Cefnogi plant a phobl ifanc anabl yn y lleoliad gwaith chwarae
Trosolwg
Mae gan blant a phobl ifanc anabl yr hawl i chwarae mewn llefydd amrywiol sy’n cynnig risg, her, dewis a chyfeiriad personol. Mae a wnelo’r safon hon â sut y medrwch chi gyfrannu at y broses hon.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- cynllunio a pharatoi ar gyfer chwarae gyda phlant a phobl ifanc anabl
- darparu cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc anabl
Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio a pharatoi ar gyfer chwarae gyda phlant a phobl ifanc anabl
- canfod gan bobl eraill beth yw dymuniadau a gofynion chwarae plant a phobl ifanc anabl
2. herio agweddau ac ymddygiad a allai rwystro plant a phobl ifanc rhag chwarae
3. defnyddio iaith, termau ac arferion sy’n cefnogi plant a phobl ifanc anabl wrth iddyn nhw chwarae
4. bod yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau diweddaraf fydd yn datblygu’ch gwaith chwarae gyda phlant a phobl ifanc anabl
5. gweithio gyda’r holl blant a phobl ifanc yn y lleoliad gwaith chwarae i addasu’r chwarae heb gyfaddawdu ar brofiad chwarae unrhyw un
Rhoi cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc anabl
- ymyrryd i gefnogi plant a phobl ifanc i roi arwydd ynglŷn â’r
chwarae
7. adnabod, dehongli ac ymateb i’r arwyddion chwarae hyn
8. defnyddio ac addasu’r strategaethau ymyrryd sy’n berthnasol
i waith chwarae
9. dehongli’r chwarae i gefnogi’r plant i ddatblygu’r chwarae
10. cefnogi plant a phobl ifanc anabl i chwarae yn y ffyrdd hynny sy’n bosib iddyn nhw
11. annog plant a phobl ifanc anabl i archwilio a darganfod beth sydd ar gael yn y lleoliad gwaith chwarae a sut mae modd eu defnyddio
12. dewis, darparu ac addasu adnoddau chwarae i ehangu’r dewis
a’r posibiliadau ar gyfer plant a phobl ifanc anabl
13. dechrau, annog neu sbarduno chwarae i gefnogi anghenion
chwarae plant a phobl ifanc anabl
14. gwerthuso’r hyn a wnaethoch chi - yn unigol a chyda phobl
eraill
15. gweithio gyda phobl eraill i gefnogi unrhyw anghenion
personol neu breifat allai fod gan blentyn neu berson ifanc anabl fel bod modd i bawb chwarae
16. annog plant a phobl ifanc anabl i fod yn gyfrifol am reoli risg ac am eu gofal personol eu hunain, heb gyfaddawdu ar les a diogelwch personol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio a pharatoi ar gyfer chwarae gyda phlant a phobl ifanc anabl
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o’r fframwaith moesegol a phroffesiynol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion at eich gwaith chi
- gwahanol ragdybiaethau a modelau o anabledd
- pam fod y model cymdeithasol o anabledd wrth wraidd gwaith chwarae effeithiol
- ffyrdd o ganfod anghenion a dymuniadau chwarae plant a phobl ifanc anabl gan bobl eraill
- sut i herio agweddau ac ymddygiad sydd o bosib yn camwahaniaethu yn erbyn plant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd
- sut mae rhagfarn yn effeithio ar brofiad chwarae plant a phobl ifanc anabl
7. y rhwystrau sy’n atal plant a phobl ifanc anabl rhag chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud - yr iaith, y derminoleg a’r arferion sydd eu hangen er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc anabl i chwarae
- sut i addasu’r chwarae fel nad yw profiadau chwarae plant a phobl ifanc anabl yn cael eu cyfaddawdu
10. y ddeddfwriaeth a’r canllawiau o ran cynnwys plant a phobl ifanc anabl - pwysigrwydd gweithio gyda *phobl *eraill i gefnogi anghenion gofal personol neu breifat plant a phobl ifanc anabl gydag eraill, a sut mae gwneud hynny
- sut mae gweithio gyda phobl eraill i adnabod gofynion personol ac amrywiol plant a phobl ifanc anabl, a pha gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i chwarae
Darparu cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc anabl
- sut y bydd plant a phobl ifanc anabl o bosib yn gwneud
arwyddion ynglŷn â chwarae - cydrannau’r gylchred chwarae y bydd plant a phobl ifanc anabl yn eu dangos
- yr amrywiol ffyrdd o lywio’r chwarae er mwyn ymateb yn sensitif i anghenion a dymuniadau chwarae plant a phobl ifanc anabl
- yr amgylchiadau cymdeithasol ac amgylcheddol a allai achosi dychryn neu ofid emosiynol i rai plant a phobl ifanc anabl, neu wneud iddyn nhw ymddwyn mewn ffordd wahanol
