Cynllunio eich datblygiad proffesiynol a’i roi ar waith mewn gwaith chwarae
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â chynllunio eich datblygiad proffesiynol a’i roi ar waith er mwyn gwireddu nodau personol a phroffesiynol. Bydd angen i chi wybod ble rydych chi ar hyn o bryd, ble rydych chi am fynd, sut i gyrraedd yno a’r adnoddau fydd arnoch eu hangen i wneud hynny.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- cynllunio eich datblygiad proffesiynol a’i roi ar waith mewn gwaith chwarae
Mae’r safon hon ar gyfer gweithiwr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb am y lleoliad chwarae ac eraill sy’n gwneud cyfraniad mawr i gefnogi chwarae.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio eich datblygiad proffesiynol a’i roi ar waith mewn gwaith chwarae
1. penderfynu beth yw eich dyheadau o ran eich gyrfa a beth yw eich amcanion personol
2. defnyddio pecyn cymorth hunanasesu i nodi unrhyw fylchau rhwng gofynion presennol eich sefydliad a gofynion y dyfodol ac unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau presennol
3. gosod amcanion ar gyfer eich datblygiad proffesiynol parhaus
4. gofyn am adborth a chyngor gan eraill a defnyddio adborth i gynnal a gwella eich perfformiad
5. ymchwilio i gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus yn eich maes gwaith
6. nodi’r amser ac adnoddau eraill sydd eu hangen er mwyn cyflawni eich amcanion datblygiad proffesiynol parhaus
7. llunio cynllun datblygiad proffesiynol parhaus, gan amlinellu eich anghenion dysgu a’r gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud er mwyn cyrraedd y fan rydych yn dymuno bod
8. adolygu a myfyrio ar eich perfformiad a’ch cynnydd yn erbyn eich cynllun
9. gwerthuso llwyddiant y gweithgaredd datblygiad proffesiynol parhaus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
*Cynllunio eich datblygiad proffesiynol a’i roi ar waith mewn gwaith chwarae
*
*1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi.
2. pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus
3. sut i nodi nodau personol a’u cysylltu â’ch datblygiad proffesiynol
4. y rhagolygon ar gyfer datblygiad gyrfa yn eich sefydliad a’r sector ehangach
5. amcanion eich swydd, eich sefydliad a’r sector a sut mae’r rhain yn esblygu
6. sut i nodi unrhyw fylchau rhwng eich gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau presennol a’r hyn y bydd ei angen arnoch chi neu eich sefydliad o bosib
7. sut i gael adborth gan eraill a sut i ddefnyddio adborth i wella eich perfformiad
8. modelau a thechnegau hunanasesu a sut i fonitro ansawdd eich gwaith a’r broses waith yn erbyn y gofynion
9. sut i lunio *cynllun datblygiad proffesiynol parhaus a beth ddylid ei gynnwys ynddo gan gynnwys amcanion CAMPUS
10. pwysigrwydd adnabod y gwerth ychwanegol y bydd datblygiad proffesiynol parhaus yn ei roi i’ch sefydliad
11. y gwahanol arddulliau dysgu a sut i nodi’r rheini sy’n gweithio orau i chi
12. y gwahanol fathau o gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus sydd ar gael yn eich sefydliad ac yn y sector
13. sut i ddiweddaru eich amcanion proffesiynol
14. dulliau gwahanol o raeadru gwybodaeth a phrofiad gyda’ch cydweithwyr
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Eraill (o leiaf 3 allan o 5)
1. cydweithwyr
2. gweithwyr proffesiynol allanol
3. ymddiriedolwyr
4. cyfarwyddwr
5. rheolwr
Cyfleoedd (o leiaf 4 allan o 6)
1. cymdeithion yn y sector
2. sefydliadau sydd yn aelodau
3. cyfleoedd mewnol
4. cydweithwyr cysgodol
5. awdurdodau sydd wedi eu rheoleiddio
6. cyfnodolion masnachol
Cynllun
1. nodau dysgu yn erbyn amcanion y sefydliad
2. anghenion dysgu a nodwyd ac a flaenoriaethwyd
3. gwerth hyfforddiant
4. enillion o’r buddsoddiad yn sgil gwneud y gweithgaredd datblygiad proffesiynol parhaus
Gwybodaeth Cwmpas
Cynllun
1. nodau dysgu yn erbyn amcanion y sefydliad
2. anghenion dysgu a nodwyd ac a flaenoriaethwyd
3. gwerth hyfforddiant
4. enillion o’r buddsoddiad yn sgil gwneud y gweithgaredd datblygiad proffesiynol parhaus
CAMPUS
1. Cyrraeddadwy
2. Amserol
3. Mesuradwy
4. Penodol
5. Uchelgeisiol
6. Synhwyrol
Cyfleoedd
1. cymdeithion yn y sector
2. sefydliadau sydd yn aelodau
3. cyfleoedd mewnol
4. cydweithwyr cysgodol
5. awdurdodau sydd wedi eu rheoleiddio
6. cyfnodolion masnachol
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seiber.