Rheoli, datblygu ac adolygu’r ddarpariaeth chwarae
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â chynnal a gwella’r cyfleusterau a’r gwasanaethau rydych yn gyfrifol amdanynt. Rhoddir llawer o bwyslais ar iechyd, diogelwch, asesu risg a rheoli risg. Fodd bynnag, mae’r safon hefyd yn ymdrin â gwella’r cyfleusterau a gwasanaethau rydych yn eu darparu mewn ymateb i anghenion defnyddwyr.
*
*
*
*
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- monitro gofynion y ddarpariaeth chwarae
- rheoli risg o fewn y ddarpariaeth chwarae
- cynnal a gwella cyfleusterau a gwasanaethau i gefnogi’r ddarpariaeth chwarae
Mae’r safon hon ar gyfer unigolyn sy’n gweithio ym maes gwaith chwarae, ac sy’n rheoli amryw o safleoedd traws-sector; unigolyn sy’n gweithio mewn rôl sy’n cynnwys rheoli nifer o leoliadau gwaith chwarae sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Byddant yn gyfrifol am redeg y lleoliadau gwaith chwarae hyn, ac yn gyfrifol am staff niferus a’u lles.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Monitro gofynion y ddarpariaeth chwarae
- cynnal archwiliadau rheolaidd o’r ddarpariaeth chwarae, yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol
- cadw cofnodion yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol
- ymgynghori â staff a defnyddwyr y ddarpariaeth chwarae a nodi’r meysydd y byddai’n bosib eu gwella yn eu barn nhw
- galluogi staff, rhieni, gofalwyr ac asiantaethau allanol i weld y cofnodion yn ôl yr angen, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- rhoi adroddiadau i’ch sefydliad ac asiantaethau allanol
Rheoli risg o fewn y ddarpariaeth chwarae
- sefydlu gweithdrefnau ar gyfer rheoli risg i lefel sy’n dderbyniol i’ch sefydliad ac yn unol â gofynion cyfreithiol a rheoleiddio
- cynnal asesiadau risg-budd o’r ddarpariaeth chwarae yn unol â gofynion cyfreithiol a rheoleiddio
- gofyn am gyngor gan rywun cymwys os nad ydych yn siŵr sut i leihau’r risgiau a nodwyd
- sicrhau bod pawb sy’n defnyddio’r ddarpariaeth chwarae yn derbyn gwybodaeth gywir am y peryglon a’r risgiau a’r camau rydych chi wedi eu cymryd i’w rheoli
- cynnal adolygiadau rheolaidd o’ch gweithdrefnau i asesu a rheoli risgiau yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol
Cynnal a gwella cyfleusterau a gwasanaethau i gefnogi’r ddarpariaeth chwarae
- nodi agweddau ar y ddarpariaeth chwarae nad ydyn nhw’n bodloni gofynion cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol neu ddisgwyliadau eich defnyddwyr
- ymgynghori â staff a defnyddwyr i nodi cyfleoedd ar gyfer cynnal a gwella
- cytuno ar gyllideb ac amserlen ar gyfer y gwaith
- rheoli’r amserlen ar gyfer gwneud gwaith cynnal a gwelliannau i’r ddarpariaeth chwarae yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad er mwyn amharu cyn lleied â phosib ar y ddarpariaeth
- monitro’r gwaith cynnal a gwelliannau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gwneud yn unol â’r amserlen a’r gyllideb ac y byddant yn bodloni gofynion cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol
- rhoi gwybod i’r holl staff a defnyddwyr sut mae’r gwaith cynnal a’r gwelliannau yn dod yn eu blaen a sôn am unrhyw newidiadau neu oedi
- cadw cofnodion cywir o’r gweithgareddau cynnal a gwella
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Monitro gofynion y ddarpariaeth chwarae
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
- y gofynion cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol sy’n gymwys i’ch darpariaeth chwarae a pam eu bod yn bwysig
- y cofnodion y mae disgwyl i chi eu cadw yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol a phwy all eu gweld
