Cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc

URN: SKAPW68
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â chydymffurfio â gofynion y gyfraith ac â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad sy’n ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc. Mae hefyd yn rhoi sylw i’r cyfrifoldeb o gynnal a gweithredu’r polisïau a’r gweithdrefnau hyn – yn eich lleoliad gwaith chwarae a chyda’r staff rydych chi’n gweithio gyda nhw ac efallai â pheth cyfrifoldeb drostyn nhw.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad sy’n ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc
  2. gweithredu polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad a helpu staff i fod yn fwy ymwybodol ohonyn nhw.

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff sydd â pheth cyfrifoldeb dros y lleoliad gwaith chwarae ac eraill, ac sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.

Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc

  1. ymchwilio i hawliau plant a phobl ifanc
  2. gwerthuso polisïau a gweithdrefnau sydd eisoes yn bodoli er mwyn sicrhau eich bod yn cwrdd â hawliau plant a phobl ifanc yn eich lleoliad gwaith chwarae
  3. trafod gyda phlant a phobl ifanc y ffyrdd y gall y lleoliad gwaith chwarae gwrdd â’u hawliau orau
  4. datblygu cytundebau grŵp gyda phlant a phobl ifanc ynglŷn â ffyrdd o gwrdd â’u hawliau a’u hanghenion
  5. trafod gyda staff a chytuno ar bolisïau a gweithdrefnau sy’n seiliedig ar anghenion a hawliau plant a phobl ifanc
  6. rhoi gwybodaeth ac argymhellion i staff ynglŷn â’r polisïau a’r gweithdrefnau hyn

Gweithredu polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad a helpu staff i fod yn fwy ymwybodol ohonyn nhw

  1. gwirio’n rheolaidd fod staff yn ymwybodol o’r polisïau a’r gweithdrefnau
  2. cyfrannu at greu diwylliant ymysg staff ac oedolion eraill perthnasol sy’n rhoi pwys ar amrywiaeth ac ar geisio cynnwys pawb
  3. arsylwi, casglu adborth a gwerthuso pa mor dda mae’r polisïau a’r gweithdrefnau yn gweithio yn eich lleoliad gwaith chwarae

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith
    proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
  2. sut i ymchwilio i hawliau plant a phobl ifanc ac adnabod y goblygiadau i’ch lleoliad gwaith chwarae  
  3. gofynion sylfaenol deddfwriaeth genedlaethol a rhanbarthol yn amddiffyn hawl plant i chwarae
  4. gofynion sylfaenol deddfwriaeth genedlaethol ynglŷn â hawliau plant a phobl ifanc
  5. gofynion sylfaenol y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â Chyfleoedd Cyfartal a Gwahaniaethu ar Sail Anabledd
  6. canllawiau, polisïau a gweithdrefnau lleol a sut maen nhw’n berthnasol i’ch lleoliad gwaith chwarae
  7. camau sylfaenol datblygiad plentyn a sut mae hyn yn effeithio ar hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc yng nghyd-destun gwaith chwarae
  8. pam ei bod hi’n bwysig fod polisïau a gweithdrefnau gan y lleoliad gwaith chwarae sy’n adlewyrchu hawliau plant a phobl ifanc
  9. pwysigrwydd trafod gyda phlant a’u cynnwys wrth wneud penderfyniadau, a sut i wneud hyn yn effeithiol
  10. pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn y lleoliad gwaith chwarae
  11. sut i gefnogi amrywiaeth a chynhwysiant mewn gair, gweithred ac ymddygiad yn eich lleoliad gwaith chwarae
  12. pam ei bod hi’n bwysig hyrwyddo’r lleoliad gwaith chwarae i blant a phobl ifanc sydd o bosib yn wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan
  13. y mathau o gefnogaeth fydd o bosib eu hangen ar blant a phobl ifanc i wneud y defnydd gorau o’r lleoliad gwaith chwarae
  14. damcaniaethau ac arferion da cyfredol yn ymwneud â chynhwysiant
  15. sut i hyrwyddo ac eiriol dros hawliau plant a phobl ifanc yn eich lleoliad gwaith chwarae

Gweithredu polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad a helpu staff i fod yn fwy ymwybodol ohonyn nhw

  1. sut i helpu rhoi polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar waith yn eich lleoliad gwaith chwarae
  2. ffyrdd o gefnogi staff i ddeall y polisïau a’r gweithdrefnau a pham ei bod hi’n bwysig cwblhau hyn yn rheolaidd
  3. sut i sicrhau fod staff yn cwrdd â hawliau plant a phobl ifanc yn eich lleoliad gwaith chwarae
  4. materion yn ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant a sut a phryd i gefnogi staff
  5. sut i gasglu adborth a gwerthuso sut mae polisïau a gweithdrefnau yn gweithio yn eich lleoliad gwaith chwarae

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Hawliau (o leiaf 4 allan o 6)
1. mewn perthynas â chwarae a gweithgareddau cymdeithasol
2. mewn perthynas â gofal a diogelwch
3. mewn perthynas â lles emosiynol
4. mewn perthynas â chynhwysiant
5. mewn perthynas â chydnabod hunaniaeth
6. mewn perthynas â gwybodaeth

Polisïau a gweithdrefnau (o leiaf 4 allan o 7)
1. chwarae a gweithgareddau cymdeithasol
2. gweithio mewn ffordd gynhwysol sydd ddim yn gwahaniaethu
3. amddiffyn plant a bwlio
4. iechyd a diogelwch
5. ymateb i ymddygiad
6. helpu plant a phobl ifanc i bontio sefyllfaoedd
7. gweithio gydag asiantaethau eraill

Staff (o leiaf 3 allan o 4)
1. rydych chi’n gweithio gyda nhw
2. rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw
3. cyflogedig a / neu ddigyflog
4. myfyrwyr a / neu dan hyfforddiant


Gwybodaeth Cwmpas

Hawliau **
1. mewn perthynas â chwarae a gweithgareddau cymdeithasol
2. mewn perthynas â gofal a diogelwch
3. mewn perthynas â lles emosiynol
4. mewn perthynas â chynhwysiant
5. mewn perthynas â chydnabod hunaniaeth
6. mewn perthynas â gwybodaeth

Polisïau a gweithdrefnau **
1. chwarae a gweithgareddau cymdeithasol
2. gweithio mewn ffordd gynhwysol sydd ddim yn gwahaniaethu
3. amddiffyn plant a bwlio
4. iechyd a diogelwch
5. ymateb i ymddygiad
6. helpu plant a phobl ifanc i bontio sefyllfaoedd
7. gweithio gydag asiantaethau eraill

Staff **
1. rydych chi’n gweithio gyda nhw
2. rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw
3. cyflogedig a / neu ddigyflog
4. myfyrwyr a / neu dan hyfforddiant


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn faterol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKABB226

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyfrannu; datblygu; adolygu; polisïau a gweithdrefnau; hawliau; plant a phobl ifanc