Datblygu a chynnal meysydd chwarae antur
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â datblygu a chynnal adeileddau mewn meysydd chwarae antur, datblygu perchnogaeth plant a phobl ifanc o’r meysydd hyn, a gweithio gyda’r gymuned leol i gynnal y adeileddau hyn.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- gweithio ag offer a deunyddiau i ddylunio, adeiladu a chynnal adeileddau mewn meysydd chwarae antur
- rhoi cymorth i blant a phobl ifanc greu, datblygu a chynnal perchnogaeth o’r meysydd chwarae antur
- gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’r gymuned leol i ddatblygu a chynnal meysydd chwarae antur
Mae’r safon hon ar gyfer gweithiwr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb am y lleoliad chwarae ac eraill sy’n gwneud cyfraniad mawr i gefnogi chwarae.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gweithio ag offer a deunyddiau i ddylunio, adeiladu a chynnal adeileddau mewn meysydd chwarae antur
- cynnal archwiliad amgylcheddol i asesu’r defnydd posib o’r ardal y gellid ei defnyddio ar gyfer chwarae
- datblygu ac addasu’r ardal y gellid ei defnyddio ar gyfer chwarae ar sail eich arsylwadau o chwarae ac adborth plant a phobl ifanc yn y lleoliad gwaith chwarae
- rhoi cymorth i blant a phobl ifanc ddylunio a chodi adeiledd yn y maes chwarae
- rhoi cymorth i blant a phobl ifanc ddylunio a /neu wella nodwedd yn y maes chwarae
- canfod, dewis a defnyddio adnoddau sy’n addas ar gyfer y lleoliad gwaith chwarae ac anghenion, diddordebau a gofynion plant a phobl ifanc
- cynnal yr adnoddau a sicrhau eu bod yn cael eu cadw’n ddiogel yn unol â gofynion yr adnoddau
- archwilio nodweddion ac adeileddau i sicrhau bod gweithgareddau cynnal yn cael eu gwneud yn ôl yr angen
- cyfrannu at ddymchwel adeileddau a nodweddion yn ddiogel fel sy’n addas i’r anghenion chwarae
*Rhoi cymorth i blant a phobl ifanc greu, datblygu a chynnal perchnogaeth o’r meysydd chwarae antur
*
*9. rhoi cymorth i blant a phobl ifanc yn ystod y broses barhaus o adeiladu ac addasu eu hadeileddau a nodweddion chwarae
10. sicrhau bod dewis digonol o *adnoddau addas ar gael i blant a phobl ifanc eu defnyddio
11. galluogi dull gweithredu sy’n rhoi lle canolog i chwarae wrth roi cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r adnoddau
12. rhoi cymorth i blant a phobl ifanc gynnal a storio’r adnoddau
13. cynnal asesiad risg-budd dynamig o’r plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio’r adnoddau
14. rhoi cymorth i blant a phobl ifanc ddatblygu eu dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol integriti adeileddau a sut i’w cynnal
Gweithio gyda phlant a phobl ifanc a’r gymuned leol i ddatblygu a chynnal meysydd chwarae antur
- asesu amrywiaeth sosio-economaidd a diwylliannol y gymuned leol a defnyddio’r wybodaeth hon fel sail ar gyfer eich arferion gwaith
- rheoli materion sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc sy’n cyrraedd a gadael y maes chwarae o fewn cyfyngiadau eich swydd
- cymryd camau i gyfrannu at y gwaith o reoli diogelwch yn ystod y nos
- nodi a rheoli materion sy’n ymwneud â pherchnogaeth a thiriogaeth gan roi sylw dyladwy i ddiogelwch
- meithrin perthynas gyda chymunedau a thrigolion lleol
- codi ymwybyddiaeth o nodau’r maes chwarae a hawliau plant a phobl ifanc i chwarae
- cyfrannu at greu ymdeimlad o berchnogaeth leol a chefnogaeth i’r maes chwarae
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
*Gweithio ag offer a deunyddiau i ddylunio, adeiladu a chynnal adeileddau mewn meysydd chwarae antur
*
*
*
*1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi.
