Egluro a hyrwyddo’r gwaith sy’n digwydd yn eich lleoliad gwaith chwarae

URN: SKAPW78
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â hyrwyddo’ch maes gwaith a’i werth i’r gymuned drwy, er enghraifft, fynd i gyfarfodydd rhwydwaith a chyfarfodydd allanol allai fod o fudd i’ch gwaith a’ch gyrfa yn y dyfodol.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

1.    sôn wrth eraill am eich lleoliad gwaith chwarae
2.    gwerthuso, datblygu a hyrwyddo gwasanaethau

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad gwaith chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Sôn wrth eraill am eich lleoliad gwaith chwarae

  1. Adnabod cyfleoedd i hyrwyddo’ch maes gwaith a’ch sefydliad i eraill
  2. egluro a / neu hyrwyddo eich sefydliad i eraill
  3. darparu gwybodaeth amrywiol i eraill am eich mudiad fydd yn cynnig cyfleoedd ychwanegol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  4. egluro wrth eraill sut mae gwaith eich sefydliad o fudd i’r gymuned
  5. cael adborth gan eraill ynglŷn â’u barn nhw am eich sefydliad a’r gwasanaethau rydych chi’n eu cynnig

Gwerthuso, datblygu a hyrwyddo gwasanaethau

  1. dewis ffyrdd realistig o werthuso’r gwasanaethau rydych chi’n eu darparu
  2. casglu, cofnodi, dehongli a chadw gwybodaeth gan ddefnyddio’ch dulliau gwerthuso
  3. awgrymu a chytuno ar newidiadau ar sail eich gwerthusiad
  4. ymgynghori ar welliannau posib i wasanaethau gyda phobl eraill perthnasol yn eich sefydliad
  5. gweithio gydag eraill i ddatblygu manyleb a chynllun ar gyfer y gwasanaethau
  6. profi pa mor addas ydy’r gwasanaethau gyda grwpiau ac unigolion cynrychioliadol ac addasu’r cynllun yn seiliedig ar eu hadborth
  7. awgrymu dulliau hyrwyddo sy’n gyson gyda’r grwpiau targed cytunedig, yr adnoddau sydd ar gael a gofynion cyfreithiol
  8. datblygu dulliau a deunyddiau hyrwyddo
  9. rhoi’r dulliau hyrwyddo ar waith
  10. casglu a gwerthuso’r canfyddiadau i weld pa mor llwyddiannus fu’r hyrwyddo
  11. cyflwyno’r canfyddiadau gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu sy’n cwrdd ag anghenion y bobl hynny rydych chi’n rhannu gwybodaeth gyda nhw, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Sôn wrth eraill am eich lleoliad gwaith chwarae

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
  2. yr agweddau o’ch gwaith a’r sefydliad mae modd eu hyrwyddo
  3. ffyrdd o hyrwyddo gwaith eich sefydliad i eraill
  4. sut i hyrwyddo’ch sefydliad mewn ffordd sy’n cwrdd ag anghenion pobl eraill
  5. sut mae modd i eraill gefnogi eich sefydliad
  6. y math o wybodaeth fydd ei hangen ar eraill i gymryd rhan mewn cyfleoedd ychwanegol
  7. sut mae gwaith eich sefydliad o fudd i’r gymuned
  8. ffyrdd o gael adborth gan eraill ynghylch eu barn am eich sefydliad a’r gwasanaethau rydych chi’n eu cynnig

