Dadansoddi a chefnogi chwarae hunangyfeiriedig yn unol â theorïau gwaith chwarae cyfredol

URN: SKAPW82
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â nodi anghenion chwarae a dewisiadau plant a phobl ifanc, ac annog a chefnogi’r gwaith o ddatblygu mannau chwarae o fewn y lleoliad gwaith chwarae a fydd yn diwallu anghenion a dewisiadau plant a phobl ifanc wrth chwarae.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

1.    dadansoddi gwybodaeth am anghenion a dewisiadau chwarae
2.    cefnogi chwarae hunangyfeiriedig

Mae’r safon hon ar gyfer gweithiwr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae  sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb am y lleoliad chwarae ac eraill sy’n gwneud cyfraniad mawr i gefnogi chwarae.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio.  *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dadansoddi gwybodaeth am anghenion a dewisiadau chwarae

1.    casglu gwybodaeth am chwarae plant a phobl ifanc gan ddefnyddio amryw o ddulliau
2.    dadansoddi gwybodaeth i nodi anghenion a dewisiadau chwarae plant  a phobl ifanc
3.    ymgynghori â phlant a phobl ifanc ac ystyried eu syniadau ynglŷn ag anghenion a dewisiadau chwarae
4.    ymchwilio a nodi nifer o leoedd chwarae, deunyddiau ac adnoddau a fydd yn diwallu anghenion chwarae plant a phobl ifanc

Cefnogi chwarae hunangyfeiriedig

5.    cefnogi’r gwaith o greu mannau chwarae i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc, y gallan nhw eu haddasu i ddiwallu eu hanghenion a’u dewisiadau eu hunain
6.    rhoi cymorth i blant a phobl ifanc ddewis ac archwilio’r amryw fannau chwarae eu hunain
7.    bodloni polisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol wrth greu mannau chwarae
8.    gadael cynnwys a bwriad y chwarae i’r plant a’r bobl ifanc
9.    defnyddio sawl arddull ymyrraeth i gefnogi chwarae hunangyfeiriedig
10.    cynnal fframiau chwarae y plant a’r bobl ifanc pan fydd angen
11.    arsylwi ar chwarae ac ymateb i giwiau chwarae yn ôl y cam yn y cylch chwarae
12.    cefnogi plant a phobl ifanc i brofi heriau ac ansicrwydd ac ymyrryd dim ond pan fydd angen


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Dadansoddi gwybodaeth am anghenion a dewisiadau chwarae

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r  egwyddorion i’ch gwaith chi.
  2. gwaith ymchwil o ddisgyblaethau eraill sy’n llywio ein dealltwriaeth o fuddion chwarae yn y tymor hir a’r tymor byr
  3. yr offer a’r fframweithiau y gellir eu defnyddio er mwyn casglu a gwerthuso gwybodaeth am brofiadau chwarae plant a phobl ifanc
  4. y gall y lleoliad chwarae helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu hunain a’r byd o’u cwmpas  
  5. y mathau o chwarae sy’n darparu dewis eang o brofiadau chwarae sy’n cael eu derbyn yn gyffredinol mewn gwaith chwarae
  6. y mathau o chwarae a’r disgrifwyr hwyliau sy’n gysylltiedig â chwarae a sut i’w hadnabod
  7. sut i adnabod hwyliau plant a phobl ifanc
  8. prif gamau datblygiad plentyn a sut mae’r rhain yn effeithio ar anghenion ac ymddygiad chwarae plant
  9. pwysigrwydd defnyddio amryw o ddulliau i ddadansoddi anghenion a dewisiadau chwarae plant
  10. y rhwystrau i fynediad, gan gynnwys anabledd ymhlith eraill, y gall rhai plant a phobl ifanc eu hwynebu a sut i fynd i’r afael â’r rhain
  11. sut mae gwahanol fathau o fannau chwarae, deunyddiau ac adnoddau yn gallu diwallu anghenion a dewisiadau plant a phobl ifanc

Cefnogi chwarae hunangyfeiriedig

  1. pwysigrwydd cefnogi’r gwaith o greu mannau chwarae y gall plant a phobl ifanc eu haddasu i ddiwallu eu hanghenion a’u dewisiadau
  2. ffyrdd o gynnig cymorth i blant a phobl ifanc ddewis ac archwilio’r amryw fannau chwarae drostyn nhw eu hunain a phwysigrwydd gwneud hyn
  3. nodi ffyrdd o gynllunio a chael y deunyddiau ac adnoddau sydd eu hangen ar gyfer amryw o fannau chwarae gwahanol
  4. y polisïau a’r gweithdrefnau cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol cyfredol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch yn y mannau chwarae a sut ydych chi’n eu hystyried
  5. pwysigrwydd gadael cynnwys a bwriad y chwarae i’r plant a’r bobl ifanc eu hunain
  6. y mathau o gymorth y bydd arnoch angen eu darparu, a sut i benderfynu pryd y mae’n addas i wneud hynny, pan fydd plant a phobl ifanc yn wynebu heriau ac ansicrwydd
  7. amryw o ddulliau ymyrraeth ar gyfer cefnogi chwarae hunangyfeiriedig
  8. sut i nodi a diffinio ffrâm chwarae
  9. prif gamau’r cylch chwarae
  10. sut i adnabod ciwiau chwarae ac ymateb iddyn nhw
  11. pam dylid rhoi cyfle i blant a phobl ifanc brofi heriau ac ansicrwydd a phwysigrwydd cefnogi cymryd risigau derbyniol wrth chwarae

