Sefydlu a hwyluso’r chwarae mewn man nad yw’n lleoliad gwaith chwarae dynodedig

URN: SKAPW63
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon ag ymgymryd â’ch dyletswyddau gwaith chwarae a darparu ar gyfer chwarae rhydd mewn man nad yw’n lleoliad gwaith chwarae dynodedig. Fe all hyn fod yn ystod amser cinio ar faes chwarae’r ysgol, mewn canolfan arbenigol, ysbyty, canolfan awyr agored, mewn cymuned o deithwyr, ar ôl ysgol neu yn ystod amser ysgol ond y tu allan i’r gwersi. Fe all y gweithiwr chwarae sy’n ymgymryd â’r safon hon fod yn rhan o dîm aml-ddisgyblaeth, tîm chwarae, yn gweithio ar ei ben ei hun; neu  efallai yn weithiwr chwarae dim ond ar brydiau, gan wneud y swyddogaeth fel rhan o swydd ehangach. Mae’r safon ar gyfer pob sesiwn lle mai’r prif fwriad ydy rhoi cyfle i blant a phobl ifanc chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. creu mannau chwarae mewn man nad yw’n lleoliad gwaith chwarae dynodedig
  2. hwyluso chwarae mewn man nad yw’n lleoliad gwaith chwarae dynodedig

Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad gwaith chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu.   *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Creu mannau chwarae mewn man nad yw’n lleoliad gwaith chwarae dynodedig

  1. dynodi’r man chwarae a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer y sesiwn gwaith chwarae
  2. helpu plant, pobl ifanc ac eraill i ddeall lle mae modd iddyn nhw chwarae
  3. egluro i blant, pobl ifanc ac eraill y gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n ddisgwyliedig y man chwarae, a’r hyn sydd efallai’n digwydd yn y mannau materol ac emosiynol eraill yn y lleoliad gwaith chwarae dros dro
  4. eiriol dros chwarae plant a phobl ifanc
  5. helpu i warchod y man chwarae sydd wedi ei greu fel na fydd eraill yn tarfu neu yn amharu arno

Hwyluso chwarae mewn man nad yw’n lleoliad gwaith chwarae dynodedig

  1. cytuno gyda’r plant a’r bobl ifanc ynglŷn â sut i ddefnyddio’r man chwarae, yn unol ag arferion gwaith chwarae a’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan berchnogion neu brif ddefnyddwyr y safle
  2. defnyddio’r mannau, deunyddiau, adnoddau ac offer y cytunwyd arnyn nhw i roi cyfle i’r plant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud
  3. cyfathrebu gydag eraill ynglŷn â phrofiadau chwarae plant a phobl ifanc
  4. annog plant a phobl ifanc i berchnogi a bod yn gyfrifol am y man chwarae sydd wedi ei greu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Creu  mannau chwarae mewn man nad yw’n lleoliad gwaith      chwarae dynodedig

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
  2. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd chwarae mewn lleoliadau eraill
  3. y gofynion penodol, a pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad ynglŷn â chynnig cyfleoedd chwarae mewn lleoliad gwaith chwarae dros dro
  4. sut mae modd i chwarae ehangu profiadau plant a phobl ifanc
  5. sut i adnabod y gwahaniaeth rhwng gwaith chwarae a
    gweithgareddau chwarae all fod yn digwydd mewn mannau eraill
  6. ystyr eiriolaeth a sut mae gwneud hyn mewn lleoliad gwaith chwarae dros dro
  7. gwrthdaro posib rhwng y broses chwarae a chynlluniau eraill

Hyrwyddo chwarae mewn man nad yw’n lleoliad gwaith chwarae dynodedig

  1. y gwahaniaeth rhwng swyddogaeth yr oedolyn yn ymwneud â phlant a phobl ifanc fel gweithiwr chwarae o’i gymharu â mewn cyd-destun arall
  2. pwysigrwydd bod plant yn deall y gall fod gofynion gwahanol arnyn nhw, er eu bod yn defnyddio’r un lleoliad
  3. pwysigrwydd gwarchod y lle chwarae sydd wedi ei greu
  4. y ffyrdd o ddod i gytundeb gyda phlant ynglŷn â sut i ddefnyddio’r lle chwarae, yn unol â’r arferion gwaith chwarae a gofynion y perchnogion a /neu brif ddefnyddwyr y safle
  5. sut i gyfathrebu gydag eraill ynglŷn â phrofiadau chwarae plant a phobl ifanc
  6. pwysigrwydd annog plant a phobl ifanc i gymryd perchnogaeth a bod yn gyfrifol am y lle chwarae sydd wedi ei greu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Eraill
1. rhieni a / neu ofalwyr
2. staff allanol


Gwybodaeth Cwmpas

Eraill
1. rhieni a / neu ofalwyr
2. staff allanol


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Eiriolaeth
Swyddogaeth mae gweithwyr chwarae yn ymgymryd â hi i gefnogi a hyrwyddo chwarae a gwaith chwarae. Maen nhw hefyd yn gweithredu fel cynrychiolwyr, neu eiriolwyr, i siarad ar ran plant a phobl ifanc a’u hanghenion chwarae pan fo angen hynny.

Dulliau Ymyrraeth
Gwahanol ddulliau mae modd i’r gweithiwr chwarae eu defnyddio yn y lleoliad gwaith chwarae. Gall y rhain amrywio o ddim ymyrraeth o gwbl i fathau penodol o ymyrraeth, ac fe allan nhw gynnwys: aros i gael gwahoddiad i chwarae; galluogi i’r plant chwarae heb ymyrraeth; galluogi i blant a phobl ifanc archwilio’u gwerthoedd eu hunain; gadael i’r plant a’r bobl ifanc wella eu perfformiad eu hunain,  gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu ar gynnwys a diben y chwarae; gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu pam eu bod yn chwarae; gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu beth sy’n ymddygiad priodol; a dim ond trefnu pan fod ar y plant a’r bobl ifanc eisiau i chi wneud hynny

Man nad yw’n lleoliad gwaith chwarae dynodedig
Darpariaeth gwaith chwarae mewn lleoliad sydd wedi ei ddylunio ar gyfer defnydd gwahanol, er enghraifft, ystafell ddosbarth, canolfan arbenigol, ysbyty neu glwb ar ôl ysgol, lle efallai bydd gwrthdaro barn yn y digwyddiadau mae’r plant â’r bobl ifanc yn rhan ohonyn nhw, neu o ran sut mae’r lleoliad yn cael ei ddefnyddio.  

Perchnogaeth
Caiff plant a phobl ifanc eu hannog i gymryd perchnogaeth o’r man chwarae maen nhw wedi ei greu drwy gael  y rhyddid i fod, defnyddio a newid, synnwyr o reolaeth a llais.

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn faterol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW30

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

man nad yw’n lleoliad gwaith chwarae dynodedig; gwaith chwarae; chwarae