Cyfrannu at ddatblygu a chynnal cysylltiadau a phartneriaethau yn y lleoliad gwaith chwarae

URN: SKAPW56
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â chyfrannu at hyrwyddo’ch maes gwaith a’i werth i’r gymuned. Mae’n rhoi sylw i ddatblygu a chynnal cysylltiadau a phartneriaethau cadarnhaol a allai fod o ddiddordeb i chi wrth hyrwyddo’ch lleoliad gwaith chwarae ynghyd â’ch gyrfa.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. siarad am eich gwaith gyda phobl eraill
  2. sefydlu a chynnal cysylltiadau a phartneriaethau gyda mudiadau ac eraill

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu.   *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Siarad gyda phobl eraill am eich gwaith

  1. siarad â pha bynnag un o’ch cydweithwyr sy’n gyfrifol am hyn ynglŷn â chyfleoedd i hyrwyddo’ch mudiad a’ch maes gwaith i bobl eraill
  2. cael sêl bendith a chefnogaeth eich cydweithiwr i symud ymlaen gyda’ch syniadau hyrwyddo
  3. egluro a/ neu hyrwyddo’ch sefydliad i eraill
  4. darganfod sut mae modd i eraill gefnogi’ch mudiad
  5. egluro wrth eraill sut mae gwaith eich mudiad o fudd cymunedol
  6. cael adborth gan eraill ynghylch eu barn am eich mudiad
  7. cyflwyno’r wybodaeth hon mewn ffordd sy’n cwrdd ag anghenion y bobl hynny rydych chi’n cyfathrebu gyda nhw
  8. dwyn y gwaith hyrwyddo rydych chi’n ei wneud gydag eraill i sylw eich cydweithiwr

Sefydlu a chynnal cysylltiadau a phartneriaethau gyda mudiadau a phobl eraill

  1. dysgu gyda phwy mae’ch mudiad yn gweithio
  2. cyfrannu at y trafodaethau gydag eraill
  3. trafod gydag eraill y cysylltiadau presennol ynghyd â chysylltiadau a chyfleoedd posib i gydweithio yn y dyfodol
  4. rhoi gwybod i’ch cydweithiwr am fudiadau sy’n cynnig cyfleoedd sy’n ategu rhai eich mudiad chi
  5. cyfnewid gwybodaeth fel y cytunwyd gyda’ch cydweithiwr ac eraill, yn unol â pholisïau a threfniadau’ch mudiad
  6. cynllunio amserlen waith
  7. cael sêl bendith eich cydweithiwr ar gyfer yr amserlen waith
  8. cydweithio gydag eraill yn unol â pholisïau a threfniadau’ch mudiad
  9. rhoi adroddiadau rheolaidd i’ch cydweithiwr ynglŷn â’r cynnydd o ran y cydweithio yn unol â pholisïau a threfniadau’ch mudiad
  10. monitro’r berthynas waith, gyda chymorth eich cydweithiwr

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Siarad gydag eraill am eich gwaith

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith moesegol a phroffesiynol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion at eich gwaith chi
  2. agweddau o’ch gwaith a’ch mudiad mae modd eu hyrwyddo
  3. pam fod angen i chi gael sêl bendith a chefnogaeth gan gydweithiwr cyfrifol yn eich mudiad
  4. ffyrdd o hyrwyddo gwaith eich mudiad mewn ffordd sy’n cwrdd ag anghenion pobl eraill
  5. sut mae modd i eraill gefnogi’ch mudiad.
  6. y math o wybodaeth fydd ar eich cydweithiwr ei hangen er mwyn sefydlu cytundeb yn ymwneud â chyfleoedd ategol
  7. sut mae gwaith eich mudiad o fudd cymunedol
  8. ffyrdd o gael adborth gan eraill ynghylch eu barn am eich mudiad
  9. gwahanol gyfryngau cyfathrebu a sut mae cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd sy’n cwrdd ag anghenion y bobl hynny rydych chi’n cyfathrebu gyda nhw
  10. pwysigrwydd rhoi gwybod i’ch cydweithiwr ynglŷn â’r gwaith rydych chi’n ei wneud gydag eraill

Sefydlu a chynnal cysylltiadau a phartneriaethau gyda mudiadau a phobl eraill

  1. pwy mae’ch mudiad yn gweithio gyda nhw
  2. y ffyrdd o gyfathrebu gydag eraill
  3. sut i adnabod cysylltiadau presennol a ffyrdd presennol o gydweithio, a’r posibiliadau ar gyfer y dyfodol
  4. manteision ac anfanteision cydweithio
  5. y cytundeb sydd gennych chi gydag eraill a’r drefn ynglŷn â chyfnewid gwybodaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch mudiad
  6. cynnwys amserlen cydweithio
  7. sut i gydweithio gydag eraill a chynnal y berthynas honno yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch mudiad
  8. pam fod yn rhaid i chi roi gwybod i’ch cydweithiwr cyfrifol am y cynnydd o ran y cydweithio
  9. ffyrdd o fonitro’r berthynas waith, gyda chefnogaeth eich cydweithiwr cyfrifol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Eraill (dim llai na 6 allan o 8)
1. gweithwyr proffesiynol allanol
2. staff
3. plant a phobl ifanc
4. plant a phobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau
5. rhieni neu ofalwyr
6. mudiadau
7. gweithwyr proffesiynol mewn meysydd eraill
8. unigolion yn y gymuned

Cyfathrebu
1. cyfarfodydd
2. tele-gyfathrebu
3. cyfathrebu electronig neu dros y we
4. deunydd wedi ei argraffu

Amserlenni
1. swyddogaethau a chyfrifoldebau
2. ffordd o weithio
3. prosesau
4. ethos
5. ffocws
6. nodau ac amcanion


Gwybodaeth Cwmpas

Agweddau o’ch gwaith a’ch mudiad
1. chwarae
2. gwaith chwarae
3. ethos
4. gwasanaethau
5. cyfleoedd
6. digwyddiadau
7. ymgyrchoedd
8. cysylltiadau gyda mudiadau eraill
9. cyfrifoldebau
10. llwyddiannau
11. cyd-destun

Eraill
1. gweithwyr proffesiynol allanol
2. staff
3. plant a phobl ifanc
4. plant a phobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau
5. rhieni neu ofalwyr
6. mudiadau
7. gweithwyr proffesiynol mewn meysydd eraill
8. unigolion yn y gymuned

Ffyrdd o gyfathrebu
Ffyrdd
1. rhyngbersonol
2. arddulliau unigol
3. cynhwysol
4. ffurfiol
5. anffurfiol
6. cyfarfodydd
7. digwyddiadau
Cyfrwng
1. deunydd print
2. gweledol
3. telegyfathrebu
4. cyfathrebu electronig neu dros y we

Amserlen
1. swyddogaethau a chyfrifoldebau
2. ffordd o weithio
3. prosesau
4. ethos
5. ffocws
6. nodau ac amcanion


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol gan y Grŵp Craffu. Roedd y grŵp hwn yn gweithredu fel canolwr onest oedd yn goruchwylio'r ymgynghoriadau lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn faterol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW27

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

datblygu; cynnal; cysylltiadau; cydweithio; lleoliad gwaith chwarae