Gwneud gwaith chwarae mewn carchardai

URN: SKAPW89
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â chynllunio cyfleoedd chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n ymweld â rhiant neu berthynas yn y carchar a rhoi’r cyfleoedd rheini ar waith. Gall y gweithiwr chwarae fod yn aelod o dîm, yn gweithio ar ei ben ei hun neu’n wirfoddolwr. Gall y plant, pobl ifanc a’r rhieni neu berthnasau sydd yn y carchar gymryd rhan yn y gwaith o gynllunio’r cyfleoedd. Mae’r safon hon yn addas ar gyfer pob lleoliad diogel lle mae plant a phobl ifanc yn ymweld â rhiant neu berthynas yn y carchar.

Mae’r safon hon yn cynnwys dealltwriaeth o weithio mewn lleoliad cyfyngedig, sydd yn llawn straen, a sicrhau bod rheolau a rheoliadau’r carchar yn cael eu dilyn ar yr un pryd. Mae’r safon hon yn ymdrin â’r angen i fod yn eiriolwr o blaid buddion chwarae i rieni, gofalwyr a staff y carchar.   

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. cynllunio a pharatoi ar gyfer gwaith chwarae plant a phobl ifanc mewn carchardai
  2. cefnogi chwarae plant a phobl ifanc mewn carchardai
  3. meithrin perthnasoedd sy’n berthnasol i waith chwarae mewn carchardai

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio.  *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynllunio a pharatoi ar gyfer gwaith chwarae plant a phobl ifanc mewn carchardai

  1. paratoi adnoddau yn ôl poblogaeth y carchar, cyfyngiadau’r carchar a’r gweithdrefnau diogelwch
  2. rhoi gweithdrefnau diogelwch ar waith ar gyfer y lleoliad gwaith chwarae
  3. herio cyfyngiadau afresymol sy’n cyfyngu ar gyfleoedd chwarae
  4. cynllunio lleoliad gwaith chwarae croesawgar ar gyfer plant a phobl ifanc

Cefnogi chwarae plant a phobl ifanc mewn carchardai

  1. ymateb i giwiau chwarae ac anghenion y plant a’r bobl ifanc
  2. bod yn ymwybodol o arwyddocâd y broses bontio wrth fynd i mewn garchar ac ymateb yn ôl anghenion y plant a’r bobl ifanc
  3. rhoi arweiniad i staff er mwyn sicrhau arferion cywir
  4. rhoi arweiniad i staff er mwyn iddyn nhw gadw at reoliadau’r carchar
  5. rhoi cymorth i staff er mwyn hwyluso chwarae
  6. rhoi cymorth i blant a phobl ifanc er mwyn iddyn nhw chwarae gyda rhieni a pherthnasau lle bo hynny’n bosib
  7. annog y rhiant neu’r perthnasau i weld gwerth cynnyrch chwarae neu’r profiad sy’n cael ei rannu
  8. ymateb i bryderon yn ymwneud â diogelwch gan ddilyn gweithdrefnau adrodd a chofnodi

Meithrin perthnasoedd sy’n berthnasol i waith chwarae mewn carchardai

  1. cynnig cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc sy’n addas i ddisgwyliadau diwylliannol y rhieni
  2. sefydlu perthynas waith effeithiol gyda staff y carchar
  3. annog staff y carchar i ryngweithio gyda phlant a phobl ifanc
  4. bod yn eiriolwr o blaid budd chwarae i unigolion
  5. cefnogi staff sydd wedi profi aflonyddu neu drawma yn y lleoliad gwaith chwarae
  6. cyfeirio rhieni a gofalwyr i gael cymorth a chefnogaeth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynllunio a pharatoi ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc mewn carchardai

