Gweithio o fewn y cwricwlwm gwaith chwarae

URN: SKAPW81
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon ag asesu a gwerthuso’r lleoliad gwaith chwarae a sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio’r hyn sydd ar gael. Mae hefyd yn ymdrin â sut allech chi fyfyrio ar gyfoethogi eu profiadau a chyfleoedd chwarae.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

1.    arsylwi ar y lleoliad gwaith chwarae yn erbyn y cwricwlwm gwaith chwarae
2.    gwerthuso’r lleoliad gwaith chwarae yn erbyn y cwricwlwm gwaith chwarae
3.    gwneud gwelliannau mewn ymateb i’ch gwerthusiad

Mae’r safon hon ar gyfer staff sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae  sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb am y lleoliad chwarae ac eraill sy’n gwneud cyfraniad mawr i gefnogi chwarae.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio.  *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Arsylwi ar y lleoliad gwaith chwarae yn erbyn y cwricwlwm gwaith chwarae

1.    arsylwi a chofnodi prif agweddau ar y lleoliad gwaith chwarae
2.    arsylwi a chofnodi defnydd y plant a’r bobl ifanc o brif agweddau ar y lleoliad gwaith chwarae
3.    arsylwi ar ddefnydd eraill o brif agweddau ar y lleoliad gwaith chwarae
4.    derbyn a chofnodi adborth gan eraill yn y lleoliad gwaith chwarae

Gwerthuso’r lleoliad gwaith chwarae yn erbyn y cwricwlwm gwaith chwarae

5.    gwerthuso prif agweddau ar y lleoliad gwaith chwarae yn erbyn y cwricwlwm gwaith chwarae
6.    gwerthuso’r ffordd y mae’r plant a’r bobl ifanc yn defnyddio prif agweddau ar y lleoliad gwaith chwarae a myfyrio ar hyn
7.    casglu adborth gan eraill ynglŷn â sut mae’r cwricwlwm gwaith chwarae yn cael ei roi ar waith yn y lleoliad gwaith chwarae
8.    nodi pa brif agweddau ar y lleoliad gwaith chwarae y gellid eu cyfoethogi
9.    defnyddio cofnodion yr arsylwadau i asesu faint o reolaeth sydd gan y plant a’r bobl ifanc dros newidiadau yn y lleoliad chwarae

*Gwneud gwelliannau mewn ymateb i’ch gwerthusiad
*


**10.    galluogi plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r adnoddau a nodwyd yn eich gwerthusiad
11.    darparu lleoliad chwarae gwell ar sail y newidiadau a nodwyd yn eich gwerthusiad
12.    rheoli’r gwaith o roi’r cwricwlwm chwarae ar waith yn unol â theorïau gwaith chwarae eraill
13.    galluogi plant a phobl ifanc i gael rheolaeth dros newidiadau yn y lleoliad gwaith chwarae
14.    cefnogi eraill i wella cydrannau o’r cwricwlwm gwaith chwarae
15.    rhoi mecanweithiau ar waith i sicrhau bod gwerthusiadau rheolaidd o’r cwricwlwm chwarae yn cael eu cynnal


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

*​Arsylwi ar y lleoliad gwaith chwarae yn erbyn y cwricwlwm gwaith chwarae
*


*1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r  egwyddorion i’ch gwaith chi.
2. y cwricwlwm gwaith chwarae
3. pam mae’r cwricwlwm gwaith chwarae yn berthnasol i leoliad
gwaith chwarae o ansawdd
4. sut i wahaniaethu rhwng *
prif agweddau ar y lleoliad gwaith chwarae

5. rôl eraill i gefnogi’r cwricwlwm gwaith chwarae
6. pa ddulliau gwahanol y gellid eu defnyddio i arsylwi a chofnodi’n wrthrychol sut mae plant, pobl ifanc ac eraill yn defnyddio’r prif agweddau ar y lleoliad gwaith chwarae
7. y gwahanol ddulliau y gellir eu defnyddio i gael adborth gan blant a phobl ifanc
8. pwysigrwydd arsylwi a chofnodi adborth gan blant, pobl ifanc ac eraill yn y lleoliad gwaith chwarae
9. pryd mae’n briodol i ymgynghori â phlant a phobl ifanc am eu profiadau chwarae
10. sut i gydbwyso’r angen i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc heb amharu ar y broses chwarae

*Gwerthuso’r lleoliad gwaith chwarae yn erbyn y cwricwlwm gwaith chwarae
*


**11. sut i werthuso data a gasglwyd ar sail arsylwi ac adborth
12. yr offer a’r fframweithiau y gellir eu defnyddio i werthuso’r lleoliad gwaith chwarae yn erbyn y cwricwlwm gwaith chwarae
13. sut i fyfyrio gydag eraill ar y defnydd o’r cwricwlwm gwaith chwarae yn y lleoliad gwaith chwarae
14. pwysigrwydd datblygu proses ar gyfer cefnogi staff i arsylwi a chasglu adborth yn rheolaidd
15. pwysigrwydd asesu faint o reolaeth sydd gan y plant a’r bobl ifanc dros newidiadau yn y lleoliad gwaith chwarae

*Gwneud gwelliannau mewn ymateb i’ch gwerthusiad
*


  1. sut i alluogi plant a phobl ifanc i asesu’r adnoddau a nodwyd yn eich gwerthusiad
  2. ffyrdd o gyfoethogi’r prif agweddau ar y lleoliad gwaith chwarae ag elfennau o’r cwricwlwm gwaith chwarae
  3. y berthynas rhwng theorïau gwaith chwarae eraill a’r cwricwlwm gwaith chwarae
  4. pwysigrwydd rhoi rheolaeth i blant a phobl ifanc dros newidiadau yn y lleoliad gwaith chwarae
  5. cydrannau’r cwricwlwm gwaith chwarae a sut i gefnogi eraill i’w gwella
  6. lle gellir cael cymorth ac adnoddau i roi gwelliannau ar waith
  7. mecanweithiau y gellir eu defnyddio i gynnal gwerthusiadau rheolaidd o’r cwricwlwm gwaith chwarae
  8. pwysigrwydd y broses o asesu, gwerthuso a gweithredu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Prif agweddau ar y lleoliad gwaith chwarae       
1. elfennaidd
2. profiadau
3. hyblyg
4. adeiladol

Eraill
1. staff
2. rhieni a / neu ofalwyr


Gwybodaeth Cwmpas

Prif agweddau ar y lleoliad gwaith chwarae       
1. elfennaidd
2. profiadau
3. hyblyg
4. adeiladol

Eraill
1. staff
2. rhieni a / neu ofalwyr


Gwerthoedd

Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
*
*

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seiber.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

Etifeddiaeth

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwaith chwarae; cwricwlwm; lleoliad gwaith chwarae; chwarae; plant a phobl ifanc