Datblygu a meithrin cysylltiadau yn y lleoliad gwaith chwarae

URN: SKAPW77
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â datblygu a meithrin cysylltiadau gyda phlant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr, grwpiau ac unigolion yn y lleoliad gwaith chwarae

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. Meithrin cysylltiadau gyda phlant, pobl ifanc ac eraill
  2. Meithrin cysylltiadau gyda grwpiau ac unigolion

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff sydd â pheth cyfrifoldeb dros y lleoliad gwaith chwarae ac eraill, ac sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu.  *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Meithrin cysylltiadau gyda phlant, pobl ifanc ac eraill

  1. helpu plant, pobl ifanc ac eraill i ddeall fod pawb yn unigolion gwahanol ac amrywiol ac yn gweld pethau mewn ffordd wahanol
  2. cyfathrebu gyda phlant, pobl ifanc ac eraill
  3. ymateb i gwestiynau, syniadau ac awgrymiadau plant, pobl ifanc ac eraill
  4. hyrwyddo chwarae a gwaith chwarae i eraill
  5. meithrin cysylltiadau rhwng plant a phobl ifanc yn y lleoliad gwaith chwarae, heb ymyrryd yn uniongyrchol
  6. annog plant a phobl ifanc i wneud dewisiadau drostyn nhw eu hunain
  7. annog plant a phobl ifanc i gytuno ar y ffyrdd maen nhw’n ymwneud ag eraill
  8. cynnwys pobl eraill ac ystyried eu safbwyntiau ynglŷn â phenderfyniadau a gweithgareddau yn ymwneud â chwarae a gwaith chwarae
  9. ymateb i blant a phobl ifanc mae ymddygiad rhywun arall wedi effeithio arnyn nhw
  10. helpu plant a phobl ifanc i ymdrin â gwrthdaro drostyn nhw eu hunain, gyda chyn lleied â phosib o ymyrraeth
  11. annog a chymryd rhan mewn gwaith adlewyrchu gydag eraill

Meithrin cysylltiadau gyda grwpiau ac unigolion

  1. hyrwyddo diben, gwerthoedd a’r gwahanol ffyrdd o ymgymryd â gwaith chwarae, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, i grwpiau ac unigolion
  2. cyfathrebu gyda grwpiau ac unigolion
  3. ymateb i gwestiynau, syniadau ac awgrymiadau grwpiau ac unigolion
  4. cyfnewid gwybodaeth gyda grwpiau ac unigolion mewn ffyrdd sy’n cwrdd â’u hanghenion ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  5. ymateb i faterion, achosion o anghydfod neu bryderon gan grwpiau ac unigolion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  6. derbyn ac ymateb i adborth gan grwpiau ac unigolion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad  
  7. anrhydeddu cytundebau gyda grwpiau ac unigolion a rhoi gwybod iddyn nhw beth sy’n digwydd
  8. rhoi gwybod i grwpiau ac unigolion o unrhyw anawsterau mawr neu os bydd hi’n amhosib cyflawni cytundebau
  9. trafod cytundebau a chyfaddawdu lle bo angen er mwyn meithrin cysylltiadau gyda grwpiau ac unigolion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Meithrin cysylltiadau gyda phlant, pobl ifanc ac eraill                                         
1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith
proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi.
2. Fod pob plentyn a pherson ifanc yn unigryw a gwahanol
3. Sut i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn eich sefydliad a’ch gwaith chwarae
4. Heriau cyfathrebu a sut i fynd i’r afael â nhw
5. Y ffyrdd gwahanol o gyfathrebu gyda phlant, pobl ifanc ac eraill                                                                                         6. Sut i wrando’n astud ac ymateb i gyfathrebu geiriol a di-eiriau
7. Sut i ymateb i gwestiynau, syniadau ac awgrymiadau plant, pobl ifanc ac eraill
8. Sut a phryd i rannu gwybodaeth gydag eraill, gan ystyried ar yr un pryd yr hyn sydd orau i’r plant a’r bobl ifanc
9. Sut i hyrwyddo chwarae a gwaith chwarae i eraill
10. Sut i helpu plant a phobl ifanc i barchu teimladau a safbwyntiau pobl eraill a sut i hwyluso hyn fel modd o ddatblygu cytundebau ynglŷn â’r ffyrdd maen nhw’n ymwneud â’i gilydd
11. Sut i drafod gweithgareddau a phenderfyniadau gyda phobl eraill ac ystyried eu barn
12. Fod angen i blant a phobl ifanc benderfynu drostyn nhw eu hunain pwy i chwarae gyda nhw, a sut mae modd i chi hwyluso hyn
13. Sut mae modd i bresenoldeb oedolion weithiau lesteirio annibyniaeth plant a phobl ifanc a sut maen nhw’n gwneud penderfyniadau
14. Ffyrdd o gefnogi plant a phobl ifanc mae ymddygiad rhywun arall wedi effeithio arnyn nhw
15. Sut i gefnogi plant a phobl ifanc i ymdrin â gwrthdaro drostyn nhw eu hunain a ham bod hyn yn bwysig
16. Pwysigrwydd annog a chymryd rhan mewn gwaith adlewyrchu gydag eraill a ffyrdd o wneud hyn