*
*

**1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r  egwyddorion i’ch gwaith chi.
2. pryd mae’n briodol i fynd yn groes i’r Egwyddorion Gwaith Chwarae a pham
3. pwysigrwydd chwarae yn y carchar
4. effaith y broses droseddu, cyfiawnder troseddol a charcharu ar blant a phobl ifanc
5. effaith gadarnhaol hybu cysylltiadau teuluol er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o aildroseddu
6. y gofynion o ran cyfrinachedd ac ymdrin â gwybodaeth sy’n berthnasol i rôl gweithiwr chwarae mewn carchar
7. pwysigrwydd cael adnoddau o ansawdd uchel sy’n cymryd ystyriaeth o ddiffyg cyfleoedd chwarae y plant a’r bobl ifanc
8. yr adnoddau y gallwch eu defnyddio er mwyn cymryd ystyriaeth o natur benodol poblogaeth y carchar
9. y mecanweithau ar gyfer adrodd am faterion diogelu sy’n benodol i garchardai
10. gweithdrefnau manwl ar gyfer y drefn ddiogelwch sy’n benodol i’r sefydliad
11. prif arwyddion a symptomau camddefnyddio sylweddau
12. strategaethau sy’n cael eu defnyddio gan ymwelwyr i gludo sylweddau ac eitemau anghyfreithlon a / neu wedi eu gwahardd
13. gweithdrefnau gofynnol os bydd sylweddau ac eitemau anghyfreithlon a / neu wedi eu gwahardd yn cael eu darganfod

Cefnogi chwarae plant a phobl ifanc mewn carchardai

  1. yr effaith emosiynol bosib ar blentyn neu unigolyn ifanc yn sgil ymweld â rhiant neu berthynas mewn carchar
  2. yr angen i barchu penderfyniadau rhieni ynglŷn â datgelu manylion eu carchariad
  3. egwyddorion gwaith chwarae therapiwtig a sut gellir eu cymhwyso mewn carchardai

Meithrin perthnasoedd sy’n berthnasol i waith chwarae mewn carchardai

  1. ffeithiau allweddol am gefndir sosio-economaidd a diwylliannol y boblogaeth rydych chi’n gweithio gyda hi yn y carchar
  2. ffynonellau cymorth lleol a chenedlaethol sydd ar gael i garcharorion a’u teuluoedd a sut i sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael i deuluoedd carcharorion
  3. y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhanbarthol sy’n gwarchod hawliau plant a phobl ifanc i chwarae sy’n benodol i deuluoedd y troseddwyr
  4. yr effaith bosib y bydd gweithio mewn carchar yn ei chael ar y gweithiwr chwarae
  5. pam ei bod yn bwysig i weithwyr chwarae mewn carchardai gael mynediad at fecanweithiau cymorth
  6. lle i gael cymorth wrth ymdrin â sefyllfaoedd trawmatig

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

*Gweithdrefnau diogelwch      *
1. sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cydymffurfio â gweithdrefnau diogelwch
2. sicrhau bod yr holl adnoddau yn cwrdd â gofynion diogelwch 

  1. cynllunio yn ôl cyfyngiadau corfforol

Unigolion
1. staff
2. rhieni neu berthnasau
3. staff asiantaethau allanol

Buddion
1. gweithgareddau chwarae a chymdeithasol
2. gofal a diogelwch
3. lles emosiynol
4. cynhwysiant
5. cydnabyddiaeth o’u hunaniaeth


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ciwiau chwarae
Mynegiant wyneb, iaith neu iaith y corff sy’n cyfleu dymuniad y plentyn neu’r unigolyn ifanc i chwarae neu sy’n gwahodd eraill i chwarae

Anghenion Chwarae
Yr hyn y mae’n rhaid i blant a phobl ifanc unigol ei gael er mwyn gallu chwarae, ond nad yw bob amser ar gael iddyn nhw am wahanol resymau; er enghraifft, diffyg mynediad, oedolion goramddiffynnol, diffyg mannau yn yr awyr agored, ac ati.

*
*

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seiber.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, neu o dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW45

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwaith chwarae; carchardai