Datblygu fframwaith sefydliadol ar gyfer gwaith chwarae sy’n adlewyrchu anghenion plant a phobl ifanc ac sy’n amddiffyn eu hawliau
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon ag ymchwilio i agweddau allweddol ym maes theori ac arferion gwaith chwarae, cymharu arfer gorau yn y cyd-destun rydych yn gweithio ynddo a cheisio dylanwadu ar bolisïau ac arferion eich sefydliad fel eu bod yn gyson ag arfer gorau.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- gwneud gwaith ymchwil a dadansoddi theori ac arferion gwaith chwarae
- gwerthuso a /neu ddiwygio fframwaith eich sefydliad
Mae’r safon hon ar gyfer unigolyn sy’n gweithio ym maes gwaith chwarae, ac sy’n rheoli amryw o safleoedd traws-sector; unigolyn sy’n gweithio mewn rôl sy’n cynnwys rheoli nifer o leoliadau gwaith chwarae sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Byddant yn gyfrifol am redeg y lleoliadau gwaith chwarae hyn, ac yn gyfrifol am staff niferus a’u lles.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwneud gwaith ymchwil a dadansoddi theori ac arferion gwaith chwarae
- ymchwilio i ffynonellau gwybodaeth am waith chwarae
- dadansoddi gwybodaeth a nodi agweddau allweddol ar theori ac arferion gwaith chwarae sy’n berthnasol i’ch lleoliad gwaith chwarae a’r plant a’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw
- myfyrio ar eich dadansoddiad gydag eraill
- cytuno gydag eraill pa agweddau ar theori ac arferion gwaith chwarae cyfredol sydd fwyaf perthnasol i’ch lleoliad gwaith chwarae ac anghenion a hawliau’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw
Gwerthuso a /neu ddiwygio fframwaith eich sefydliad
- defnyddio canfyddiadau eich ymchwil, a sylwadau y rhieni y gwnaethoch ymgynghori â nhw fel sail ar gyfer adolygu fframwaith eich sefydliad
- gwerthuso polisïau a gweithdrefnau er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion a hawliau’r plant a’r bobl ifanc
- cyflwyno dewisiadau i eraill ar sut i wella a rhoi’r polisïau a gweithdrefnau ar waith
- datblygu neu ddiwygio fframwaith eich sefydliad yn unol â’ch canfyddiadau a gofynion cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol cyfredol
- rhoi gwybod i’r holl staff am fframwaith diwygiedig eich sefydliad
- sicrhau bod yr holl staff yn deall y fframwaith diwygiedig ac yn ei rhoi ar waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwneud gwaith ymchwil a dadansoddi theori ac arferion gwaith chwarae
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
- ffynonellau gwybodaeth y gellir eu defnyddio i ymchwilio i theori ac arferion gwaith chwarae cyfredol a sut i ddod o hyd iddynt
- sut mae theori ac arferion gwaith chwarae yn seiliedig ar ymchwil a theorïau disgyblaethau academaidd eraill
- pwysigrwydd cadw gwaith ymchwil yn gyfredol
- sut i adolygu fframwaith eich sefydliad yn erbyn theori ac arferion gwaith chwarae
- sut i nodi anghenion a hawliau perthnasol plant a phobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw
- sut i fyfyrio ac ymgysylltu ag eraill a pham mae hyn yn bwysig
Gwerthuso a /neu ddiwygio fframwaith eich sefydliad
- sut i adolygu, gwerthuso a diwygio fframwaith presennol eich sefydliad
- pwysigrwydd sicrhau bod ethos gwaith chwarae yn ganolog i bolisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- sut i gyfathrebu gwybodaeth ac ymgysylltu ag eraill er mwyn dylanwadu ar y meysydd sydd wedi’u cynnwys yn y polisïau a gweithdrefnau
- pwysigrwydd cael polisïau ysgrifenedig sy’n adlewyrchu theori ac arferion gwaith chwarae
- ffyrdd o sicrhau bod staff yn deall fframwaith y sefydliad ac yn ei rhoi ar waith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Eraill
1. staff
2. rhieni a / neu ofalwyr
3. rheolwyr
Polisïau a gweithdrefnau (o leiaf 6 allan o 9)
1. asesiad risg-budd
2. rheoli risg
3. staffio
4. strategaethau ar gyfer ymyrraeth gan oedolion a’u heffaith ar chwarae plant a phobl ifanc
5. strategaethau ar gyfer gofal ac amddiffyn
6. strategaethau ar gyfer cynhwysiant
7. strategaethau ar gyfer arfer gwrth-wahaniaethol
8. strategaethau ar gyfer ymateb i ymddygiad
9. strategaethau ar gyfer cefnogi trosglwyddiadau
Gwybodaeth Cwmpas
Eraill
1. staff
2. rhieni a / neu ofalwyr
3. rheolwyr
Polisïau a gweithdrefnau
1. asesiad risg-budd
2. rheoli risg
3. staffio
4. strategaethau ar gyfer ymyrraeth gan oedolion a’u heffaith ar chwarae plant a phobl ifanc
5. strategaethau ar gyfer gofal ac amddiffyn
6. strategaethau ar gyfer cynhwysiant
7. strategaethau ar gyfer arfer gwrth-wahaniaethol
8. strategaethau ar gyfer ymateb i ymddygiad
9. strategaethau ar gyfer cefnogi trosglwyddiadau
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Darpariaeth chwarae
Lleoedd sy’n cael eu ffurfio gan oedolion lle gall plant a phobl ifanc chwarae
Man chwarae
Lle sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Ethos gwaith chwarae
Y credoau neu’r delfrydau arweiniol wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn rhoi cymorth a rhyddid iddynt gael profiadau cadarnhaol drwy chwarae; dylid cyfeirio at yr Egwyddorion Gwaith chwarae
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.