Rhoi polisïau a gweithdrefnau ar waith i ddiogelu plant a phobl ifanc yn y lleoliad gwaith chwarae
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â gweithredu a chynnal polisïau yn ymwneud â materion diogelwch ac achosion posib o fwlio yn y lleoliad gwaith chwarae.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- bod â gweithdrefnau i ddiogelu plant a phobl ifanc
- rhoi gweithdrefnau diogelu ar waith er mwyn diogelu plant a phobl ifanc
- rhoi polisïau a gweithdrefnau ar waith i ymateb i achosion posib o fwlio
Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff sydd â pheth cyfrifoldeb dros y lleoliad gwaith chwarae ac eraill, ac sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Bod â gweithdrefnau i ddiogelu plant a phobl ifanc
- datblygu a chynnal gweithdrefnau diogelu eich sefydliad yn unol â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol
- diweddaru gweithdrefnau diogelu eich sefydliad gydag eraill
- arwain ar, a chymryd rhan mewn hyfforddiant, a helpu i roi gweithdrefnau diogelu ar waith
Rhoi gweithdrefnau diogelu ar waith er mwyn diogelu plant a phobl ifanc
- rhoi cefnogaeth i blant a phobl ifanc ynglŷn â sut i gadw eu hunain yn ddiogel rhag cael eu cam-drin
- cefnogi plant a phobl ifanc gyda’u hawliau
- rhoi cefnogaeth ac arweiniad i blant a phobl ifanc ynghylch beth allan nhw ei wneud petai nhw yn cael eu cam-drin
Rhoi polisïau a gweithdrefnau ar waith i ymateb i achosion posib o fwlio
- rheoli, gweithredu a chadw golwg ar bolisi gwrth-fwlio eich sefydliad
- diweddaru gweithdrefnau gwrth-fwlio eich sefydliad gyda phlant, pobl ifanc a staff
- rhoi cymorth ac arweiniad i staff i’w cefnogi gyda rhoi polisïau a gweithdrefnau gwrth-fwlio eich sefydliad ar waith
- rhoi cefnogaeth i blant a phobl ifanc ynghylch sut y gallan nhw gadw eu hunain yn ddiogel rhag cael eu bwlio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Bod â gweithdrefnau i ddiogelu plant a phobl ifanc
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
- eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau eich hun mewn perthynas â
diogelu plant a phobl ifanc rhag cael eu cam-drin - y gweithdrefnau sydd gan eich sefydliad i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag cael eu cam-drin
- y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a sefydliadol diweddaraf o ran diogelu, ble i ddod o hyd iddyn nhw a phwysigrwydd sicrhau eich bod yn gyfarwydd â nhw
- ffynonellau gwybodaeth ynghylch yr arferion diogelu gorau
- pwysigrwydd adnabod, datgelu a chofnodi unrhyw bryder sydd gennych chi fod plentyn neu berson ifanc yn cael ei gam-drin
- pwysigrwydd darparu a mynychu hyfforddiant a chyrsiau gloywi cyfoes a pherthnasol
- eich cyfrifoldebau yn cefnogi staff i roi polisïau a gweithdrefnau diogelu a gwrth-fwlio ar waith
Rhoi gweithdrefnau diogelu ar waith er mwyn diogelu plant a phobl ifanc
- sut i adnabod arwyddion a symptomau o gamdriniaeth ac esgeulustod
- sut i adnabod ac ymateb i bryderon ynghylch camdriniaeth yn unol â gweithdrefnau diogelu eich sefydliad
- sut i ddatgelu a chofnodi pryderon ynghylch camdriniaeth, yn unol â’r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a sefydliadol diweddaraf
- y mathau o wybodaeth y gall fod angen i blant a phobl ifanc wybod amdani i gadw eu hunain yn ddiogel rhag cael eu cam-drin, a ble mae dod o hyd i’r wybodaeth hon
- ffyrdd o roi gwybod i blant a phobl ifanc am eu hawliau, a phwysigrwydd gwneud hyn
- pwysigrwydd meithrin hunan-hyder a gwytnwch plant a phobl ifanc
- y ffactorau a all wneud rhai plant a phobl ifanc yn fwy agored i gael eu cam-drin, a phwysigrwydd bod yn ymwybodol o hyn
- sut i roi cyngor ac arweiniad i blant ynghylch yr hyn y gallan nhw ei wneud os ydyn nhw yn cael eu cam-drin
- y math o gyngor ac arweiniad mae angen i chi ei roi i staff ynghylch pryderon fod plentyn neu berson ifanc yn cael ei gam-drin
Rhoi polisïau a gweithdrefnau ar waith i ymateb i achosion posib o fwlio
- polisi a gweithdrefnau gwrth fwlio eich sefydliad a pham bod y rhain yn bwysig
- mathau o fwlio
- sut i adnabod ac ymateb i bryderon ynghylch bwlio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau gwrth fwlio eich sefydliad
- sut i adnabod ac ymateb i wybodaeth ynghylch pryderon am fwlio
- pam y gall fod angen cefnogaeth ar staff – a pha fath, ymhle a chan bwy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Eraill (o leiaf 3 allan o 5)
1. staff
2. uwch reolwyr
3. gweithwyr proffesiynol allweddol sy’n gweithio gyda phlant a /
neu bobl ifanc unigol
4. asiantaethau cyfeirio
5. gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal plant
Camdriniaeth
1. corfforol
2. esgeulustod
3. emosiynol
4. rhywiol
5. bwlio
Gwybodaeth Cwmpas
Camdriniaeth
1. corfforol
2. esgeulustod
3. emosiynol
4. rhywiol
5. bwlio
Mathau
1. emosiynol
2. corfforol
3. seibr
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant