Rhoi fframweithiau cyfoes ar waith yng nghyd-destun gwaith chwarae

URN: SKAPW92
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon ag ymchwilio i fframweithiau cyfoes sy’n effeithio ar weithio gyda phlant a phobl ifanc yng nghyd-destun gwaith chwarae, dadansoddi polisïau ac arferion cyfredol yn y lleoliad gwaith chwarae lle rydych yn gweithio a cheisio diweddaru a gweithredu polisïau ac arferion eich sefydliad fel eu bod yn gyson â fframweithiau cyfoes.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. gwneud gwaith ymchwil a dadansoddi fframweithiau cyfoes ac allweddol perthnasol yng nghyd-destun gwaith chwarae
  2. adolygu, diweddaru a gweithredu polisïau ac arferion ar sail dadansoddiad

Mae’r safon hon ar gyfer unigolyn sy’n gweithio ym maes gwaith chwarae, ac sy’n rheoli amryw o safleoedd traws-sector; unigolyn sy’n gweithio mewn rôl sy’n cynnwys rheoli nifer o leoliadau gwaith chwarae sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc  chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Byddant yn gyfrifol am redeg y lleoliadau gwaith chwarae hyn, ac yn gyfrifol am staff niferus a’u lles.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio.  *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gwneud gwaith ymchwil a dadansoddi fframweithiau cyfoes ac allweddol perthnasol yng nghyd-destun gwaith chwarae

  1. ymchwilio i ffynonellau gwybodaeth am fframweithiau cyfoes
  2. dadansoddi eich canfyddiadau o fframweithiau cyfoes ac allweddol sy’n berthnasol i’ch sefydliad a’r plant a’r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw
  3. trafod eich dadansoddiad gydag eraill
  4. cytuno gydag eraill pa fframweithiau cyfoes ac allweddol sydd fwyaf perthnasol i’ch sefydliad ac anghenion y plant a’r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw

Adolygu, diweddaru a gweithredu polisi ac arferion ar sail dadansoddiad

  1. defnyddio canfyddiadau’r gwaith ymchwil a’r dadansoddiad i adolygu eich fframwaith presennol
  2. cyflwyno gwybodaeth am fframweithiau cyfoes ac allweddol i eraill er mwyn llywio’r adolygiad o’r polisi ac arferion
  3. cytuno gydag eraill pa feysydd polisi ac arferion y gellid eu gwella, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. adolygu a diweddaru eich fframwaith presennol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad i fodloni gofynion fframweithiau cyfoes ac allweddol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwneud gwaith ymchwil a dadansoddi fframweithiau cyfoes ac
allweddol yng nghyd-destun gwaith chwarae

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
  2. y ffynonellau gwybodaeth y gellir eu defnyddio er mwyn gwneud gwaith ymchwil i fframweithiau cyfoes ac allweddol a sut i ddod o hyd iddynt
  3. pwysigrwydd deall fframweithiau cyfoes ac allweddol a’u heffaith ar y ddarpariaeth chwarae
  4. pwysigrwydd polisïau ysgrifenedig sy’n ymdrin â fframweithiau cyfoes ac allweddol a sut maen nhw’n cynnal a hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc
  5. y berthynas rhwng polisïau ac arferion eich sefydliad a’r      fframweithiau cyfoes ac allweddol
  6. sut i fyfyrio ac ymwneud ag eraill a pham mae hyn yn bwysig
  7. sut i gydbwyso ethos gwaith chwarae â gofynion fframweithiau  cyfoes ac allweddol a phwysigrwydd hyn
  8. pwysigrwydd gwybod am y gwaith ymchwil diweddaraf

Adolygu, diweddaru a gweithredu polisi ac arferion ar sail dadansoddiad

  1. sut i adolygu, gwerthuso a newid fframwaith presennol eich sefydliad yng ngoleuni eich ymchwil
  2. sut i nodi pa feysydd polisi ac arferion sy’n cael eu heffeithio gan fframweithiau cyfoes ac allweddol
  3. sut i gyflwyno gwybodaeth ac ymwneud ag eraill er mwyn dylanwadu ar bolisi ac arferion eich sefydliad
  4. ffynonellau gwybodaeth a chymorth ar sut i ddatblygu polisïau ac arferion
  5. sut i ddatblygu polisïau ac arferion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. pwysigrwydd adolygu a diweddaru eich fframwaith presennol yn unol â pholisïau ac arferion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

*​Ffynonellau  *      
1. cyfoes
2. perthnasol
3. dilys
4. dibynadwy

Fframweithiau cyfoes ac allweddol (o leiaf 6 o’r 10)
1. gofynion rheoleiddio a deddfwriaeth
2. polisi cymdeithasol ac iechyd
3. economaidd a chyllid
4. gwleidyddol
5. moesegol
6. cymdeithasol
7. technolegol
8. cofrestru proffesiynol
9. datblygiad proffesiynol
10. system cyfiawnder

Eraill (o leiaf 5 o’r 9)
1. staff
2. rhieni a/neu ofalwyr
3. rheolwyr
4. sefydliadau allanol
5. arolygwyr
6. plant a phobl ifanc
7. athrawon
8. ymwelwyr iechyd
9. gweithwyr cymdeithasol


Gwybodaeth Cwmpas

​Fframweithiau cyfoes ac allweddol
1. gofynion rheoleiddio a deddfwriaeth
2. polisi cymdeithasol ac iechyd
3. economaidd a chyllid
4. gwleidyddol
5. moesegol
6. cymdeithasol
7. technolegol
8. cofrestru proffesiynol
9. datblygiad proffesiynol
10. system cyfiawnder

Eraill
1. staff
2. rhieni a/neu ofalwyr
3. rheolwyr
4. sefydliadau allanol
5. arolygwyr
6. plant a phobl ifanc
7. athrawon
8. ymwelwyr iechyd
9. gweithwyr cymdeithasol


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ethos gwaith chwarae
Y credoau neu’r delfrydau arweiniol wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn rhoi cymorth a rhyddid iddynt gael profiadau cadarnhaol drwy chwarae; dylid cyfeirio at yr Egwyddorion Gwaith chwarae

Darpariaeth chwarae
Lleoedd sy’n cael eu ffurfio gan oedolion lle gall plant a phobl ifanc chwarae        

*Man chwarae  *          
Lle sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW38

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweithredu; fframweithiau cyfoes; gwaith chwarae; lleoliad chwarae; darpariaeth chwarae