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Dulliau
1. arsylwi ar y man chwarae a’r lleoliad gwaith chwarae
2. arsylwi ar /a rhyngweithio rhwng plant a phobl ifanc
3. trafodaeth gyda rhieni a / neu ofalwyr
4. myfyrio gyda staff eraill
5. ymgynghori; ffurfiol ac anffurfiol

Man(nau) chwarae
1. ffisegol
2. affeithiol
3. dros dro
4. parhaol
5. seiber    

Heriau ac ansicrwydd
1. corfforol
2. emosiynol
3. ymddygiad
4. amgylcheddol


Gwybodaeth Cwmpas

Mathau o chwarae

  1. chwarae cyfathrebu
  2. chwarae creadigol
  3. chwarae dwfn
  4. chwarae dramatig
  5. chwarae archwiliadol
  6. chwarae ffantasi
  7. chwarae llawn dychmyg
  8. chwarae ymsymudol
  9. chwarae meistrolgar
  10. chwarae gwrthrych
  11. chwarae rôl
  12. chwarae sgarmes
  13. chwarae cymdeithasol
  14. chwarae sosi-dramatig
  15. chwarae symbolaidd
  16. chwarae ailddangosol

Disgrifwyr hwyliau
1. hapus
2. annibynnol
3. hyderus
4. allgarol
5. ymddiriedus
6. cytbwys
7. gweithredol neu wedi’i drochi
8. tawel ei feddwl

*
*

Dulliau
1. arsylwi ar y lle chwarae a’r lleoliad gwaith chwarae                    
2. arsylwi ar / a rhyngweithio rhwng plant a phobl ifanc
3. trafodaeth gyda rhieni a / neu ofalwyr
4. myfyrio gyda staff eraill
5. ymgynghori; ffurfiol ac anffurfiol

Man(nau) chwarae
1. ffisegol
2. affeithiol
3. dros dro
4. parhaol
5. seiber    

Heriau ac ansicrwydd
1. corfforol
2. emosiynol
3. ymddygiad
4. amgylcheddol


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

3.  Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  1. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  2. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  3. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  4. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  5. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Dulliau Ymyrraeth

Gwahanol ddulliau mae modd i'r gweithiwr chwarae eu ddefnyddio yn y lleoliad gwaith chwarae. Gall y rhain amrywio o ddim ymyrraeth o gwbl i fathau penodol o ymyrraeth, ac fe allan nhw gynnwys: aros i gael gwahoddiad i chwarae; galluogi i'r plant chwarae heb ymyrraeth; galluogi i blant a phobl ifanc archwilio'u gwerthoedd eu hunain; gadael i'r plant a'r bobl ifanc wella eu perfformiad eu hunain,  gadael i'r plant a'r bobl ifanc benderfynu ar gynnwys a diben y chwarae; gadael i'r plant a'r bobl ifanc benderfynu pam eu bod yn chwarae; gadael i'r plant a'r bobl ifanc benderfynu beth sy'n ymddygiad priodol; a dim ond trefnu pan fod ar y plant a'r bobl ifanc eisiau i chi wneud hynny

Ciwiau chwarae

Mynegiant wyneb, iaith neu iaith y corff sy'n cyfleu dymuniad y plentyn neu'r unigolyn ifanc i chwarae neu sy'n gwahodd eraill i chwarae

Cylch Chwarae

Llif cyflawn y chwarae o'r ciw chwarae cyntaf gan y plentyn, dychweliad y byd tu allan, ymateb y plentyn i hyn a datblygiad pellach y chwarae at y pwynt lle bydd y chwarae yn gyflawn. Mae'r cylch yn cynnwys y metalwd, y ciw, y dychweliad, y ffrâm, difwyniad, dilead ac arddangos.

* *

Fframiau chwarae

Ffin faterol neu ffin nad yw'n faterol sy'n cadw'r chwarae yn gyflawn.

Anghenion Chwarae

Yr hyn y mae'n rhaid i blant a phobl ifanc unigol ei gael er mwyn gallu chwarae, ond nad yw bob amser ar gael iddyn nhw am wahanol resymau; er enghraifft, diffyg mynediad, oedolion goramddiffynnol, diffyg mannau yn yr awyr agored, ac ati.

Dewisiadau chwarae

Yr hyn mae plant a phobl ifanc yn ymddiddori ynddo ac yn dewis ei chwarae – ar sail eu profiadau blaenorol.

*                                          *

*Man chwarae*

Man chwarae sy'n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â'r byd seiber.

**Lleoliad gwaith chwarae**

Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

* *

Staff

Y bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi'n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, neu o dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW9

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

dadansoddi; cefnogi; chwarae hunangyfeiriedig; theorïau gwaith chwarae