Cyfrannu at weithredu polisïau a gweithdrefnau i ddiogelu plant a phobl ifanc yn y lleoliad gwaith chwarae
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â chyfrannu at weithredu a chynnal gweithdrefnau yn ymwneud â materion diogelwch ac achosion posib o fwlio yn eich lleoliad gwaith chwarae.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- cyfrannu at a dilyn gweithdrefnau i ddiogelu plant a phobl ifanc
- cyfrannu at weithredu polisïau a gweithdrefnau i ymateb i achosion posib o fwlio
Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff sydd â pheth cyfrifoldeb dros y lleoliad gwaith chwarae ac eraill, ac sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyfrannu at a dilyn gweithdrefnau i ddiogelu plant a phobl ifanc
- dilyn gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a sefydliadol cyfredol i warchod plant a / neu bobl ifanc rhag cael eu cam-drin, fel sy’n berthnasol i’ch swyddogaeth
- cymryd rhan mewn hyfforddiant er mwyn rhoi’r gweithdrefnau diogelu ar waith
- rhoi cefnogaeth i blant a / neu bobl ifanc o ran sut i gadw eu hunain yn ddiogel rhag cael eu cam-drin
- cefnogi plant a / neu bobl ifanc gyda’u hawliau
- rhoi arweiniad i blant a / neu bobl ifanc o ran beth y gallan nhw ei wneud os ydyn nhw’n cael eu cam-drin
Cyfrannu at weithredu polisïau a gweithdrefnau i ymateb i achosion posib o fwlio
- cyfrannu at weithredu polisi gwrth-fwlio eich sefydliad
- dilyn polisi a gweithdrefnau gwrth-fwlio eich sefydliad os oes angen hysbysu rhywun am arwyddion posib o fwlio
- rhoi cefnogaeth i blant a phobl ifanc o ran cadw eu hunain yn ddiogel rhag cael eu bwlio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyfrannu at a dilyn gweithdrefnau i ddiogelu plant a phobl ifanc
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
2. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau eich hunain o ran amddiffyn plant a phobl ifanc
3. gweithdrefnau diogelu eich sefydliad o ran amddiffyn plant a / neu bobl ifanc rhag cael eu cam-drin
4. y gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol presennol o ran diogelu, ble i ddod o hyd iddyn nhw a phwysigrwydd sicrhau eich bod yn gyfarwydd â nhw yn eich gwaith - ffynonellau gwybodaeth ynghylch yr arferion gorau o ran diogelu
- pwysigrwydd adnabod, datgelu a chofnodi pryderon sydd gennych chi fod plentyn neu berson ifanc yn cael ei gam-drin
- pwysigrwydd hyfforddiant cyfredol a pherthnasol
- sut i adnabod ac ymateb i symptomau o gamdriniaeth ac esgeulustod yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a sefydliadol cyfredol
- y mathau o wybodaeth y gall fod ei hangen ar blant a / neu bobl ifanc ynglŷn â sut i ddiogelu eu hunain rhag cael eu cam-drin, a ble i ddod o hyd i’r wybodaeth honno
- ffyrdd o roi gwybodaeth i blant a / neu bobl ifanc ynghylch eu hawliau, a phwysigrwydd gwneud hyn
- pwysigrwydd hyrwyddo hunan-hyder a gwytnwch mewn plant a / neu bobl ifanc
- y ffactorau allai wneud rhai plant a / neu bobl ifanc yn fwy agored i gael eu cam-drin a phwysigrwydd bod yn ymwybodol o hyn
- sut i roi arweiniad a chefnogaeth i blant o ran yr hyn y dylent ei
wneud os ydyn nhw’n cael eu cam-drin
Cyfrannu at weithredu polisïau a gweithdrefnau i ymateb i achosion posib o fwlio
- polisïau a gweithdrefnau gwrth fwlio eich sefydliad a pham bod y rhain yn bwysig
- mathau o fwlio
- sut i adnabod ac ymateb i bryderon ynghylch bwlio yn unol â
pholisïau a gweithdrefnau gwrth-fwlio eich sefydliad - y trefniadau o ran adrodd a chofnodi gwybodaeth ynghylch bwlio
- pam y gall fod angen cymorth arnoch chi – pa fath, ymhle a chan bwy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Camdriniaeth
1. corffor
2. esgeulustod
3. emosiynol
4. rhywiol
5. bwlio
Eraill (o leiaf 3 allan o 5)
1. gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal plant
2. staff
3. uwch-reolwyr
4. gweithwyr proffesiynol allweddol sy’n gweithio gyda phlant a /
neu bobl ifanc unigol
5. asiantaethau cyfeirio
Gwybodaeth Cwmpas
Camdriniaeth
1. corfforol
2. esgeulustod
3. emosiynol
4. rhywiol
5. bwlio
Mathau
1. emosiynol
2. corfforol
3. seibr
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn faterol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.