Cyfrannu at ddatblygu a chynnal cysylltiadau a phartneriaethau gyda plant, pobl ifanc ac eraill yn y lleoliad gwaith chwarae

URN: SKAPW55
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â datblygu perthynas gyda plant, pobl ifanc ac eraill sy’n defnyddio’r lleoliad gwaith chwarae.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. gweithio ac ymwneud gyda phlant a phobl ifanc
  2. gweithio ac ymwneud gyda phobl eraill

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc yng nghyd-destun gwaith chwarae gyda’r prif fwriad o ddarparu cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc y medran nhw eu dewis o’u gwirfodd a’u cymhelliad eu hunain. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.

*Mae’r safon hon yn ategol i’r ddogfen Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gweithio ac ymuned gyda phlant a phobl ifanc

  1. ymateb i gwestiynau, syniadau ac argymhellion plant a phobl ifanc

  2. helpu plant a phobl ifanc i wneud dewisiadau drostyn nhw eu hunain

  3. helpu plant a phobl ifanc i sefydlu a chynnal perthynas yn y lleolid gwaith chwarae

  4. helpu pob plentyn a pherson ifanc i gyfathrebu’n effeithiol gyda’i gilydd

  5. cyfleu i blant a phobl ifanc fod pawb yn wahanol ac o bosib yn gweld pethau mewn ffordd wahanol iddyn nhw

  6. helpu plant a phobl ifanc i gytuno ynglŷn â sut maen nhw’n ymwneud â phobl eraill
  7. cefnogi plant a phobl ifanc sy’n wynebu newidiadau a sefyllfaoedd sy’n effeithio ar eu hymddygiad a’u perthynas.
  8. cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi eu heffeithio gan ymddygiad plant a phobl ifanc eraill
  9. annog a chefnogi plant â phobl ifanc i ymdrin eu hunain â gwrthdaro

Gweithio ac ymwneud ag eraill

  1. ceisio sefydlu perthynas weithio gydag erail*l*, o fewn ffiniau eich swyddogaeth
  2. cyfnewid gwybodaeth gydag eraill mewn ffyrdd sy’n cwrdd â’u hanghenion
  3. darparu gwybodaeth i bobl eraill yn unol â pholisïau a threfniadau’ch mudiad
  4. trosglwyddo gwybodaeth ynglŷn â phobl neu fudiadau eraill yn unol â pholisïau a threfniadau’ch mudiad
  5. trafod penderfyniadau a gweithgareddau gyda phobl a mudiadau eraill ac ystyried eu sylwadau
  6. adnabod ac ymateb i swyddogaethau, cyfrifoldebau, diddordebau a phryderon pobl eraill
  7. ymateb i sefyllfaoedd, anghytundeb, neu gwynion gan eraill yn unol â pholisïau a threfniadau’ch mudiad amserlen waith
  8. manteisio ar gyfleoedd i annog datblygiad gwaith chwarae er mwyn dal gafael ar weithwyr eraill
  9. hyrwyddo chwarae a gwaith chwarae i bobl eraill
  10. anrhydeddu cytundebau wedi eu gwneud ag eraill a rhoi gwybod iddyn nhw beth sy’n digwydd
  11. rhoi gwybod i eraill am unrhyw anawsterau mawr neu os bydd hi’n amhosib anrhydeddu cytundeb
  12. adnabod ac adrodd ynglŷn ag gwrthdaro buddiannau neu unrhyw anghydfod ag eraill, yn unol â pholisïau a threfniadau’ch mudiad
  13. cyfeirio eraill at wasanaethau, asiantaethau neu weithwyr proffesiynol eraill a all fod o ddiddordeb iddyn nhw, yn unol â pholisïau a threfniadau’ch mudiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gweithio ac ymwneud â phlant a phobl ifanc

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
  2. sut i wrando’n fanwl ac ymateb i gyfathrebu geiriol ac di-eiriau
  3. heriau cyfathrebu a sut i’w goresgyn
  4. y gwahanol ddulliau cyfathrebu mae modd eu defnyddio gyda phlant a phobl ifanc
  5. sut i ymateb i gwestiynau, syniadau ac awgrymiadau plant a phobl ifanc
  6. bod angen i blant a phobl ifanc benderfynu eu hunain gyda phwy maen nhw’n chwarae, a sut i hwyluso hyn
  7. fod plant a phobl ifanc yn datblygu gwytnwch drwy dderbyn ac ymdopi â’u cyfyngiadau a’u methiannau, a sut i hwyluso hyn.
  8. sut mae modd i bresenoldeb oedolion weithiau lesteirio annibyniaeth plant a phobl ifanc a sut maen nhw’n dod i benderfyniad
  9. fod pob plentyn a pherson ifanc yn wahanol
  10. fod plant a phobl ifanc yn aml yn gweld y byd mewn ffordd wahanol i oedolion
  11. pwysigrwydd peidio â rhagdybio
  12. sut i feithrin perthynas gyda phlant a phobl ifanc sy’n seiliedig ar onestrwydd, parch ac ymddiriedaeth
  13. sut i annog amrywiaeth a sicrhau fod pawb yn cael eu cynnwys
  14. sut i helpu plant a phobl ifanc i barchu teimladau a safbwyntiau pobl eraill a sut i hwyluso hyn
  15. y profiadau, y sefyllfaoedd a'r newidiadau, o fewn a’r tu allan i’r lleoliad gwaith chwarae, sy’n effeithio ar berthynas ac ymddygiad plant a phobl ifanc
  16. ffyrdd o gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi eu heffeithio gan ymddygiad pobl eraill
  17. sut i gefnogi plant i  ymdrin eu hunain â gwrthdaro, a pham bod hyn yn bwysig

