Adnabod pryderon diogelu mewn perthynas â phlant a phobl ifanc yn y lleoliad gwaith chwarae
Trosolwg
Mae’r safon hon yn dynodi’r gofynion sy’n berthnasol i ddiogelu ac a ddylai fod yn rhan annatod o’ch holl waith gyda phlant a phobl ifanc. Mae’r safon yn rhoi sylw i’r angen i ddeall diogelwch a’r hyn sydd angen ei wneud mewn achosion o niwed neu gam-drin posib neu wirioneddol
Mae a wnelo’r safon hefyd â’r angen i ddatblygu perthnasau sy’n hyrwyddo diogelu, hyrwyddo hawliau a chynhwysiant, gweithio mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo lles a chenogi plant a phobl ifanc i gadw eu hunain yn ddiogel.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- adnabod pryderon diogelwch
- cyfrannu at y gwaith o ddiogelu plant a phobl ifanc
- cefnogi plant a phobl ifanc i gadw eu hunain yn ddiogel
Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae gyda’r prif fwriad o ddarparu cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc y medran nhw eu dewis o’u gwirfodd a’u cymhelliad eu hunain. Argymhellir y dylai staff fod wedi derbyn lefel briodol o hyfforddiant diogelu plant a bod yn gyfarwydd gyda pholisïau a gweithdrefnau eu mudiad o ran ymdrin â sefyllfaoedd lle amheuir fod camdriniaeth yn digwydd, a sut i ddatgelu hynny.
*Mae’r safon hon yn ategol i’r ddogfen Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Adnabod pryderon diogelwch
- adnabod unrhyw arwyddion o bryderon diogelwch
- gwybod pwy ydy’r person dynodedig y buasech yn rhoi gwybod iddo am y p*ryderon diogelwch* yn unol â pholisïau a gweithdrefnau rheolaethol a rhai eich mudiad
Cyfrannu at ddiogelwch plant a phobl ifanc
- cadw golwg ar unrhyw newidiadau mawr yn iechyd emosiynol neu gorfforol, pryd a gwedd ac ymddygiad plant a phobl ifanc.
- dilyn y gweithdrefnau angenrheidiol o ran rhoi gwybod am unrhyw bryderon diogelwch ynglŷn â phlant a phobl ifanc ac unrhyw weithgarwch, ymddygiad neu sefyllfaoedd allai arwain at niwed neu gamdriniaeth
- defnyddio goruchwyliaeth a chefnogaeth i ystyried effaith niwed neu gamdriniaeth sy’n cael ei amau neu ei ddatgelu arnoch chi
Cefnogi plant a phobl ifanc i ddiogelu eu hunain
- hwyluso ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o ddiogelwch personol yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
- hwyluso ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o’r peryglon sydd ynghlwm â chyfathrebu electronig yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
- gweithio gyda phlant a phobl ifanc i’w helpu i ddeall bwlio a beth i’w wneud os mae’n digwydd, yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
- cefnogi plant a phobl ifanc i ddeall pryd mae unrhyw blentyn, person ifanc neu oedolyn yn ymddwyn yn amhriodol tuag atyn nhw, yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
- gweithio gyda plant a / neu bobl ifanc, pobl allweddol ac eraill i herio arferion allai arwain at niwed neu gamdriniaeth, yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
- gweithio gyda phlant a / neu bobl ifanc ac eraill i gwyno neu leisio pryder, yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Adnabod anghenion diogelwch
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
- arwyddion o bryder ynghylch diogelwch plant a phobl ifanc
- sut i sylwi ar gyflwr corfforol ac ymddygiad plant a phobl ifanc mewn ffordd sy’n sensitif i’r unigolyn a’r sefyllfa
- sut i wahaniaethu rhwng arwyddion uniongyrchol a welsoch drosoch chi eich hun sy’n codi pryderon ynghylch diogelwch, a gwybodaeth a barnau eraill, a pham ei bod hi’n bwysig gwneud hyn mewn unrhyw adroddiad
- sut mae pryderon ynghylch diogelwch yn effeithio ar blant a phobl ifanc
- sut i ymateb pan fod plant a phobl ifanc yn datgelu rhywbeth sy’n codi pryderon ynghylch diogelwch
- pam ei bod hi’n bwysig ei gwneud hi’n glir i blant a / neu pobl ifanc fod yn rhaid dweud wrth rhywun arall os ydyn nhw yn datgelu rhywbeth sy’n codi pryderon am ddiogelwch
- yr angen i roi sicrwydd a chefnogaeth i blant a / neu bobl ifanc a sut i wneud hyn
- pam ei bod hi’n hanfodol cyfathrebu ar gyflymder y plentyn / person ifanc, ac i beidio â rhoi pwysan arnyn nhw na’u harwain i ddatgelu mwy nag y mae arnyn nhw eisiau ei wneud.
