Trefnu a chefnogi cyfleoedd chwarae mynediad agored mewn mannau cyhoeddus

URN: SKAPW88
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â’r gwaith adnabod a pharatoi sydd ynghlwm â chynllunio a pharatoi mannau cyhoeddus yn yr awyr agored er mwyn cefnogi chwarae, gan gysylltu â gwahanol unigolion a grwpiau er mwyn cefnogi a gwerthuso effeithlonrwydd y broses hon.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. adnabod a hyrwyddo mannau cyhoeddus yn yr awyr agored i gefnogi chwarae
  2. gwneud paratoadau ar gyfer cynllunio a chefnogi chwarae
  3. rhoi chwarae hunangyfeiriedig ar waith a’i werthuso

Mae’r safon hon ar gyfer gweithiwr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae  sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb am y lleoliad chwarae ac eraill sy’n gwneud cyfraniad mawr i gefnogi chwarae.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio.   *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Adnabod a hyrwyddo mannau cyhoeddus yn yr awyr agored i gefnogi chwarae

  1. casglu data am y gymuned neu’r ardal lle bydd y ddarpariaeth chwarae yn cael ei chynnig
  2. ymgynghori â phobl i adnabod yr ardaloedd gorau ar gyfer y ddarpariaeth chwarae
  3. esbonio beth yw pwrpas, gwerthoedd a dulliau eich maes gwaith i’r bobl sy’n gysylltiedig
  4. meithrin perthynas gyda chymunedau a thrigolion lleol
  5. mabwysiadu dull datblygu cymunedol

Gwneud paratoadau ar gyfer cynllunio a chefnogi chwarae

  1. nodi’r ystyriaethau cyn mynd i’r man chwarae
  2. datblygu cynllun sy’n diwallu anghenion y plant a’r bobl ifanc mewn cyd-destun mynediad agored ac sy’n ymdrin â phob agwedd ar y gwaith paratoi
  3. ymgynghori ar y gwasanaeth gyda’r bobl sy’n gysylltiedig a hyrwyddo’r gwasanaeth iddyn nhw

Rhoi chwarae hunangyfeiriedig ar waith a’i werthuso

  1. hwyluso chwarae hunangyfeiriedig mewn man cyhoeddus
  2. dilyn y polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch plant, pobl ifanc a staff
  3. dilyn y polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau lle bydd cyfleoedd chwarae yn digwydd mewn mannau cyhoeddus
  4. monitro a gwerthuso pa mor llwyddiannus yw chwarae hunangyfeiriedig
  5. dod â’r cyfle chwarae i ben yn unol â nodau ac amcanion y ddarpariaeth chwarae
  6. gofyn am adborth gan bobl ynglŷn ag effaith y mentrau
  7. defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd ac adborth i ddewis a hyrwyddo darpariaeth chwarae mynediad agored yn yr awyr agored yn y dyfodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Adnabod a hyrwyddo mannau cyhoeddus yn yr awyr agored  i gefnogi chwarae

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r  egwyddorion i’ch gwaith chi.
  2. nodau ac amcanion cyffredinol y ddarpariaeth chwarae a’u pwysigrwydd
  3. y math, ffynhonnell a'r dull o gael data perthnasol, cywir a chyfredol ynglŷn â’r gymuned neu ardal lle bydd y ddarpariaeth chwarae ar gael
  4. sut i adnabod y bobl berthnasol y dylid ymgynghori â nhw a’r dulliau fydd yn cael eu defnyddio
  5. pwysigrwydd hybu hawl plant a phobl ifanc i chwarae mewn mannau cyhoeddus mynediad agored
  6. sut i gyfleu buddion y cyfleoedd chwarae mynediad agored mewn ffordd glir
  7. sut i addasu eich dulliau cyfathrebu i fod yn addas ar gyfer y gwahanol fathau o bobl
  8. dulliau o weithio gyda phobl, cymunedau a thrigolion lleol i feithrin perthynas
  9. sut i fabwysiadu dull datblygu cymunedol