Meithrin cysylltiadau gyda grwpiau ac unigolion

  1. hyrwyddo diben, gwerthoedd a’r gwahanol ffyrdd o ymgymryd â gwaith chwarae, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, i grwpiau ac unigolion
  2. pwysigrwydd anrhydeddu cytundebau gyda grwpiau ac unigolion
  3. sut a phryd i hysbysu grwpiau ac unigolion o unrhyw anawsterau mawr neu os bydd hi’n amhosib cyflawni cytundeb
  4. sut i drafod, cyfaddawdu a dod i gytundeb gyda grwpiau ac unigolion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Eraill (o leiaf 3 allan o 4)
1. staff
2. rhieni a / neu ofalwyr
3. ymwelwyr
4. asiantaethau

Cyfathrebu
1. effeithiolrwydd cyfathrebu geiriol a di-eiriau
2. sylwi ar gyfathrebu di-eiriau
3. sut rydych chi’n ymateb i gyfathrebu geiriol a di-eiriau

Safbwyntiau
1. blaenoriaethau
2. disgwyliadau
3. agweddau i beryglon posib

Grwpiau ac unigolion (o leiaf 3 allan o 4)
1. o’r maes gwaith chwarae
2. gan grwpiau cymunedol
3. o’r gymuned
4. y bobl hynny sy’n draddodiadol wedi ei chael hi’n anodd cymryd rhan

Gwybodaeth (o leiaf 4 allan o 5)
1. chwarae a gwaith chwarae
2. profiadau’r plant a’r bobl ifanc
3. cyfleoedd ar gael yn y lleoliad gwaith chwarae
4. gwerthoedd a gweithdrefnau cytunedig
5. ffyrdd mae modd cynnwys rhieni a gofalwyr yn y lleoliad gwaith chwarae


Gwybodaeth Cwmpas

Heriau cyfathrebu
1. diwylliannol
2. cymdeithasol
3. corfforol
4. emosiynol
5. datblygol

Ffyrdd o gyfathrebu
1. ieithoedd confensiynol
2. ieithoedd anghonfensiynol
3. cyfathrebu di-eiriau
4. cyfathrebu geiriol

Eraill
1. staff
2. rhieni a / neu ofalwyr
3. ymwelwyr
4. asiantaethau

Gwybodaeth
1. chwarae a gwaith chwarae
2. profiadau’r plant a’r bobl ifanc
3. cyfleoedd ar gael yn y lleoliad gwaith chwarae
4. gwerthoedd a gweithdrefnau cytunedig
5. ffyrdd mae modd cynnwys rhieni a gofalwyr yn y lleoliad gwaith chwarae

Safbwyntiau
1. blaenoriaethau
2. disgwyliadau
3. agweddau i beryglon posib

Grwpiau ac unigolion
1. o’r maes gwaith chwarae
2. o grwpiau cymunedol
3. o’r gymuned
4. y bobl hynny sy’n draddodiadol wedi ei chael hi’n anodd cymryd rhan


Gwerthoedd

Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW8

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

datblygu a meithrin; cysylltiadau; lleoliad gwaith chwarae; gwaith chwarae