Hwyluso arferion gwaith chwarae cynhwysol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc anabl
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal i leoliad gwaith chwarae. Mae’r safon hon hefyd yn ymdrin â chanllawiau, codau ymarfer a llunio polisïau sy’n ymwneud â gwaith chwarae cynhwysol.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- datblygu arferion gwaith chwarae cynhwysol a’u rhoi ar waith
- rheoli arferion gwaith chwarae cynhwysol
Mae’r safon hon ar gyfer gweithiwr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb am y lleoliad chwarae ac eraill sy’n gwneud cyfraniad mawr i gefnogi chwarae.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Datblygu arferion gwaith chwarae cynhwysol a’u rhoi ar waith
1. ymgynghori ag eraill gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu addas i sicrhau bod barn plant a phobl ifanc anabl yn cael ei hystyried
2. cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cynhwysiant gydag eraill
3. cyfrannu at gynnal polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cynhwysiant gydag eraill
4. cyfrannu at roi deddfwriaeth a pholisïau llywodraeth perthnasol ym maes chwarae cynhwysol ar waith
5. rhoi polisïau a gweithdrefnau cynhwysiant ar waith wrth recriwtio staff
6. rhoi polisïau a gweithdrefnau mynediad cynhwysiant ar waith
7. monitro a gwerthuso eich cyfraniad mewn perthynas â hawliau plant a phobl ifanc anabl o fewn y lleoliad gwaith chwarae
8. rhoi arferion addas ar waith gydag eraill mewn perthynas â chymorth personol a gofal personol iawn
Rheoli arferion gwaith chwarae cynhwysol
*
*
*9. cyflwyno delweddau cadarnhaol o blant a phobl ifanc anabl yn eich lleoliad gwaith chwarae
10. sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau yn adlewyrchu arferion cynhwysol o fewn fframwaith deddfwriaethol
11. sicrhau bod adnoddau a’r mynediad yn bodloni’r fframweithiau deddfwriaethol mewn perthynas ag anghenion plant a phobl ifanc anabl
12. rheoli’r gwasanaeth er mwyn cynnig yr un hawl i bob plentyn ac unigolyn ifanc chwarae
13. ymateb yn briodol i anghenion unigol plant a phobl ifanc anabl
14. hwyluso chwarae o amgylch diddordebau a gallu’r plant a’r bobl ifanc anabl
15. defnyddio amryw o ddulliau i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol gydag *eraill
16. defnyddio iaith a therminoleg addas sy’n cefnogi model cymdeithasol o anabledd
17. galluogi staff i fyfyrio ar eu harferion cynhwysol a rhannu arfer da
18. defnyddio adnoddau perthnasol, gan gynnwys nawdd, er mwyn helpu i gynnwys plant a phobl ifanc anabl
19. cefnogi staff i greu amgylchedd lle gall pob plentyn ac unigolyn ifanc reoli risg drostyn nhw eu hunain
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Datblygu arferion gwaith chwarae cynhwysol a’u rhoi ar waith
*
*
*1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi.
2. sut i ystyried a gwerthuso eich dirnadaeth bersonol o anabledd
3. theorïau ac arferion cynhwysiant cyfredol
4. sut mae’r model cymdeithasol o anabledd yn sail i arferion gwaith chwarae cynhwysol
5. sut i nodi arferion da o ran gwaith chwarae cynhwysol
6. sut i nodi polisïau a chodau ymarfer a all wahaniaethu yn erbyn plant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd
7. arferion sy’n atal plant a phobl ifanc anabl rhag chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud
8. beth yn union yw ystyr llunio canllawiau a pholisïau cynhwysol
9. effaith agweddau pobl eraill at blant a phobl ifanc anabl
10. deddfwriaeth berthnasol a sut mae’n gallu helpu i oresgyn rhwystrau i gynnwys plant a phobl ifanc anabl
11. sut i ymgynghori ag *eraill
12. dulliau cyfathrebu sy’n sicrhau bod barn plant a phobl ifanc anabl yn cael ei hystyried
13. sut i roi polisïau a gweithdrefnau cynhwysiant ar waith wrth recriwtio staff
14. sut i roi polisïau a gweithdrefnau mynediad cynhwysiant ar waith
15. pwysigrwydd monitro a gwerthuso eich cyfraniad yn barhaus mewn perthynas â hawliau plant a phobl ifanc anabl yn y lleoliad gwaith chwarae
16. pryd a sut i roi arferion gwaith addas ar waith gydag eraill mewn perthynas â chymorth personol a gofal personol iawn
Rheoli arferion gwaith chwarae cynhwysol
*
*
**17. ffynonellau a’r mathau o ddelweddau cadarnhaol o blant a phobl ifanc anabl y dylid eu defnyddio
18. pwysigrwydd adnoddau a mynediad er mwyn bodloni’r fframweithiau deddfwriaethol mewn perthynas ag anghenion plant a phobl ifanc anabl
19. dulliau o gefnogi chwarae sy’n seiliedig ar ddiddordebau a gallu plant a phobl ifanc anabl
20. dulliau o herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion
21. model cymdeithasol o anabledd
22. arferion gwaith chwarae cynhwysol ac arferion da
23. ble gellir dod o hyd i adnoddau addas i gefnogi’r gwaith o gynnwys plant a phobl ifanc anabl
24. sut i alluogi staff i greu amgylchedd lle gall pob plentyn ac unigolyn ifanc anabl reoli risg drostyn nhw eu hunain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Eraill (o leiaf 3 allan o 5)
1. teuluoedd
2. gofalwyr eraill
3. staff
4. gweithwyr pontio
5. cynorthwywyr gofal personol
Gwybodaeth Cwmpas
Eraill
1. teuluoedd
2. gofalwyr eraill
3. staff
4. gweithwyr pontio
5. cynorthwywyr gofal personol
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Anabledd
Colli neu gyfyngu ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn cymdeithas yn gyfartal ag eraill oherwydd rhwystrau cymdeithasol ac amgylcheddol.
Amhariad
Anaf, salwch neu gyflwr cynhenid sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi effaith hirdymor ar ymddangosiad corfforol ac sydd / neu sydd yn cyfyngu ar weithrediad yr unigolyn sy’n wahanol i’r arferol.
Darpariaeth gynhwysol
Darpariaeth sy’n agored ac yn hygyrch i bawb ac sy’n cymryd camau cadarnhaol i ddileu rhwystrau, gan olygu bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yn gallu cymryd rhan.
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seiber.
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.