Gwneud paratoadau ar gyfer cynllunio a chefnogi chwarae

*
*

*10. y mathau o *baratoadau sydd angen eu gwneud cyn mynd i fan cyhoeddus
11. sut i ddatblygu cynllun sy’n ymdrin â’r holl baratoadau sydd angen eu gwneud
12. sut i ymgynghori a hyrwyddo’r gwasanaeth i’r bobl eraill sy’n gysylltiedig
13. sut i annog mwy o berchnogaeth o fannau cyhoeddus a datblygu cymunedau sy’n ystyriol o blant gyda’r bobl sy’n gysylltiedig

Rhoi chwarae hunangyfeiriedig ar waith a’i werthuso

*
*

*14. yr *ystyriaethau wrth gefnogi chwarae hunangyfeiriedig mewn man cyhoeddus
15. y polisïau a’r gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch plant, pobl ifanc a staff
16. sut i gynnal asesiadau risg-budd dynamig
17. y gwahanol risgiau all ddod i’r amlwg pan fydd plant a phobl ifanc yn chwarae mewn man cyhoeddus
18. pwysigrwydd sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc mewn man cyhoeddus a sut i wneud hyn
19. y polisïau a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau mewn man cyhoeddus
20. sut i fonitro a gwerthuso effaith y ddarpariaeth chwarae ar y defnydd o’r man cyhoeddus
21. sut i gasglu gwybodaeth am y math o ddefnydd a wneir o’r man cyhoeddus a pha mor aml y mae’n cael ei ddefnyddio
22. sut i ddod â chwarae i ben yn unol ag amcanion a nodau’r ddarpariaeth chwarae
23. pwysigrwydd cael adborth gan y bobl eraill sy’n gysylltiedig a beth ddylid ei wneud gyda’r adborth hwnnw
24. sut i ddefnyddio data, gwybodaeth ac adborth er mwyn dewis a hyrwyddo darpariaeth chwarae mynediad agored yn yr awyr agored yn y dyfodol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Pobl (o leiaf 3 allan o 5)
1. plant a phobl ifanc
2. rhieni a / neu ofalwyr
3. grwpiau cymunedol
4. cymunedau lleol
5. sefydliadau

Ystyriaethau (o leiaf 6 allan o 9)
1. cyfleoedd chwarae penodol
2. ymweliadau safle i fapio posibiliadau a gwerth chwarae, ardaloedd sy’n dal y dychymyg, ardaloedd sy’n denu chwarae
3. dadansoddi ac asesu risg-budd
4. gweithdrefnau iechyd a diogelwch
5. cyfarpar ac adnoddau, gan gynnwys y rhai ychwanegol y bydd eu hangen i gefnogi chwarae mynediad agored
6. ffotograffau er mwyn adnabod ymwelwyr
7. dillad gwarchodol addas
8. cludiant
9. glanhau’r man chwarae, ar ôl sesiynau


Gwybodaeth Cwmpas

Pobl
1. plant a phobl ifanc
2. rhieni a /neu ofalwyr
3. grwpiau cymunedol
4. cymunedau lleol
5. grwpiau

Paratoadau
1. cyfleoedd chwarae penodol
2. ymweliadau safle i fapio posibiliadau a gwerth chwarae, ardaloedd sy’n dal y dychymyg, ardaloedd sy’n denu chwarae
3. dadansoddi ac asesu risg-budd
4. gweithdrefnau iechyd a diogelwch
5. cyfarpar ac adnoddau, gan gynnwys y rhai ychwanegol y bydd eu hangen i gefnogi chwarae mynediad agored
6. ffotograffau er mwyn adnabod ymwelwyr
7. dillad gwarchodol addas
8. cludiant
9. glanhau’r man chwarae, ar ôl sesiynau

Ystyriaethau
1. mynediad agored a niferoedd newidiol
2. oedran cymysg
3. rhieni a / neu ofalwyr
4. y cyhoedd
5. staffio


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Darpariaeth chwarae
Lleoedd sy’n cael eu ffurfio gan oedolion lle gall plant a phobl ifanc chwarae.

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seiber.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW40

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

plant a phobl ifanc; mannau chwarae; cyfleoedd chwarae mynediad agored; lleoliad gwaith chwarae; mannau cyhoeddus