Rheoli cynlluniau gweithredol ar gyfer darpariaeth chwarae
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â datblygu ac adolygu’r cynllun gweithredol a rheoli’r newidiadau a ddaw yn sgil hynny; ac yna sicrhau bod gwerthoedd, polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad yn cael eu rhoi ar waith.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- datblygu, gweithredu ac adolygu cynlluniau gweithredol ar gyfer darpariaeth chwarae
- rheoli newid yn y ddarpariaeth chwarae
Mae’r safon hon ar gyfer unigolyn sy’n gweithio ym maes gwaith chwarae, ac sy’n rheoli amryw o safleoedd traws-sector; unigolyn sy’n gweithio mewn rôl sy’n cynnwys rheoli nifer o leoliadau gwaith chwarae sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Byddant yn gyfrifol am redeg y lleoliadau gwaith chwarae hyn, ac yn gyfrifol am staff niferus a’u lles.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Datblygu, gweithredu ac adolygu cynlluniau gweithredol ar gyfer y ddarpariaeth chwarae
- adolygu a diweddaru eich cynllun gweithredol i adlewyrchu strategaeth, polisïau, gweithdrefnau a gwerthoedd eich sefydliad
- cyfathrebu wrth eraill beth yw swyddogaeth a phwysigrwydd y cynllun gweithredol
- casglu adborth gan eraill a dadansoddi’r wybodaeth
- sefydlu unrhyw newidiadau o ran targedau a deilliannau ar gyfer y ddarpariaeth chwarae
- cyd-drafod pwy sy’n gyfrifol am gyflawni’r newidiadau arfaethedig i’r targedau a deilliannau er mwyn cefnogi’r cynllun gweithredol
- dyrannu adnoddau i gyflawni’r newidiadau arfaethedig i’r targedau a deilliannau er mwyn cefnogi’r cynllun gweithredol
- casglu gwybodaeth am weithrediad eich cynllun gweithredol
- rhoi cymorth i eraill rydych yn gyfrifol amdanynt yn ôl yr angen
Rheoli newid yn y ddarpariaeth chwarae
- cyfathrebu wrth erail*l* yr angen am y newid arfaethedig a’i fanteision
- cynllunio a chyd-drafod gydag eraill er mwyn cytuno pwy sy’n gyfrifol am reoli newid
- rhoi camau ar waith i fynd i’r afael â newid yn eich maes cyfrifoldeb
- cefnogi pobl eraill sy’n gysylltiedig â’r broses
- monitro cynnydd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl eraill sy’n gysylltiedig â’r broses
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Datblygu, gweithredu ac adolygu cynlluniau gweithredol ar gyfer y ddarpariaeth chwarae
*
*
*1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi.
2. theori ac arferion cynllunio gweithredol, fel maen nhw’n berthnasol i gyd-destun gwaith chwarae
3. sut i nodi’r prif *dargedau a deilliannau y dylai cynllun gweithredol fynd i’r afael â nhw
4. y mathau o gynlluniau gweithredol a’u swyddogaethau a’u pwysigrwydd
5. strategaethau ar gyfer cyfathrebu a negodi ag eraill
6. sut i werthuso’r dulliau gorau o gasglu adborth gan eraill
7. sut i ddadansoddi’r wybodaeth a gasglwyd o’r adborth
8. sut i adolygu cynllun gweithredol
9. y gyrwyr a all ddylanwadu ar eich cynllun gweithredol
10. sut i osod nodau realistig ar gyfer gwneud y newidiadau a nodwyd ar gyfer targedau a deilliannau y ddarpariaeth chwarae
11. sut i nodi, meintioli a dyrannu’r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi cynllun gweithredol ar gyfer y ddarpariaeth chwarae
12. pam mae monitro a gwerthuso yn bwysig i roi eich cynllun gweithredol ar waith
13. pam ei bod yn hanfodol i chi wneud addasiadau i gynllun gweithredol er mwyn cymryd ystyriaeth o’ch gwaith monitro a gwerthuso
14. y mathau o gymorth y gall fod eu hangen ar eraill
Rheoli newid yn y ddarpariaeth chwarae
- theori ac arferion rheoli newid, fel maen nhw’n berthnasol i ddarpariaeth chwarae
- pwysigrwydd cyfathrebu gydag eraill yr angen am y newid arfaethedig a’i fanteision
- sut i rymuso eraill i gyfrannu at y broses o newid a pham mae hyn yn bwysig
- rhwystrau posibl i newid a sut i fynd i’r afael â’r rhain yn eich sefydliad
- dulliau o fonitro cynnydd a pham ei bod yn bwysig i roi gwybod i eraill
- mathau o gymorth y gall fod eu hangen ar bobl yn ystod cyfnod o newid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Cynllun gweithredol (o leiaf 5 allan o 7)
1. darparu cyfleoedd i chwarae
2. lefelau staffio
3. amseroedd a dyddiadau agor
4. gofal ac amddiffyn
5. amrywiaeth a chynhwysiant
6. marchnata a hyrwyddo
7. gweithio mewn partneriaeth
Eraill
1. plant a phobl ifanc
2. rhieni a/neu ofalwyr
3. staff
4. pobl allanol
Newidiadau (o leiaf 4 allan o 6)
1. i’r ddarpariaeth ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae a mannau chwarae ynddyn nhw
2. mewn perthynas â gofal ac amddiffyn
3. mewn perthynas â chynhwysiant
4. mewn perthynas â marchnata a hyrwyddo
5. mewn perthynas â gweithio mewn partneriaeth
6. mewn perthynas ag ymateb i ymddygiad
Targedau a deilliannau
1. darparu lleoliadau gwaith chwarae a mannau chwarae ynddyn nhw
2. gofal ac amddiffyn
3. cynhwysiant
4. marchnata a hyrwyddo
5. gweithio mewn partneriaeth
Adnoddau
1. pobl
2. cyllid
3. amser
4. cyfleusterau ac offer
Gwybodaeth Cwmpas
Targedau a deilliannau
1. darparu lleoliadau gwaith chwarae a mannau chwarae ynddyn nhw
2. gofal ac amddiffyn
3. cynhwysiant
4. marchnata a hyrwyddo
5. gweithio mewn partneriaeth
Cynllun gweithredol
1. darparu cyfleoedd i chwarae
2. lefelau staffio
3. amseroedd a dyddiadau agor
4. gofal ac amddiffyn
5. amrywiaeth a chynhwysiant
6. marchnata a hyrwyddo
7. gweithio mewn partneriaeth
Eraill
1. plant a phobl ifanc
2. rhieni a/neu ofalwyr
3. staff
4. pobl allanol
Gyrwyr
1. deddfwriaeth
2. cymdeithasol a chymunedol
3. gwleidyddol
4. gwleidyddol
5. amgylcheddol
6. technolegol
7. ymchwil cyfoes
Adnoddau
1. pobl
2. cyllid
3. amser
4. cyfleusterau ac offer
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Darpariaeth chwarae
Lleoedd sy’n cael eu ffurfio gan oedolion lle gall plant a phobl ifanc chwarae.
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.