- y gofynion cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol ar gyfer archwilio’r ddarpariaeth chwarae yn rheolaidd a pha mor aml y dylid cynnal archwiliadau
- gweithdrefnau effeithiol ar gyfer ymgynghori â staff a defnyddwyr eich darpariaeth chwarae
- pwysigrwydd ymgynghori ac ymwneud â staff a defnyddwyr eich darpariaeth chwarae
- yr adroddiadau sydd arnoch angen eu llunio ar gyfer eich sefydliad ac asiantaethau allanol a pham eu bod yn bwysig
Rheoli risg o fewn y ddarpariaeth chwarae
**
*8. lefelau derbyniol o risg yn unol â gofynion sefydliadol, cyfreithiol a rheoleiddio ar gyfer y math o beryglon rydych yn debygol o ddod ar eu traws yn eich *darpariaeth chwarae
9. sut i gynnal asesiadau risg-budd ar bob agwedd o’r ddarpariaeth chwarae, yn unol â gofynion cyfreithiol a rheoleiddio
10. canllawiau cenedlaethol cydnabyddedig cyfredol sy’n ymwneud â rheoli risg, gan barhau i gynnig her i blant a phobl ifanc wrth chwarae
11. pwy ddylech eu cynnwys wrth gynnal asesiadau risg-budd
12. pwy neu beth sy’n ffynhonnell wybodaeth gymwys ar faterion yn ymwneud â risg a rheoli risg
13. sut i gyfathrebu gyda staff a defnyddwyr ar faterion yn ymwneud â risg a rheoli risg
14. y risgiau penodol y gall rhai defnyddwyr eu hwynebu a sut i’w rheoli’n effeithiol
15. pwysigrwydd cynnal adolygiadau rheolaidd a, lle bo’r angen, diweddaru asesiadau risg-budd, yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol
Cynnal a gwella cyfleusterau a gwasanaethau i gefnogi’r
ddarpariaeth chwarae
- pwysigrwydd cynnal ansawdd eich darpariaeth chwarae a cheisio gwneud gwelliannau parhaus
- dulliau o ymgynghori ac ymwneud â staff a defnyddwyr i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella
- pryd dylid gofyn am gyngor ar faterion yn ymwneud â gwella’r ddarpariaeth chwarae ac i bwy ddylech chi ofyn
- gweithdrefnau ar gyfer gwneud gwaith cynnal a gwelliannau i’ch darpariaeth chwarae er mwyn amharu cyn lleied â phosib ar y ddarpariaeth
- pwysigrwydd cadw at yr amserlen a’r gyllideb a materion a allai godi
- pwysigrwydd cadw cofnodion o’r newidiadau i’ch darpariaeth chwarae
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Darpariaeth chwarae
Cyfleusterau
1. tir ac adeiladau
2. offer chwarae ac adnoddau eraill
3. toiledau a darpariaeth hylendid eraill
4. ardaloedd paratoi a gweini bwyd a diod
Gwasanaethau (o leiaf 5 allan o 8)
1. chwarae
2. iechyd, diogelwch ac amddiffyn plant a phobl ifanc
3. cofnodi presenoldeb
4. teithiau oddi ar y safle
5. darparu bwyd a diod
6. cynhwysiant
7. ymateb i ymddygiad
8. gweithio gyda rhieni a gofalwyr
Defnyddwyr
1. plant a phobl ifanc
2. rhieni a/neu ofalwyr
3. grwpiau sy’n defnyddio’r cyfleusterau neu wasanaethau
4. grwpiau sy’n draddodiadol yn wynebu rhwystrau o ran mynediad
Gwybodaeth Cwmpas
Darpariaeth chwarae
Cyfleusterau
1. tir ac adeiladau
2. offer chwarae ac adnoddau eraill
3. toiledau a darpariaeth hylendid eraill
4. ardaloedd paratoi a gweini bwyd a diod
Gwasanaethau
1. chwarae
2. iechyd, diogelwch ac amddiffyn plant a phobl ifanc
3. cofnodi presenoldeb
4. teithiau oddi ar y safle
5. darparu bwyd a diod
6. cynhwysiant
7. ymateb i ymddygiad
8. gweithio gyda rhieni a gofalwyr
Defnyddwyr
1. plant a phobl ifanc
2. rhieni a/neu ofalwyr
3. grwpiau sy’n defnyddio’r cyfleusterau neu wasanaethau
4. grwpiau sy’n draddodiadol yn wynebu rhwystrau o ran mynediad
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Darpariaeth chwarae
Lleoedd sy’n cael eu ffurfio gan oedolion lle gall plant a phobl ifanc chwarae.
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.