Gwerthuso er mwyn wella’ch gwaith eich hun a gwaith eich tîm gwaith chwarae
Trosolwg
Mae’r safon hon yn adnabod yr angen i weithiwr chwarae adlewyrchu ar y ffordd maen nhw’n cefnogi plant i chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud a sut maen nhw’n ceisio gwella yn eu gwaith. Fel gweithiwr chwarae, rhaid i chi fod yn ymwybodol fod ansawdd profiadau chwarae plant a phobl ifanc yn dibynnu ar ba mor dda rydych chi’n gweithio gydag aelodau eraill eich tîm a’r cyfraniad y medrwch chi ei wneud i wella’n barhaus yr hyn mae’r tîm yn ei wneud.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- adlewyrchu ar a gwella’ch gwaith eich hun a gwaith eich tîm gwaith chwarae
Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad gwaith chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Adlewyrchu ar a gwella’ch gwaith eich hun a gwaith eich tîm gwaith chwarae
- gwerthuso ymateb plant, pobl ifanc ac eraill i sefydlu gwerth eich ymarfer gwaith chwarae
- adlewyrchu gyda’ch tîm i adnabod ffyrdd o wella gwaith chwarae eich hun a gwaith chwarae eich tîm.
- gwerthuso pob agwedd o’ch gwaith chwarae i weld pa mor werthfawr ydy o
- mynd ati i wella’ch gwaith chwarae yn unol â chanlyniadau unrhyw broses werthuso
- gwerthuso sut mae chwarae’r plant a’r bobl ifanc yn effeithio ar eich emosiynau
- datblygu’n barhaus i ddatblygu’ch gwaith chwarae yn unol â gofynion eich sefydliad
- datblygu a gweithredu ffyrdd o wella gwaith y tîm
- cefnogi’r tîm i wella gwaith chwarae yn unol ag amcanion eich sefydliad
- creu a chytuno ar gynlluniau i ddatblygu’ch gwybodaeth, dealltwriaeth a’ch medrau chi eich hun a rhai eich tîm yn unol ag amcanion eich sefydliad
- rhoi cynlluniau ar waith i wella gwaith eich hun a gwaith eich tîm.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Adlewyrchu ar a gwella’ch gwaith eich hun a gwaith eich tîm chwarae
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
- y ffyrdd y gall plant a phobl ifanc ymateb i’ch gwaith chwarae
- ffyrdd o adlewyrchu ar ymateb plant, pobl ifanc ac eraill i’ch gwaith chwarae
- pwysigrwydd dadansoddi gwaith chwarae gyda chydweithwyr
- pwysigrwydd adlewyrchu mewn gwaith chwarae
- methodoleg adlewyrchu ynglŷn â sut rydych chi’n gwneud eich gwaith, a’i bwysigrwydd
- sut mae eich gwerthoedd, agweddau a phrofiadau yn effeithio ar eich gwaith chwarae
- pwysigrwydd datblygu proffesiynol parhaus sy’n berthnasol i’ch gwaith chwarae
- sut i sicrhau fod gennych chi wybodaeth trylwyr a chyfoes ynglŷn â’r broses chwarae
- y gwahanol gyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus sydd yna
- sut i adnabod ffyrdd y gallai’r tîm wella ar ei waith a sut a phryd i wneud awgrymiadau
- pryd mae hi’n briodol i herio’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd, a sut i wneud hynny
- sut i ddod o hyd i gymorth i ymdrin â sefyllfaoedd allai eich effeithio’n emosiynol
- sut i greu cynllun i ddatblygu eich gwybodaeth, dealltwriaeth a’ch medrau eich hun a’ch tîm
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Ymatebion
1. ymateb plant a phobl ifanc
2. arwyddion chwarae
3. ymddygiad wrth chwarae
Eraill (isafswm o ddau allan o 4)
1. rhieni a / neu ofalwyr
2. cydweithwyr
3. ymwelwyr
4. gweithwyr proffesiynol eraill
Gwybodaeth Cwmpas
Ymatebion
1. ymateb plant a phobl ifanc
2. arwyddion chwarae
3. ymddygiad wrth chwarae
Eraill
1. rhieni a / neu ofalwyr
2. cydweithwyr
3. ymwelwyr
4. gweithwyr proffesiynol eraill
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ymddygiad Chwarae
Yr arwyddion a’r defodau sy’n dweud wrthym ni fod plentyn neu berson ifanc wedi ymgolli mewn chwarae
Arwyddion chwarae
Ystumiau, iaith neu iaith gorfforol sy’n cyfathrebu awydd y plentyn neu’r person ifanc i chwarae neu i wahodd eraill i chwarae
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.