Ymchwilio, cynllunio a hwyluso posibiliadau ar gyfer chwarae hunangyfeiriedig

URN: SKAPW96
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â nodi anghenion a dewisiadau unigol plant a phobl ifanc wrth chwarae, datblygu mannau chwarae a fydd yn diwallu’r anghenion hyn, a rhoi cymorth i blant a phobl ifanc yn ystod chwarae. Mae’r safon yn addas ar gyfer pob lleoliad gwaith chwarae sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae yn hunangyfeiriedig, yn ôl eu dymuniad eu hunain.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. ymchwilio i theorïau ymddygiad chwarae a gwaith chwarae a’u gwerthuso
  2. cynllunio a hwyluso posibiliadau ar gyfer chwarae hunangyfeiriedig
  3. hwyluso chwarae hunangyfeiriedig gyda phlant a phobl ifanc

Mae’r safon hon ar gyfer unigolyn sy’n gweithio ym maes gwaith chwarae, ac sy’n rheoli amryw o safleoedd traws-sector; unigolyn sy’n gweithio mewn rôl sy’n cynnwys rheoli nifer o leoliadau gwaith chwarae sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc  chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Byddant yn gyfrifol am redeg y lleoliadau gwaith chwarae hyn, ac yn gyfrifol am staff niferus a’u lles.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio.   *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Ymchwilio i theorïau ymddygiad chwarae a gwaith chwarae a’u gwerthuso

  1. ymchwilio i theorïau chwarae
  2. ymchwilio i theorïau gwaith chwarae
  3. defnyddio dulliau o gasglu gwybodaeth am chwarae plant a phobl ifanc
  4. gwerthuso theorïau gwaith chwarae yn feirniadol mewn perthynas â’r wybodaeth a gasglwyd
  5. gwerthuso gwybodaeth i nodi anghenion a dewisiadau chwarae y plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw
  6. defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd o’r dulliau a ddefnyddiwyd i ddiwallu anghenion a dewsiadau chwarae’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw
  7. ymchwilio a nodi amryw o leoliadau chwarae, dulliau gweithredu, deunyddiau ac adnoddau chwarae a fydd yn diwallu anghenion a dewisiadau’r plant a’r bobl ifanc
  8. rhannu canlyniad eich ymchwil a gwerthuso gydag eraill drwy waith adfyfyriol

Cynllunio a hwyluso posibiliadau ar gyfer chwarae hunangyfeiriedig

  1. addasu lleoliadau gwaith chwarae, dulliau gweithredu, deunyddiau ac adnoddau er mwyn nodi mannau chwarae addas a phosibiliadau ar gyfer chwarae hunangyfeiriedig
  2. cynllunio a chreu posibiliadau ar gyfer chwarae hunangyfeiriedig sy’n adlewyrchu eich ymchwil a rhyngweithio gyda phlant a phobl ifanc
  3. cynllunio a chreu lleoliadau gwaith chwarae i ddarparu deiet chwarae amrywiol a chyfoethog
  4. cael adnoddau cynaliadwy
  5. creu mannau chwarae ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc
  6. monitro’r gwaith o reoli risg yn y mannau chwarae, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol

Hwyluso chwarae hunangyfeiriedig gyda phlant a phobl ifanc

  1. darparu cymorth i eraill a modelu sut i hwyluso creu a /neu addasu mannau chwarae i ddiwallu anghenion a dewisiadau plant a phobl ifanc.
  2. hwyluso chwarae plant a phobl ifanc er mwyn eu galluogi i ddewis
  3. monitro cydymffurfiaeth y polisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer y mannau chwarae
  4. defnyddio a modelu amryw o arddulliau ymyrraeth i gefnogi chwarae hunangyfeiriedig
  5. modelu stoc o ymatebion i giwiau chwarae plant
  6. addasu’r lleoliadau gwaith chwarae a chyflwyno elfennau newydd mewn ffordd sy’n diwallu anghenion a dewisiadau’r plant a’r bobl ifanc

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Ymchwilio a gwerthuso theorïau ymddygiad chwarae a gwaith chwarae

**1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r  egwyddorion i’ch gwaith chi.
2. theorïau chwarae
3. theorïau a modelau gwaith chwarae
4. mathau o ymddygiad sy’n gysylltiedig â chwarae
5. manteision chwarae yn y tymor hir a’r tymor byr
6. theorïau o ddisgyblaethau eraill fel seicoleg, bioleg a chymdeithaseg sy’n berthnasol i ddealltwriaeth o chwarae
7. cysyniadau chwarae sy’n gwrthddweud ei gilydd, e.e cymdeithasoli, amddiffyn ac iawndal
8. sut i werthuso’n feirniadol gwybodaeth a gasglwyd o’r gwaith ymchwil
9. sut i gymhwyso’r wybodaeth a gasglwyd o’r dulliau a ddefnyddiwyd i ddiwallu anghenion a dewisiadau chwarae
10. amryw o leoliadau gwaith chwarae, dulliau gweithredu, deunyddiau ac adnoddau a fydd yn diwallu anghenion a dewisiadau chwarae
11. pwysigrwydd ymarfer adfyfyriol i rannu canlyniadau’r ymchwil a’r gwerthusiad

