Cefnogi plant a phobl ifanc pan maen nhw’n teithio y tu allan i’r lleoliad gwaith chwarae
Trosolwg
Mae’r safon hon yn amlinellu’r gefnogaeth sydd ei hangen i alluogi plant a phobl ifanc i deithio y tu allan i’r lleoliad gwaith chwarae. Mae hefyd yn ymwneud â’r materion cyffredinol y dylid eu hystyried wrth gynllunio trefniadau teithio.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- Sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cyrraedd, teithio ac yn gadael yn ddiogel
Mae gofalu am iechyd a diogelwch plant pan maen nhw’n teithio y tu allan i’r lleoliad gwaith chwarae yn ddyletswydd bwysig iawn sydd gan lawer o weithwyr chwarae. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad gwaith chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cyrraedd, teithio ac yn gadael yn ddiogel
- casglu gwybodaeth am y plant a’r bobl ifanc
- sôn wrth eraill am y trefniadau cyrraedd a gadael
- gwirio fod gennych chi ganiatâd y rhieni a bod gan y plentyn bopeth sydd ei angen ar gyfer y daith
- cyfarch a chroesawu’r plant, y bobl ifanc ac eraill
- ymateb i unrhyw faterion allai godi allai effeithio ar y teithio
- gwirio fod y ffordd y byddwch yn ei dilyn a’r ffurf o drafnidiaeth yn addas ar gyfer rhoi taith ddiogel a diddan i blant a phobl ifanc
- rhoi gwybod i blant, pobl ifanc ac eraill lle fyddwch chi’n mynd, sut fyddwch chi’n cyrraedd yno a’r math o drafnidiaeth
- cytuno gyda’r plant a’r bobl ifanc ynglŷn â sut i gadw eu hunain a’u heiddo yn ddiogel wrth deithio
- ystyried anghenion plant a phobl ifanc a chynnig help pan fo angen
- dilyn polisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol i wirio fod pob plentyn a pherson ifanc sydd i fod ar y trip yn bresennol cyn, yn ystod ac ar ôl y daith.
- rhoi amser ar gyfer ymlonyddu a gadael
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cyrraedd, teithio ac yn gadael yn ddiogel
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
- y mathau o wybodaeth sydd ei hangen ynglŷn â’r plant a’r bobl ifanc
- sut a phryd i sôn wrth eraill am y trefniadau cyrraedd a gadael, a phwysigrwydd gwneud hyn
- pam ei bod hi’n bwysig cael caniatâd rhieni
- y ffactorau sydd ynghlwm â phenderfynu beth sydd angen i’r plant ddod gyda nhw ar y daith
- ffyrdd o gyfarch a chroesawu’r plant, y bobl ifanc ac eraill
- y mathau o faterion allai godi ynghylch teithio, a sut i ymateb
- pam ei bod hi’n bwysig rhoi gwybod i’r plant, y bobl ifanc ac i eraill lle rydych chi’n mynd, sut fyddwch chi’n mynd yno a’r math o drafnidiaeth fyddwch chi’n mynd arni
- sut a pham mae angen i chi wirio fod y math o drafnidiaeth a’r ffordd yn addas ac yn ddiogel ar gyfer rhoi taith ddiogel a diddan i blant a phobl ifanc
- sut a pham bod angen cytuno ar ffyrdd gyda’r plant a’r bobl ifanc o gadw eu hunain a’u heiddo yn ddiogel wrth deithio
- y math o help sydd ei angen ar blant a phobl ifanc wrth iddyn nhw deithio
- polisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol i’w dilyn cyn, yn ystod ac ar ôl y teithio
- pwysigrwydd ymlonyddu a faint o amser a ddylid ei roi i hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth
1. personol
2. manylion cyswllt mewn argyfwng
3. meddygol
4. anghenion ychwanegol
5. caniatâd
6. cydsyniad
7. trefniadau cyrraedd a/neu gyfyngiadau casglu
Eraill
1. rhieni a / neu ofalwyr
2. staff
3. ymwelwyr eraill
Materion (o leiaf 4 allan o 9)
1. salwch
2. damweiniau
3. mecanyddol
4. plant neu bobl ifanc ar goll
5. colli eiddo
6. tywydd
7. gorfod newid y ffordd yn annisgwyl
8. ymddygiad
9. problemau cyfathrebu
Ffyrdd o deithio (PC6 & PC7)
1. cerdded
2. trafnidiaeth gyhoeddus
3. trafnidiaeth breifat
Gwybodaeth Cwmpas
Gwybodaeth
1. personol
2. manylion cyswllt mewn argyfwng
3. meddygol
4. anghenion ychwanegol
5. caniatâd
6. cydsyniad
7. trefniadau cyrraedd a/neu gyfyngiadau casglu
Eraill
1. rhieni a / neu ofalwyr
2. staff
3. ymwelwyr eraill
Materion
1. salwch
2. damweiniau
3. mecanyddol
4. plant neu bobl ifanc ar goll
5. colli eiddo
6. tywydd
7. gorfod newid y ffordd yn annisgwyl
8. ymddygiad
9. problemau cyfathrebu
Ffyrdd o deithio
1. cerdded
2. trafnidiaeth gyhoeddus
3. trafnidiaeth breifat
Help
1. emosiynol
2. corfforol
3. ymddygiad
4. meddygol
5. cyfathrebu
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn faterol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.