Trafod a hyrwyddo’r gwaith sy’n digwydd yn eich lleoliad gwaith chwarae
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â hyrwyddo’r gwaith sy’n digwydd yn eich lleoliad gwaith chwarae a’i werth i’r gymuned drwy, er enghraifft, fynd i gyfarfodydd rhwydwaith ac allanol allai fod o fudd i’ch gwaith a’ch gyrfa yn y dyfodol.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- trafod eich lleoliad gwaith chwarae gydag eraill
- hyrwyddo gwasanaethau yn eich lleoliad gwaith chwarae
Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad gwaith chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Trafod eich lleoliad gwaith chwarae gydag eraill
- adnabod cyfleoedd i hyrwyddo’ch maes gwaith a’ch lleoliad gwaith chwarae i eraill
- trafod eich cynnig gyda’ch cydweithiwr cyfrifol
- egluro a / neu hyrwyddo’ch lleoliad gwaith chwarae i eraill
- sôn wrth eraill am eich lleoliad gwaith chwarae, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
- egluro wrth eraill sut mae gwaith eich lleoliad chwarae o fudd i’r gymuned
- cael adborth gan eraill ynglŷn â’u barn nhw am eich lleoliad gwaith chwarae a’r gwasanaethau rydych chi’n eu cynnig, a rhannu hyn gyda’ch cydweithiwr cyfrifol
Hyrwyddo gwasanaethau yn eich lleoliad gwaith chwarae
- awgrymu syniadau ynglŷn â deunydd hyrwyddo i’ch cydweithiwr cyfrifol sy’n gyson gyda’r grwpiau targed y cytunwyd arnyn nhw, yr adnoddau sydd ar gael a’r gofynion cyfreithiol
- cyfrannu at ddatblygu ffyrdd realistig o hyrwyddo gwasanaethau eich lleoliad gwaith chwarae, mewn cytundeb gyda’ch cydweithiwr cyfrifol
- trafod ffyrdd posib o wella gwasanaethau gyda’r bobl berthnasol yn eich lleoliad gwaith chwarae
- datblygu cynllun i hyrwyddo gwasanaethau gydag eraill a’ch cydweithiwr cyfrifol
- rhoi’r dulliau hyrwyddo ar waith
- casglu a gwerthuso’r canfyddiadau i farnu pa mor effeithiol oedd yr hyrwyddo
- rhoi gwybod i’ch cydweithiwr cyfrifol am eich gwerthusiad a chytuno ar unrhyw argymhellion neu newidiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
*Trafod eich lleoliad gwaith chwarae gydag eraill
*
* *
1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
2. yr agweddau o’ch gwaith a’r lleoliad gwaith chwarae mae modd eu hyrwyddo
3. ffyrdd o hyrwyddo’r gwaith mae eich lleoliad gwaith chwarae yn ei wneud i eraill mewn ffordd sy’n cwrdd â’u hanghenion
4. sut mae modd i eraill gefnogi eich lleoliad gwaith chwarae
5. sut mae gwaith eich lleoliad gwaith chwarae o fudd i eraill a’r gymuned
6. ffyrdd o gael adborth gan eraill ynghylch eu barn ynglŷn â’ch lleoliad gwaith chwarae
7. sut i gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd sy’n cwrdd ag anghenion y bobl hynny rydych chi’n cyfathrebu â nhw
8. pwysigrwydd hysbysu eich cydweithiwr cyfrifol am eich
gweithgareddau gydag eraill
Cyfrannu at hyrwyddo gwasanaethau yn eich lleoliad gwaith
chwarae
- sut i ddatblygu deunyddiau hyrwyddo ar gyfer eich lleoliad gwaith chwarae
- pwysigrwydd ceisio gwella gwasanaethau’n barhaus
- sut i ddatblygu dulliau gwerthuso ac adnabod meini prawf priodol
- pwysigrwydd gwerthuso yn unol â’r cynllun cytunedig
- sut i gasglu, dadansoddi ac adrodd yn ôl ar eich gwerthusiad
- trefniadau’ch mudiad o ran awgrymu sut i wella gwasanaethau
- sut i ddatblygu awgrymiadau ar gyfer gwasanaethau yn seiliedig ar yr adborth a gafwyd a’r gwaith ymchwil a wnaed
- sut i gyfleu a chyflwyno’r awgrymiadau hyn
- sut i ystyried anghenion gwahanol grwpiau o bobl wrth ddatblygu deunydd hyrwyddo
- sut i ddatblygu deunydd hyrwyddo sy’n briodol i’r dulliau hyn
- pwysigrwydd cynhyrchu deunyddiau a gweithio mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r polisïau a’r gweithdrefnau mae eich sefydliad wedi cytuno arnyn nhw
- sut i gyflwyno gwybodaeth, gan ddefnyddio sawl ffordd wahanol o gyfathrebu
- eich cydweithiwr cyfrifol, sef yr un y dylech chi drafod a chytuno ar y cynllun hyrwyddo gydag o / hi er mwyn gwella gwasanaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Eraill (isafswm o 5 allan o 8)
1. gweithwyr proffesiynol allanol
2. staff
3. plant a phobl ifanc
4. plant a phobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan
5. rhieni a / neu ofalwyr
6. mudiadau
7. gweithwyr proffesiynol mewn disgyblaethau eraill
8. unigolion yn y gymuned
Gwasanaethau
1. sy’n bodoli’n barod
2. newydd
Dulliau Hyrwyddo (PC7 & PC8)
1. dosbarthu taflenni
2. y cyfryngau cymdeithasol
3. ymweliadau
4. digwyddiadau
5. cynlluniau annog
Pobl eraill perthnasol
1. pobl sy’n defnyddio’ch gwasanaethau eisoes
2. pobl newydd posib allai ddefnyddio’ch gwasanaethau
3. defnyddwyr sy’n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan
4. cydweithwyr
Gwybodaeth Cwmpas
Agweddau o’ch gwaith ac o’r lleoliad gwaith chwarae
1. chwarae
2. gwaith chwarae
3. ymdeimlad
4. gwasanaethau
5. cyfleoedd
6. digwyddiadau
7. ymgyrchoedd
8. cysylltiadau gyda mudiadau eraill
9. cyfrifoldebau
10. llwyddiannau
11. cyd-destun
Eraill **
1. gweithwyr proffesiynol allanol
2. staff
3. plant a phobl ifanc
4. plant a phobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan
5. rhieni a / neu ofalwyr
6. mudiadau
7. gweithwyr proffesiynol mewn disgyblaethau eraill
8. unigolion yn y gymuned
Dulliau Hyrwyddo
1. dosbarthu taflenni
2. y cyfryngau cymdeithasol
3. ymweliadau
4. digwyddiadau
5. cynlluniau annog
Gwasanaethau
1. sy’n bodoli’n barod
2. newydd
Cynllun
1. adnoddau
2. amserlenni
3. ffyrdd o ddosbarthu
4. cod hyrwyddo, ar gyfer cofnodi
5. dyddiad terfynu’r hyrwyddo
Dulliau cyfathrebu
Dulliau
1. rhyngbersonol
2. ffyrdd unigol
3. cynhwysol
4. ffurfiol
5. anffurfiol
6. cyfarfodydd
7. digwyddiadau
Cyfrwng
1. deunydd wedi ei argraffu
2. gweledol
3. tele-gyfathrebu
4. cyfathrebu electronig neu dros y we
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.