Gwerthuso, datblygu a hyrwyddo gwasanaethau

  1. pwysigrwydd ceisio gweithio’n barhaus i wella sut y caiff
    gwasanaethau eu darparu
  2. sut i ddatblygu dulliau gwerthuso ac adnabod meini prawf priodol
  3. sut i gasglu, dadansoddi ac adrodd yn ôl ar ymarferion gwerthuso
  4. yr adnoddau sydd ar gael, yr anghenion ymchwil, polisïau perthnasol eich sefydliad a’r gofynion cyfreithiol
  5. gweithdrefnau eich sefydliad o ran awgrymu sut i wella
    gwasanaethau
  6. pobl eraill i’w cynnwys wrth ddatblygu a phrofi gwasanaethau
  7. sut i ddatblygu awgrymiadau ar gyfer gwasanaethau yn seiliedig ar waith ymchwil
  8. sut i wneud awgrymiadau o’r fath mewn modd eglur a rhesymegol
  9. sut i wneud gwaith ymgynghori angenrheidiol a phwysigrwydd
    gwneud hynny
  10. sut i ddatblygu manylebau a chynllunio gwasanaethau
  11. sut i brofi gwasanaethau a phwysigrwydd gwneud hyn
  12. sut i ddatblygu ffyrdd o hyrwyddo gwasanaethau
  13. sut i ystyried anghenion gwahanol gymunedau wrth ddatblygu
    deunydd hyrwyddo
  14. sut i ddatblygu deunyddiau sy’n briodol ar gyfer y dulliau hyrwyddo hyn
  15. pwysigrwydd rhoi dulliau a deunyddiau ar waith yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cytunedig eich sefydliad
  16. sut i gyflwyno gwybodaeth, gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu amrywiol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Eraill (o leiaf 5 allan o 7)
1. gweithwyr proffesiynol allanol
2. staff
3. plant a phobl ifanc
4. rhieni a / neu ofalwyr
5. mudiadau
6. unigolion yn y gymuned
7. plant a phobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan

Gwasanaethau
1. sy’n bodoli’n barod
2. newydd

Pobl eraill perthnasol (o leiaf 3 allan o 4)
1. pobl sy’n defnyddio’ch gwasanaethau eisoes
2. pobl newydd posib allai ddefnyddio’ch gwasanaethau
3. defnyddwyr sy’n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan
4. cydweithwyr

Cynllun
1. adnoddau
2. amserlenni
3. ffyrdd o ddosbarthu
4. cod hyrwyddo, ar gyfer cofnodi
5. dyddiad terfynu’r hyrwyddo

Dulliau Hyrwyddo (o leiaf 3 allan o 5)
1. dosbarthu taflenni
2. y cyfryngau cymdeithasol
3. ymweliadau
4. digwyddiadau
5. cynlluniau annog

Dulliau cyfathrebu (o leiaf 3 allan o 4)
1. cyfarfodydd
2. tele-gyfathrebu
3. cyfathrebu electronig neu dros y we
4. deunydd wedi ei argraffu


Gwybodaeth Cwmpas

Agweddau o’ch gwaith ac o’r lleoliad gwaith chwarae
1. chwarae
2. gwaith chwarae
3. ymdeimlad
4. gwasanaethau
5. cyfleoedd
6. digwyddiadau
7. ymgyrchoedd
8. cysylltiadau gyda mudiadau eraill
9. cyfrifoldebau
10. llwyddiannau
11. cyd-destun

Eraill
1. gweithwyr proffesiynol allanol
2. staff
3. plant a phobl ifanc
4. rhieni a / neu ofalwyr
5. sefydliadau
6. gweithwyr proffesiynol mewn disgyblaethau eraill
7. unigolion yn y gymuned
8. plant a phobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan

Gwasanaethau
1. sy’n bodoli’n barod
2. newydd

Cynllun
1. adnoddau
2. amserlenni
3. ffyrdd o ddosbarthu
4. cod hyrwyddo, ar gyfer cofnodi
5. dyddiad terfynu’r hyrwyddo

Dulliau hyrwyddo
1. dosbarthu taflenni
2. yn y cyfryngau
3. ymweliadau
4. digwyddiadau
5. cynlluniau annog

Dulliau cyfathrebu
Dulliau
1. rhyngbersonol
2. ffyrdd unigol
3. cynhwysol
4. ffurfiol
5. anffurfiol
6. cyfarfodydd
7. digwyddiadau

Cyfrwng
1. deunydd wedi ei argraffu
2. gweledol
3. tele-gyfathrebu
4. cyfathrebu electronig neu dros y we


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

Newydd

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyfathrebu; hyrwyddo; lleoliad gwaith chwarae; gwerthuso; gwaith chwarae