Gweithio ac ymwneud â phobl eraill

  1. pam ei bod hi’n bwysig datblygu perthynas onest, agored a ffyddiog gyda phobl eraill
  2. sut i sefydlu a chynnal perthynas waith gyda phobl eraill
  3. anghenion gwahanol pobl eraill wrth gyfnewid gwybodaeth
  4. polisïau, gweithdrefnau a gofynion eich mudiad o ran cyfrinachedd a gwarchod data
  5. y mathau o wybodaeth sydd ei hangen i alluogi pobl eraill i gefnogi anghenion plant a phobl ifanc a sut i ddarparu hynny, gan gadw mewn cof lles pennaf y plentyn a / neu’r person ifanc.
  6. sut i penderfyniadau a gweithgareddau gyda phobl eraill ac ystyried eu safbwyntiau
  7. swyddogaethau, cyfrifoldebau, diddordebau a phryderon posib pobl eraill
  8. materion sy’n effeithio ar rieni a gofalwyr
  9. sut i adnabod anawsterau cyfathrebu gydag eraill a strategaethau mae modd eu defnyddio i oresgyn y rhain
  10. polisïau a gweithdrefnau eich mudiad mewn perthynas a materion, anghydfodau neu gwynion gan bobl eraill
  11. cadw staff a datblygu polisïau a gweithdrefnau
  12. sut i hyrwyddo chwarae a gwaith chwarae i bobl eraill
  13. pwysigrwydd anrhydeddu cytundebau gyda phobl eraill a thrafod gyda nhw
  14. sut a phryd i roi gwybod i bobl eraill am unrhyw anawsterau mawr neu achosion lle bydd hi’n amhosib anrhydeddu cytundebau
  15. sut a phryd i adrodd am wrthdaro buddiannau ac anghytundebau gydag eraill
  16. gwasanaethau, asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill y gllai pobl eraill eu cael yn ddefnyddiol a phryd i’w cyfeirio atyn nhw
  17. eich medrau a’ch cymwyseddau o ran gweithio gyda phlant, pobl ifanc a phobl eraill a chyfyngiadau hyn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Eraill
1. staff
2. ymwelwyr
3. rhieni a / neu ofalwyr

Gwybodaeth (dim llai na 3 allan o 5)
1. ynglŷn â chwarae a gwaith chware
2. ynglŷn â phrofiadau’r plant a’r bobl ifanc
3. ynglŷn â’r cyfleoedd sydd ar gael yn y lleoliad gwaith chwarae
4. ynglŷn â gwerthoedd a gweithdrefnau cytunedig
5. ynglŷn â ffyrdd mae modd cynnwys rhieni a gofalwyr yn y
lleoliad gwaith chwarae

Safbwyntiau (PC14)
1. blaenoriaethau
2. disgwyliadau
3. agweddau tuag at risgiau posib

Materion (dim llai na 3 allan o 4)
1. cymdeithasol
2. diwylliannol
3. addysg
4. pwysau economaidd


Gwybodaeth Cwmpas

Heriau
1. diwylliannol
2. cymdeithasol
3. corfforol
4. emosiynol
5. datblygol

Ffyrdd o gyfathrebu
1. ieithoedd confensiynol
2. ieithoedd anghonfensiynol
3. cyfathrebu di-eiriau

Materion (KU15)
1. cymdeithasol
2. diwylliannol
3. addysg
4. pwysau economaidd

Eraill
1. staff
2. ymwelwyr
3. rhieni a / neu ofalwyr

Safbwyntiau
1. blaenoriaethau
2. disgwyliadau
3. agweddau tuag at risgiau posib


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae


Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac yn hynny o beth fe ddylid eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio yr hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i waith chwarae yng ngoleuni gweithio gyda phlant a phobl ifanc.  Mae'r safonau yn seiliedig ar yr adnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio sut a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisiau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Gyda gweithwyr chwarae, y broses chwarae sy'n cael blaenoriaeth ac mae gweithwyr chwarae yn gweithredu fel eiriolwyr chwarae wrth ymwneud ag agweddau sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithiwr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac adlewyrchu ar ei brofiadau ei hun.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod eu heffaith eu hunain ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol gan y Grŵp Craffu. Roedd y grŵp hwn yn gweithredu fel canolwr onest oedd yn goruchwylio'r ymgynghoriadau lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW33

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

datblygu; cynnal a chadw; perthynas; plant a phobl ifanc; lleoliad gwaith chwarae