Gweithio gydag eraill y tu allan i’ch lleoliad gwaith chwarae
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â chydweithio gyda sefydliadau, asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill gan hyrwyddo eich maes gwaith a’i werth i’r gymuned. Mae’r safon hefyd yn rhoi sylw i sefydlu a chynnal rhwydweithiau.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- sefydlu a chynnal cysylltiadau gydag eraill
- hyrwyddo gwerth chwarae a gwaith chwarae i eraill
- cydweithio ag eraill
Mae’r safon hon ar gyfer rhywun sy’n gweithio yn y maes gwaith chwarae, sy’n gweithio ar lefel reolaethol mewn amryw o swyddi traws-sector; sydd mewn swydd lle mae angen rheoli nifer o leoliadau gwaith chwarae sydd a’r prif ddiben o roi cyfle i blant a phobl ifanc chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Byddant yn gyfrifol am redeg y lleoliadau gwaith chwarae hyn, am nifer o staff ac am eu lles.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Sefydlu a chynnal cysylltiadau gydag eraill
- adnabod eraill y gallech chi weithio’n gynhyrchiol gyda nhw
- sefydlu cyswllt gydag eraill y gallech chi rwydweithio gyda nhw
- ymateb i eraill sy’n cysylltu â chi
- trafod gydag eraill manteision posib cydweithio yn y dyfodol
- sefydlu partner rhwydwaith a chytuno sut y byddwch chi’n cadw mewn cysylltiad ac yn cyfnewid gwybodaeth yn y dyfodol
- cyfnewid gwybodaeth gyda’ch partner rhwydwaith, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
Hyrwyddo gwerth chwarae a gwaith chwarae i eraill
- adnabod cyfleoedd i hyrwyddo gwerth chwarae a’r ethos gwaith chwarae i eraill
- cyfleu gwybodaeth am eich sefydliad eich hun a sefydliadau eraill sy’n cynnig cyfleoedd tebyg
- pwysleisio manteision eich gwaith i’r gymuned ehangach
- cyfleu gwybodaeth mewn ffordd sy’n briodol i’r bobl eraill rydych chi’n gweithio gyda nhw
- hyrwyddo gwerth chwarae a’r ethos gwaith chwarae i eraill
Cydweithio ag eraill
- cytuno ar nodau, amcanion a ffiniau cydweithio
- cytuno ar eich swyddogaethau a’ch cyfrifoldebau chi eich hun a rhai pobl eraill
- cytuno i wneud gwaith sy’n gyson gyda lefel eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd
- cytuno sut y byddwch chi yn cadw mewn cyswllt ac yn adolygu’r cynnydd wrth gydweithio
- rhoi gwybod i eraill am eich cynnydd eich hun ac adolygu’r cynnydd maen nhw’n ei wneud
- datrys problemau ar y cyd
- cynnal perthynas weithio gydag eraill drwy gydol y cydweithio, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sefydlu a chynnal cysylltiadau gydag eraill
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith
proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi. - pam fod rhwydweithio yn bwysig
- yr ystod o fudiadau ac unigolion y gallech chi ddatblygu perthynas waith gyda nhw
- y budd sydd yna i’r ddwy ochr wrth gydweithio ag eraill
- sut i adnabod sefydliadau ac unigolion addas a sut i gysylltu â nhw
- sut i archwilio manteision posib cydweithio a sefydlu partner rhwydweithio
- sut i sefydlu a chynnal perthynas weithio effeithiol gydag eraill
- pwysigrwydd ymateb i eraill yn gadarnhaol a chydweithredol
- pwysigrwydd dod i gysylltiad ag unigolion a sefydliadau sy’n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan, a sut i wneud hyn yn effeithiol
- y math o wybodaeth mae modd ei rannu rhwng eraill
Hyrwyddo gwerth chwarae a gwaith chwarae i eraill
- pam ei bod hi’n bwysig hyrwyddo eich maes gwaith eich hun, ei werthoedd, ei ddiben a’i ddulliau yn eang
- y mathau o gyfleoedd y gallech chi eu defnyddio i hyrwyddo’ch gwaith a’ch sefydliad eich hun a sut i adnabod cyfleoedd addas
- dulliau cyfathrebu sy’n cwrdd ag anghenion gwahanol gynulleidfaoedd gan gynnwys y bobl hynny sydd o bosib ag anghenion cyfathrebu gwahanol
- sut i hyrwyddo eich maes gwaith mewn ffordd sy’n mynd i’r afael â barn a rhagdybiaethau pobl eraill ynghylch gwaith chwarae
- manteision eich gwaith i’r gymuned a sut mae pwysleisio’r rhain
- pam ei bod hi’n bwysig cael adborth gan fudiadau, asiantaethau ac unigolion yn y gymuned ynglŷn â mentrau, a beth i’w wneud gyda’r adborth.
- polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad i’w cadw mewn cof wrth hyrwyddo gwaith chwarae
Cydweithio ag eraill
*
*
*18. pwysigrwydd cael cytundeb eglur ynglŷn â nodau, amcanion a
*ffiniau’r cydweithio
19. pwysigrwydd dim ond ysgwyddo cyfrifoldebau sy’n bosib ac y
medrwch chi eu cyflawni
20. y sgiliau trafod a datrys problemau sy’n berthnasol i gydweithio
21. pwysigrwydd cadw mewn cyswllt ac adolygu cynnydd gyda’ch
partner rhwydweithio ac unigolion eraill sy’n rhan o’r cydweithio,
a sut mae gwneud hyn
22. pwysigrwydd rhoi gwybod i unigolion a mudiadau eraill yn syth
ynglŷn ag unrhyw anawsterau gyda’r cydweithio
23. y mathau o anawsterau sy’n medru codi wrth gydweithio a sut i
ymdrin â’r rhain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Eraill (o leiaf 5 allan o 8)
1. sefydliadau
2. asiantaethau
3. gweithwyr proffesiynol
4. o’r maes gwaith chwarae
5. o feysydd arbenigol eraill
6. statudol
7. anstatudol
8. y bobl hynny sy’n draddodiadol yn wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan
Gwybodaeth
1. yn ymwneud â nodau ac amcanion cytûn a phrosiectau’r dyfodol
2. sy’n gyfoes
3. gyda’i ffynhonnell
4. nad yw’n datgelu manylion
Cyfleoedd (o leiaf 2 allan o 3)
1. digwyddiadau
2. ymgyrchoedd
3. llwyddiannau
Cyfathrebu (o leiaf 3 allan o 4)
1. cyfarfodydd
2. tele-gyfathrebu
3. cyfathrebu electronig neu dros y we
4. deunydd wedi ei argraffu
Ffiniau (o leiaf 6 allan o 8)
1. swyddogaethau a chyfrifoldebau
2. ffordd o weithio
3. proses
4. cyfathrebu
5. ethos gwaith
6. ffocws gwaith
7. rhannu gwaith
8. trefniadau ar gyfer achlysuron annisgwyl
Gwybodaeth Cwmpas
Eraill
1. sefydliadau
2. asiantaethau
3. gweithwyr proffesiynol
4. o’r maes gwaith chwarae
5. o feysydd arbenigol eraill
6. statudol
7. anstatudol
8. y bobl hynny sy’n draddodiadol yn wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan
Gwybodaeth
1. yn ymwneud â nodau ac amcanion cytûn a phrosiectau’r dyfodol
2. sy’n gyfoes
3. gyda’i ffynhonnell
4. nad yw’n datgelu manylion
Dulliau gyfathrebu
Dulliau
1. rhyngbersonol
2. arddulliau unigol
3. cynhwysol
4. ffurfiol
5. anffurfiol
6. cyfarfodydd
7. digwyddiadau
Cyfrwng
1. deunydd wedi ei argraffu
2. gweledol
3. tele-gyfathrebu
4. cyfathrebu electronig neu dros y we
Ffiniau
1. swyddogaethau a chyfrifoldebau
2. ffordd o weithio
3. proses
4. cyfathrebu
5. ethos gwaith
6. ffocws gwaith
7. rhannu gwaith
8. trefniadau ar gyfer achlysuron annisgwyl
Gallu
1. lefel cyfrifoldeb
2. gallu a sgiliau
3. amser ar gael
4. adnoddau
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Man chwarae
Man chwarae sy'n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â'r byd seibr.
Ethos gwaith chwarae
Y credau neu'r delfrydau sy'n gweithredu fel canllaw pan rydych chi'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n rhoi'r gefnogaeth a'r rhyddid iddyn nhw gael profiadau cadarnhaol drwy chwarae; dylid cyfeirio at yr egwyddorion gwaith chwarae
* *
*
*
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.