpas

Eraill
1. plant a phobl ifanc                                                                  2. rhieni a /neu ofalwyr
3. cydweithwyr
4. asiantaethau
5. gweithwyr proffesiynol eraill

Gwybodaeth
1. am chwarae a gwaith chwarae
2. am brofiadau’r plant a’r bobl ifanc
3. am y cyfleoedd sydd ar gael yn y lleoliad gwaith chwarae
4. am y gweithdrefnau a’r gwerthoedd a gytunwyd
5. am y ffyrdd y gall rhieni a/neu ofalwyr gymryd rhan yn y lleoliad gwaith chwarae

Safbwyntiau
1. blaenoriaethau
2. disgwyliadau
3. agweddau at risgiau posib

Sefydliadau, asiantaethau ac unigolion
1. yn y maes gwaith chwarae
2. mewn meysydd arbenigol eraill
3. statudol
4. anstatudol
5. y rhai hynny sy’n draddodiadol yn wynebu rhwystrau o ran
mynediad

Prosiect
1. rhannu syniadau
2. adnoddau
3. digwyddiadau cymdeithasol
4. dathliadau, fel Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

Cyfathrebu
1. ieithoedd confensiynol
2. ieithoedd anghonfensiynol
3. cyfathrebu heb fod yn llafar
4. llenyddiaeth ysgrifenedig
5. deunydd hyrwyddo a marchnata

Gofynion        
1. gwaith ymchwil cyflawn a chymhellol
2. canlyniadau clir a mesuradwy
3. nodau ac amcanion clir
4. ymgysylltu â’r gynulleidfa darged
5. modelau rheoli ac ariannol cadarn
6. dangos ffydd yn y sefydliad

Sgiliau a rhinweddau
1. ymddiriedaeth a gonestrwydd
2. gallu i gydweithio
3. pendantrwydd
4. sgiliau gwrando
5. dibynadwyedd
6. rheoli amser
7. adnabod cryfderau, gwendidau a phersonoliaethau eraill

Paramedrau
1. nodau ac amcanion
2. rolau, cyfrifoldebau a dull o rannu gwaith
3. dull gweithredu
4. proses
5. ethos
6. pwyslais
7. mesurau wrth gefn

Anawsterau
1. personoliaethau yn gwrthdaro
2. diffyg cyfathrebu
3. ymrafael am bŵer
4. amserlenni afrealistig
5. rhannu llwyth gwaith yn annheg
6. y drafodaeth yn ‘colli cyfeiriad’ mewn cyfarfodydd


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seiber.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

Newydd

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

perthnasoedd mewnol ac allanol; gweithio ar y cyd; gwaith chwarae; lleoliad gwaith chwarae