Cynllunio a hwyluso posibiliadau ar gyfer chwarae hunangyfeiriedig

  1. sut gellir defnyddio lleoliadau chwarae, dulliau gweithredu, deunyddiau ac adnoddau i nodi mannau chwarae addas a phosibiliadau ar gyfer chwarae hunangyfeiriedig
  2. bod chwarae yn ganolog i’r broses
  3. sut i sicrhau bod mannau chwarae yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
  4. sut i nodi rhwystrau posib rhag chwarae a sut i fynd i’r afael â’r rhain
  5. beth yw ystyr deiet chwarae amrywiol a chyfoethog
  6. sut i ddefnyddio eich gwaith ymchwil a rhyngweithiau gyda phlant a phobl ifanc wrth gynllunio a hwyluso lleoliad gwaith chwarae i ddarparu deiet chwarae amrywiol a chyfoethog
  7. sut i gynllunio ar gyfer sicrhau cyflenwad o adnoddau cynaliadwy
  8. sut i gynnwys plant a phobl ifanc wrth greu mannau chwarae
  9. sut i gasglu a gwerthuso gwybodaeth am brofiadau chwarae plant a phobl ifanc a phwysigrwydd defnyddio amryw o ddulliau

Hwyluso chwarae hunangyfeiriedig gyda phlant a phobl ifanc

  1. pwysigrwydd modelu arferion gwaith chwarae
  2. pwysigrwydd cefnogi eraill wrth hwyluso’r gwaith o greu neu addasu mannau chwarae er mwyn diwallu anghenion a dewisiadau plant a phobl ifanc
  3. dulliau o alluogi plant a phobl ifanc i ddewis, archwilio, rhyngweithio ac ymateb i amryw o fannau chwarae
  4. sut i fynd i’r afael â methiant i gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer y lleoliad gwaith chwarae
  5. pob agwedd ar seicolwdig
  6. beth yw addasu amgylcheddol
  7. beth yw newydd-deb
  8. beth yw hyblygrwydd cyfansawdd
  9. sut i fodelu dull gweithredu sy’n cefnogi plant a phobl ifanc i brofi heriau ac ansicrwydd
  10. y mathau o gymorth y bydd arnoch angen eu darparu o bosib a sut i benderfynu pryd mae’n addas i gynnig cymorth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Dulliau
Arsylwi a dadansoddi
1. y man chwarae a chwarae
2. y plant a’r bobl ifanc
Ymgynghori
1. ffurfiol ac anffurfiol

Adnoddau
1. dynol
2. amgylchedd ffisegol
3. offer a deunyddiau
4. ariannol            

Eraill (o leiaf 3 allan o 5)
1. staff
2. ymwelwyr
3. rhieni a /neu ofalwyr
4. llywodraethwyr
5. uwch reolwyr

Mannau chwarae
1. ffisegol
2. affeithiol
3. dros dro
4. parhaol
5. seiber


Gwybodaeth Cwmpas

Mathau o ymddygiad
1. wedi ei gyfeirio’n bersonol
2. â chymhelliad cynhenid
3. mewn cyd-destun diogel
4. digymell
5. heb nod
6. lle mae’r cynnwys a’r bwriad o dan reolaeth y plant a’r bobl ifanc                

Dulliau
Arsylwi a dadansoddi
1. y man chwarae a’r chwarae
2. y plant a’r bobl ifanc
Ymgynghori
1. ffurfiol ac anffurfiol

Adnoddau
1. dynol
2. amgylchedd ffisegol
3. offer a deunyddiau
4. ariannol            

Mannau chwarae
1. ffisegol
2. affeithiol
3. dros dro
4. parhaol
5. seiber

Heriau ac ansicrwydd
1. corfforol
2. emosiynol
3. ymddygiad
4. amgylcheddol


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Dulliau Ymyrraeth
Gwahanol ddulliau mae modd i’r gweithiwr chwarae eu ddefnyddio yn y lleoliad gwaith chwarae. Gall y rhain amrywio o ddim ymyrraeth o gwbl i fathau penodol o ymyrraeth, ac fe allan nhw gynnwys: aros i gael gwahoddiad i chwarae; galluogi i’r plant chwarae heb ymyrraeth; galluogi i blant a phobl ifanc archwilio’u gwerthoedd eu hunain; gadael i’r plant a’r bobl ifanc wella eu perfformiad eu hunain,  gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu ar gynnwys a diben y chwarae; gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu pam eu bod yn chwarae; gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu beth sy’n ymddygiad priodol; a dim ond trefnu pan fod ar y plant a’r bobl ifanc eisiau i chi wneud hynny

Ciwiau chwarae
Mynegiant wyneb, iaith neu iaith y corff sy’n cyfleu dymuniad y plentyn neu’r unigolyn ifanc i chwarae neu sy’n gwahodd eraill i chwarae

Anghenion chwarae
Yr hyn y mae’n rhaid i blant a phobl ifanc ei gael er mwyn gallu chwarae, ond nad ydyn nhw bob amser ar gael am wahanol resymau; er enghraifft, diffyg mynediad, oedolion goramddiffynnol, diffyg mannau awyr agored, ac ati

Dewisiadau chwarae
Yr hyn mae plant a phobl ifanc yn ymddiddori ynddo ac yn dewis ei chwarae – ar sail eu profiadau blaenorol

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seiber.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Seicolwdig
Mynegiant wyneb, iaith neu iaith y corff sy’n cyfleu dymuniad y plentyn neu’r unigolyn ifanc i chwarae neu sy’n gwahodd eraill i chwarae

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW22

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ymchwil; cynllunio; hwyluso; chwarae hunangyfeiriedig; lleoliad gwaith chwarae