Datblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â chydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chyda pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad sy’n ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc. Mae’n rhoi sylw hefyd i weithredu’r polisïau hyn ac i’r cyfrifoldeb o’u cynnal – yn eich lleoliad gwaith chwarae a chyda’r staff rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- datblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion plant a phobl ifanc ac yn amddiffyn eu hawliau.
- sicrhau fod y staff rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw yn gwybod am bolisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ac yn eu gweithredu
Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff sydd â pheth cyfrifoldeb dros y lleoliad gwaith chwarae ac eraill, ac sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.
Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Datblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion plant a phobl ifanc ac yn amddiffyn eu hawliau
- ymchwilio i hawliau plant a phobl ifanc ac ymgynghori yn eu cylch
- gwerthuso polisïau a gweithdrefnau presennol i sicrhau eich bod yn cwrdd â hawliau plant a phobl ifanc yn eich lleoliad gwaith chwarae
- trafod gyda phlant a phobl ifanc y ffyrdd y gall y lleoliad gwaith chwarae gwrdd â’u hawliau orau
- datblygu cytundeb grŵp gyda’r plant a’r bobl ifanc ynghylch sut i gwrdd â’u hawliau a’u hanghenion
- trafod a chytuno ar bolisïau a gweithdrefnau gyda’ch staff sy’n seiliedig ar gwrdd â hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc
- darparu gwybodaeth a chanllawiau i’ch staff ynghylch y polisïau a’r gweithdrefnau hyn
- cytuno ar ffyrdd gyda’ch staff o wella’r polisïau a’r gweithdrefnau
Sicrhau fod y staff rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw yn
gwybod am bolisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ac yn eu
gweithredu
- datblygu rhaglen hyfforddi i bob aelod o staff
- gwirio fod eich staff yn ymwybodol o’r polisïau a’r gweithdrefnau
- sicrhau fod eich llawlyfr staff a’ch cyrsiau sefydlu ac anwytho yn cynnwys elfen am y polisïau a’r gweithdrefnau
- hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant i’r staff, a lle bo angen, eu cefnogi
- arsylwi, casglu adborth a gwerthuso pa mor dda mae’r polisïau a’r gweithdrefnau yn gweithio
- dewis un polisi a gweithdrefn i’w hyrwyddo yn eu tro gyda’ch staff
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Datblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad i
sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion ac yn amddiffyn hawliau plant a phobl ifanc
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith
proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd
cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi - gofynion sylfaenol y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhanbarthol
sy’n gwarchod hawl plant a phobl ifanc i chwarae - gofynion sylfaenol deddfwriaeth genedlaethol ynglŷn â hawliau plant a phobl ifanc
- gofynion sylfaenol y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i Gyfleoedd Cyfartal a Gwahaniaethu ar Sail Anabledd
- canllawiau, polisïau a gweithdrefnau lleol a sut maen nhw’n berthnasol i’r lleoliad gwaith chwarae
- cyfrifoldebau amddiffyn plant
- camau sylfaenol datblygiad plentyn a goblygiadau hyn ar hawliau ac anghenion plant yng nghyd-destun gwaith chwarae
- pwysigrwydd fod polisïau a gweithdrefnau gan y lleoliad gwaith chwarae sy’n adlewyrchu hawliau plant a phobl ifanc
- pwysigrwydd trafod gyda phlant a phobl ifanc, eu cynnwys yn y broses benderfynu, a sut i drafod yn effeithiol gyda nhw
- pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn y lleoliad gwaith chwarae
- y damcaniaethau a’r arferion gorau diweddaraf o ran cynhwysiant
- sut i ymchwilio i hawliau plant a phobl ifanc ac adnabod sut y bydd y rhain yn effeithio ar eich lleoliad gwaith chwarae
- strategaethau a pholisïau eich sefydliad fydd yn effeithio ar hawliau plant a sut i werthuso’r rhain
- sut i hyrwyddo ac eiriol dros hawliau plant a phobl ifanc yn y lleoliad gwaith chwarae
Sicrhau fod y staff rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw yn
gwybod am bolisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ac yn eu
gweithredu
- sut i roi polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar waith yn eich lleoliad gwaith chwarae
- sut i ddatblygu cynllun hyfforddi ar gyfer staff
- ffyrdd o wirio fod staff yn ymwybodol o’r polisïau a’r gweithdrefnau a pham ei bod hi’n bwysig cwblhau hyn yn gyson.
- sut i sicrhau fod staff yn cwrdd â hawliau plant a phobl ifanc yn eich lleoliad gwaith chwarae
- sut i ymgorffori polisïau a gweithdrefnau i fod yn rhan o gyrsiau anwytho, cynlluniau ymgyfarwyddo a / neu lawlyfrau staff
- materion ynglŷn ag amrywiaeth a chynhwysiant a phryd a sut i gefnogi staff
- sut i gasglu adborth a gwerthuso sut mae polisïau a gweithdrefnau’n gweithio
- ffyrdd o hyrwyddo polisi a gweithdrefn benodol yn rheolaidd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Hawliau (o leiaf 4 allan o 6)
1. mewn perthynas â chwarae a gweithgareddau cymdeithasol
2. mewn perthynas â gofal a diogelwch
3. mewn perthynas â lles emosiynol
4. mewn perthynas â chynhwysiant
5. mewn perthynas â chydnabod hunaniaeth
6. mewn perthynas â gwybodaeth
Polisïau a gweithdrefnau (o leiaf 4 allan o 7)
1. chwarae a gweithgareddau cymdeithasol
2. gweithio mewn ffordd gynhwysol sydd ddim yn gwahaniaethu
3. amddiffyn plant a bwlio
4. iechyd a diogelwch
5. ymateb i ymddygiad
6. helpu plant a phobl ifanc i bontio sefyllfaoedd
7. gweithio gydag asiantaethau eraill
Gwybodaeth Cwmpas
Hawliau **
1. mewn perthynas â chwarae a gweithgareddau cymdeithasol
2. mewn perthynas â gofal a diogelwch
3. mewn perthynas â lles emosiynol
4. mewn perthynas â chynhwysiant
5. mewn perthynas â chydnabod hunaniaeth
6. mewn perthynas â gwybodaeth
Polisïau a gweithdrefnau **
1. chwarae a gweithgareddau cymdeithasol
2. gweithio mewn ffordd gynhwysol sydd ddim yn gwahaniaethu
3. amddiffyn plant a bwlio
4. iechyd a diogelwch
5. ymateb i ymddygiad
6. helpu plant a phobl ifanc i bontio sefyllfaoedd
7. gweithio gydag asiantaethau eraill
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.