Cefnogi chwarae mewn lle hamdden neu adloniant dan do
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â gweithio mewn lle hamdden neu adloniant o dan do. Fe all y sefydliadau hyn fod o natur wahanol iawn a chynnwys lleoliadau gwaith chwarae dynodedig, canolfannau adloniant teuluol, canolfannau hamdden neu ganolfannau gweithgareddau chwarae dan do. Mae canolfannau chwarae dan do yn amrywio o ran maint a chynnwys, ond bydd pob un yn hwyluso plant a phobl ifanc i chwarae mewn sefyllfaoedd hamdden amrywiol.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- helpu gyda’r gwaith o redeg sefydliad adloniant neu hamdden dan do
- helpu gyda phartïon plant a phobl ifanc a digwyddiadau eraill mewn sefydliad adloniant neu hamdden dan do
Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad gwaith chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Helpu gyda’r gwaith o redeg sefydliad adloniant neu hamdden dan do
- cadarnhau gyda’r rheolwr beth rydych chi i fod i’w wneud a’r hyn rydych chi’n gyfrifol amdano
- dilyn rhestr wirio’r sefydliad cyn agor ar gyfer y cyhoedd
- gwneud gwiriadau iechyd, hylendid a diogelwch yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
- dilyn polisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad i gefnogi ansawdd y gofal cwsmer
- canfod beth ydy anghenion a dymuniadau’r plant a’r bobl ifanc fel y medran nhw chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud
- cwrdd ag anghenion a dymuniadau’r plant a’r bobl ifanc
- ymateb i arwyddion chwarae’r plant a’r bobl ifanc
- gwerthuso sut rydych chi wedi cwrdd ag anghenion a dymuniadau’r plant a’r bobl ifanc a rhoi adborth i’r rheolwr yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
- sicrhau eich bod yn cynnwys plant a phobl ifanc wrth greu ac addasu man chwarae
- ymdrin ag unrhyw ddamweiniau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
- hysbysu am ddamweiniau a digwyddiadau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
Helpu gyda phartïon plant a phobl ifanc a digwyddiadau eraill mewn sefydliad adloniant neu hamdden dan do
- gwneud gwaith paratoadol cyn y parti neu’r digwyddiad i gwrdd â gofynion y cwsmer a’r sefydliad
- helpu eraill i deimlo’n gartrefol yn y parti neu’r digwyddiad
- ymwneud ag eraill i geisio sicrhau fod pawb yn cael profiadau da
- cefnogi’r plant a’r bobl ifanc i chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud yn y parti neu’r digwyddiad
- dilyn polisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol o ran iechyd, hylendid a diogelwch
- cynnal amseriad y parti neu’r digwyddiad i gwrdd â gofynion y cwsmer a’r sefydliad
- rhoi adborth i’r rheolwr yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Helpu gyda’r gwaith o redeg sefydliad adloniant neu hamdden
*dan do *
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
- pam fod angen i chi gadarnhau gyda’r rheolwr bob dydd beth rydych chi i fod i’w wneud a’r hyn rydych chi’n gyfrifol amdano
3. pwysigrwydd dilyn rhestr wirio’r sefydliad cyn agor ar gyfer y cyhoedd - y polisïau a’r gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol o ran gwneud gwiriadau iechyd, hylendid a diogelwch
- sut i gyfathrebu gyda phlant a phobl ifanc mewn ffordd sy’n dangos eich bod yn eu gwerthfawrogi a’u parchu
- sut i ddarganfod beth ydy anghenion a dymuniadau’r plant a’r bobl ifanc
- sut i gwrdd ag anghenion a dymuniadau plant a phobl ifanc
- beth ydy ystyr chwarae fel mae rhywun yn dewis ac yn dymuno ei
wneud - beth ydy arwyddion chwarae
- pwysigrwydd gwerthuso sut fu i chi gwrdd ag anghenion a
dymuniadau plant a phobl ifanc - sut i gefnogi plant a phobl ifanc i greu ac addasu man chwarae
- sut i derfynu’r sesiwn chwarae yn y sefydliad hamdden neu adloniant
- y polisïau a’r gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol o ran rhoi gwybod ynglŷn ag unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau.
Helpu gyda phartïon plant a phobl ifanc a digwyddiadau eraill mewn sefydliad adloniant neu hamdden dan do
- sut i ganfod gofynion y cwsmer a’r sefydliad ar gyfer partïon a digwyddiadau
- pam ei bod hi’n bwysig helpu eraill i deimlo’n gartrefol
- ffyrdd o ymwneud ag eraill i geisio sicrhau fod pawb yn cael profiadau da
- pwysigrwydd bod plant yn chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud drwy gydol y parti neu’r digwyddiad
- pwysigrwydd amseru yn y parti neu’r digwyddiad
- sut a phryd i roi adborth i’r rheolwr ynglŷn â’r parti neu’r digwyddiad yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Eraill (o leiaf 3 allan o 4)
1. rhieni a / neu ofalwyr
2. plant a phobl ifanc
3. gweithwyr proffesiynol eraill
4. cwsmeriaid
Gwybodaeth Cwmpas
Eraill**
1. rhieni a / neu ofalwyr
2. plant a phobl ifanc
3. gweithwyr proffesiynol eraill
4. cwsmeriaid
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Arwyddion chwarae
Ystumiau’r wyneb, iaith neu iaith gorfforol sy’n mynegi awydd y plentyn neu’r person ifanc i chwarae neu i wahodd eraill i chwarae
Anghenion chwarae
Yr hyn sydd ei angen ar blant a phobl ifanc er mwyn gallu chwarae, ond na allan nhw o hyd eu cael am amrywiol resymau; er enghraifft, diffyg mynediad, oedolion gor-amddiffynol, diffyg mannau awyr agored ac ati.
Dewisiadau Chwarae
Yr hyn sy’n ennyn diddordeb plant a phobl ifanc a’r hyn maen nhw’n dewis ei chwarae; yn seiliedig ar eu profiadau chwarae blaenorol
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn faterol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.