- sut i ymateb i’r arwyddion mae plant a phobl ifanc anabl yn eu dangos mewn perthynas â chwarae mewn ffordd sy’n cefnogi’r chwarae ac yn ei gwneud hi’n bosib iddyn nhw gael mynediad i’r gylchred chwarae
- fyrdd o gefnogi plant a phobl ifanc anabl i archwilio a darganfod beth sydd ar gael yn y lleoliad gwaith chwarae a sut i’w defnyddio
- sut mae modd i ymyrraeth oedolyn ehangu neu lesteirio profiad chwarae plant a phobl ifanc
- pwysigrwydd rhoi digon o amser i ddeall plant a phobl ifanc anabl ac i gael eich deall ganddyn nhw
- pwysigrwydd plant a phobl ifanc anabl yn medru penderfynu’n ddeallus drostyn nhw eu hunain
- sut i ddewis, darparu ac addasu adnoddau chwarae yn ystod y cyfnod chwarae i ehangu’r dewisiadau a’r posibiliadau i blant a phobl ifanc anabl
- sut i gychwyn, addasu neu sbarduno chwarae i gefnogi anghenion chwarae plant a phobl ifanc anabl
- ffyrdd o adlewyrchu ar eich arferion yn unigol a chyda phobl eraill
- pwysigrwydd cynnal urddas a pharch plant a phobl ifanc anabl ym mhob agwedd o waith chwarae a / neu ofal personol
- pwysigrwydd annog plant a phobl ifanc anabl i fod yn gyfrifol am reoli risg ac am eu gofal personol, heb gyfaddawdu ar les a diogelwch personol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Eraill (dim llai na 4 allan o 5)
1. teuluoedd
2. gofalwyr eraill
3. staff
4. gweithwyr pontio
5. cynorthwywyr gofal personol
Gwybodaeth Cwmpas
Eraill **
1. teuluoedd
2. gofalwyr eraill
3. staff
4. gweithwyr pontio
5. cynorthwywyr gofal personol
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Anabledd
Llai o gyfleoedd, neu ddim cyfle o gwbl, i gymryd rhan mewn cymdeithas yn yr un modd â phawb arall oherwydd rhwystrau cymdeithasol ac amgylcheddol
Nam
Anaf, salwch neu gyflwr o’ch geni sy’n achosi neu’n debygol o achosi effaith hir-dymor ar edrychiad rhywun a/neu gyfyngu ar allu’r unigolyn i wneud amrywiol bethau o’i gymharu â’r hyn sy’n gyffredin.
Dulliau Ymyrraeth
Gwahanol ddulliau mae modd i’r gweithiwr chwarae eu defnyddio yn y lleoliad gwaith chwarae. Gall y rhain amrywio o ddim ymyrraeth o gwbl i fathau penodol o ymyrraeth, ac fe allan nhw gynnwys: aros i gael gwahoddiad i chwarae; galluogi i’r plant chwarae heb ymyrraeth; galluogi i blant a phobl ifanc archwilio’u gwerthoedd eu hunain; gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu ar gynnwys a diben y chwarae; gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu pam eu bod yn chwarae; gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu beth sy’n ymddygiad priodol; a dim ond trefnu pan fod ar y plant a’r bobl ifanc eisiau i chi wneud hynny
Arwyddion chwarae
Ystumiau, iaith neu iaith gorfforol sy’n mynegi awydd y plentyn neu’r person ifanc i chwarae neu i wahodd eraill i chwarae
Cylchred chwarae
Y cylchred chwarae yn ei gyfanrwydd, gan ddechrau efo’r arwydd cyntaf gan y plentyn, yr ymateb i hynny gan y byd allanol, ymateb y plentyn i hynny a datblygiad pellach y chwarae nes ei fod ar ben. Mae’r cylchred yn cynnwys y meddwl yn isymwybodol am chwarae, yr arwydd, yr ymateb, y ffrâm, ymyrraeth oedolyn, y terfynu a’r dangosiad.
Anghenion chwarae
Yr hyn sydd ei angen ar blant a phobl ifanc er mwyn gallu chwarae, ond na allan nhw o hyd eu cael am amrywiol resymau; er enghraifft, diffyg mynediad, oedolion gor-amddiffynol, diffyg mannau awyr agored ac ati.
Ymatebion chwarae
Yr ymateb gan y byd allanol – fel arfer gan blant eraill neu oedolion – i arwydd y plentyn fod arno eisiau chwarae.
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn faterol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
Mathau o chwarae
Categorïau eang sy’n disgrifio sut mae plant a phobl ifanc yn chwarae. Mae’r ymchwil diweddaraf yn awgrymu fod oddeutu pymtheg neu un ar bymtheg gwahanol fath o chwarae, ond fe all y nifer yma newid wrth i fwy o waith ymchwil gweld golau dydd. Ymysg y mathau o chwarae y cytunir arnyn nhw mae: symbolaidd, garw, cymdeithasol-dramatig, cymdeithasol, creadigol, dwfn, archwiliol, ffantasïol, dychmygol, symudol, meistroli, gwrthrych, crynhoi, a chwarae rôl.
Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.