Darparu bwyd a diod yn y lleoliad gwaith chwarae

URN: SKAPW58
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo'r safon hon â sut mae bwyd a diod yn effeithio ar allu plant a phobl ifanc i chwarae. Mae’n rhoi sylw hefyd i’r bwydydd a’r diodydd hynny sy’n aml yn cael eu hosgoi oherwydd gofynion diet a diwylliannol penodol.  

Prif ganlyniad y safon hon ydy:

  1. cyfrannu at ddarparu bwyd a diod yn y lleoliad gwaith chwarae.

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad gwaith chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Cyfrannu at ddarparu bwyd a diod yn y lleoliad gwaith chwarae

  1. sefydlu a chofnodi anghenion diet penodol plant a phobl ifanc

  2. adnabod anghenion diwylliannol plant a phobl ifanc

  3. cyfrannu at gynnig amrywiaeth o fwydydd a diodydd iach a maethlon fel bod modd i blant a phobl ifanc ddewis beth a phryd maen nhw’n ei fwyta ac yfed, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad

  4. cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o baratoi, gweini a thacluso, os mai dyna eu dymuniad

  5. sicrhau y caiff bwyd ei storio a’i baratoi yn unol â gofynion y sefydliad a’r gyfraith

  6. helpu unrhyw blentyn neu berson ifanc allai fod angen eich cymorth gyda bwyd a diod


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Cyfrannu at ddarparu bwyd a diod yn y lleoliad gwaith chwarae

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith moesegol a phroffesiynol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion at eich gwaith chi

  2. pwysigrwydd sefydlu a chofnodi anghenion diet penodol plant a phobl ifanc.

  3. sut i adnabod anghenion diwylliannol plant a phobl ifanc

  4. bwyd a diod gaiff yn aml eu hosgoi oherwydd anghenion diwylliannol a diet penodol

5. y berthynas rhwng maeth a datblygiad plant a phobl ifanc

  1. sut mae bwyd a diod maethlon yn effeithio ar allu plant a phobl ifanc i chwarae

  2. sut a phryd i gynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o ddewis, paratoi, gweini a thacluso, a pham y gall hyn fod yn bwysig

  3. sut mae modd defnyddio bwyd fel adnodd chwarae a’r materion sy’n berthnasol i hyn

  4. polisïau’ch sefydliad o ran darparu bwyd a diod iach a maethlon

  5. gofynion cyfreithiol sylfaenol o ran storio, paratoi a gweini bwyd

11. y math o gefnogaeth y gall rhai plant a phobl ifanc fod arnyn nhw ei hangen gyda bwyd a diod


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn faterol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW25

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

bwyd a diod; iach a maethlon; plant a phobl ifanc; lleoliad gwaith chwarae