2. y ffactorau y mae’n rhaid eu hystyried wrth gynnal archwiliad amgylcheddol o’r ardal y gellid ei defnyddio ar gyfer chwarae
3. ffyrdd y gellir cynnwys pobl ifanc a phlant yn y gwaith o addasu’r
ardal y gellid ei defnyddio ar gyfer chwarae
4. y math o gyfraniad y gallwch ei wneud o ran dylunio, gwella a/neu adeiladu nodweddion ac adeileddau yn yr ardal y gellid ei defnyddio ar gyfer chwarae
5. amryw o dechnegau adeiladu sy’n addas ar gyfer adeiladu ac addasu nodweddion ac adeileddau
6. amryw o ddulliau a strategaethau ar gyfer cael adnoddau i gefnogi’r maes chwarae antur
7. dulliau o addasu ac ailgylchu adnoddau i ddiwallu anghenion chwarae
8. gweithdrefnau ar gyfer canfod pa mor ddiogel yw’r adnoddau cyn y gall plant a phobl ifanc eu defnyddio
9. sut i nodi, dewis a defnyddio adnoddau chwarae i ddiwallu anghenion, diddordebau a gofynion plant a phobl ifanc
10. sut i storio mathau gwahanol o adnoddau a’r canllawiau sefydliadol a’r anghenion chwarae y mae’n rhaid eu hystyried wrth ddewis amodau storio
11. sut i sicrhau bod nodweddion ac adeileddau yn cael eu monitro a’u cynnal yn effeithiol
12. sut i hwyluso a sicrhau bod adnoddau yn cael eu cynnal yn effeithiol
13. sut i sicrhau bod gwahanol fathau o adeileddau a nodweddion yn cael eu dymchwel yn ddiogel a sut i fesur eich cyfraniad i’r broses honno
14. pa gyfarpar diogelwch sydd eu hangen er mwyn sicrhau eich diogelwch personol a diogelwch *eraill
15. sut i sicrhau bod gwaith adeiladu yn cael ei adael yn ‘ddiogel’ pan na fydd o dan oruchwyliaeth
16. y manylebau dylunio sy’n cefnogi’r defnydd cynhwysol o adeileddau ar gyfer pob plentyn ac unigolyn ifanc
*Rhoi cymorth i blant a phobl ifanc greu, datblygu a chynnal perchnogaeth o’r meysydd chwarae antur
*
*17. egwyddorion sylfaenol integriti adeileddau
18. sut i nodi *gwendidau yn y deunyddiau nad ydyn nhw efallai’n amlwg i blant a phobl ifanc
19. sut i nodi’r defnydd cywir o bren er mwyn gwneud y defnydd gorau o’i gryfder
20. sut i ddatblygu trefn archwilio a chynnal
21. sut i ddatblygu cynllun gwaith ar sail eich cofnodion archwilio i gynnal yr adeiledd neu nodwedd mewn cyflwr addas i’r pwrpas
22. sut i ddefnyddio amryw o osodiadau
23. sut i ddefnyddio amryw o offer sylfaenol a chyfarpar adeiladu sy’n berthnasol i ddylunio ac adeiladu, yn ddiogel
24. buddion cyfleoedd hunanadeiladu i blant a phobl ifanc
25. lle i ddod o hyd i gyngor arbenigol ac ystadegau
26. y math o gymorth y dylid ei roi i bobl a phobl ifanc wrth adeiladu ac addasu adeileddau a nodweddion chwarae
27. y ffyrdd gwahanol y gallwch helpu i ddiogelu mannau chwarae, adeileddau a nodweddion awyr agored a grëwyd gan blant a phobl ifanc
28. yr amrywiaeth a’r math o adnoddau sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod adnoddau digonol ar gael i bob plentyn ac unigolyn ifanc eu defnyddio
29. dulliau gweithredu sy’n rhoi lle canolog i chwarae ac sy’n caniatáu i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r adnoddau
30. pwysigrwydd cynyddu defnydd annibynnol plant a phobl ifanc o’r adnoddau a’r ffyrdd gwahanol o addasu’r dull gweithredu er mwyn annog hyn
31. y ffactorau sy’n bwysig er mwyn cynnal asesiad risg-budd effeithiol o blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y gwaith o ddylunio ac adeiladu adeileddau
32. dulliau ar gyfer cynnal adeileddau sy’n cael eu cloddio i mewn
Gweithio gyda phlant a phobl ifanc a’r gymuned leol i ddatblygu a chynnal meysydd chwarae antur
- hwyliau a dynamig posibl yr unigolion a’r grwpiau o blant a phobl ifanc pan fyddan nhw ar y safle ac yn cyrraedd a gadael, a sut i ymateb iddyn nhw
- pam mae ystyriaeth barhaus yn bwysig i reoli’r maes chwarae
- y mathau o gamau y gellir eu cymryd i gyfrannu at reoli diogelwch yn ystod y nos
- dulliau ar gyfer gweithio gydag eraill a’r gymuned leol i feithrin perchnogaeth leol o’r maes chwarae
- sut i ymchwilio ac addasu eich arferion gwaith yn ôl amrywiaeth sosio-economaidd a diwylliannol y gymuned a pham mae hyn yn bwysig
- sut i nodi a chysylltu ag unigolion perthnasol yn y gymuned leol er mwyn cefnogi’r maes chwarae
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Defnydd posib
1. corfforol
2. affeithiol
Adnoddau
1. deunyddiau
2. cyfarpar
3. offer
4. Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
Gwybodaeth Cwmpas
Eraill
1. plant a phobl ifanc
2. sefydliadau ac asiantaethau lleol perthnasol
Gwendidau yn y deunyddiau
1. ysgydwadau
2. clymau
3. uniadau
Gosodiadau
1. hoelion
2. sgriwiau
3. bariau stydiau
4. wasieri
5. bolltau
6. rhaffau
Cyngor arbenigol ac ystadegau
1. Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA)
2. Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
3. Fforwm Diogelwch wrth Chwarae
4. Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymhlith Plant (CAPT)
*Ystyriaethau *
1. materion yn ymwneud â phlant a phobl ifanc yn cyrraedd a gadael y maes chwarae
2. diogelwch yn ystod y nos
3. perchnogaeth a thiriogaeth
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Man chwarae
Man chwarae sy'n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â'r byd seiber.
**Lleoliad gwaith chwarae**
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
* *
Anghenion Chwarae
Yr hyn y mae'n rhaid i blant a phobl ifanc unigol ei gael er mwyn gallu chwarae, ond nad yw bob amser ar gael iddyn nhw am wahanol resymau; er enghraifft, diffyg mynediad, oedolion goramddiffynnol, diffyg mannau yn yr awyr agored, ac ati.