- pam ei bod hi’n bwysig bod yn ymwybodol o bryderon ynghylch diogelwch ac i leisio unrhyw bryderon o’r fath
- yr hyn sy’n angenrheidiol o dan deddfwriaeth yn ymwneud â gwarchod plant, diogelu a dyletswydd gofal a’r prosesau adrodd perthnasol
- y polisïau a’r gweithdrefnau rheolaethol a sefydliadol wrth adrodd ynghylch pryderon diogelwch a / neu wrth ddatgelu hynny
- sut i ysgrifennu adroddiad cryno, eglur a ffeithiol sy’n nodi tystiolaeth, yn unol ag amserlen y sefydliad, a sut mae cael cefnogaeth i wneud hyn
- trefniadau cwyno a phryd mae’r rhain yn berthnasol
- hawl yr unigolyn i godi a / neu ddatgelu pryderon ynghylch diogelwch mewn ffyrdd eraill
- pwysigrwydd deall pam y gall rhai plant a phobl ifanc fod yn fwy agored i gael eu cam-drin
- swyddogaeth y person dynodedig mewn perthynas a’r gweithdrefnau adrodd a sut i gysylltu â nhw
- swyddogaeth asiantaethau yn darparu cymorth a chefnogaeth
- cyfrinachedd mewn perthynas â rhannu gwybodaeth yn electronig, yn ysgrifenedig neu ar lafar
- ffyrdd o gadw golwg ar y mathau o weithgarwch, ymddygiad a sefyllfaoedd a all arwain at niwed neu gam-drin
- y mathau o newid mawr yn ymddygiad, pryd a gwedd, a iechyd corfforol neu emosiynol plant a / neu bobl ifanc
- y trefniadau ynghylch adrodd am bryderon ynghylch diogelwch plant a / neu bobl ifanc ac unrhyw weithgarwch, ymddygiad neu sefyllfa allai arwain at niwed neu gam-drin
- os oes niwed neu gam-drin yn cael ei ddatgelu neu ei amau, yna sut all hynny effeithio arnoch chi a phobl eraill a sut i gael goruchwyliaeth a chefnogaeth
Cefnogi plant a phobl ifanc i gadw eu hunain yn ddiogel
- sut i hyrwyddo ymwybyddiaeth y plant a / neu’r bobl ifanc o ddiogelwch personol yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
- ffyrdd o hwyluso ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o’r peryglon sydd ynghlwm â chyfathrebu electronig yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
- ffyrdd o weithio gyda phlant a phobl ifanc i’w helpu i ddeall bwlio a beth i’w wneud os mae’n digwydd, yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
- sut i gefnogi plant a phobl ifanc i ddeall pryd mae unrhyw blentyn, person ifanc neu oedolyn yn ymddwyn yn amhriodol tuag atyn nhw, yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
- ffyrdd o herio arferion allai arwain at niwed neu gamdriniaeth, yn unol â dymuniadau, a anghenion a datblygiad y plentyn a / neu’r person ifanc
- sut i gefnogi plant a / neu bobl ifanc ac eraill i gwyno neu leisio pryder, yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Arwyddion
1. corfforol
2. ymddygiad
Pryderon diogelwch
1. corfforol
2. esgeulustod
3. emosiynol
4. rhywiol
5. bwlio
Cyfathrebu electronig
1. negesau
2. rhwydweithio cymdeithasol
3. gemau ar-lein
4. e-byst
5. ffonau symudol
6. y we
Gwybodaeth Cwmpas
Arwyddion
1. corfforol
2. ymddygiad
Pryderon diogelwch (KU2)
1. corfforol
2. esgeulustod
3. emosiynol
4. rhywiol
5. bwlio
Datgeliad
1. llawn
2. rhannol
Gweithdrefnau a pholisïau sefydliadol a rheolaethol
1. deddfwriaeth
2. codau ymddwyn
3. safonau
4. fframweithiau a chanllawiau yn berthnasol i’ch gwaith
Cyfathrebu electronig
1. negesau
2. rhwydweithio cymdeithasol
3. gemau ar-lein
4. e-byst
5. ffonau symudol
6. y we
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac yn hynny o beth fe ddylid eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio yr hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i waith chwarae yng ngoleuni gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae'r safonau yn seiliedig ar yr adnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio sut a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Gyda gweithwyr chwarae, y broses chwarae sy'n cael blaenoriaeth ac mae gweithwyr chwarae yn gweithredu fel eiriolwyr chwarae wrth ymwneud ag agweddau sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithiwr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac adlewyrchu ar ei brofiadau ei hun.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod eu heffaith eu hunain ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol gan y Grŵp Craffu. Roedd y grŵp hwn yn gweithredu fel canolwr onest oedd yn goruchwylio'r ymgynghoriadau lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Pobl allweddol
Fe all hyn gynnwys staff; rydych chi’n gweithio gyda nhw, yn gyfrifol amdanyn nhw, cyflogedig a / neu wirfoddol, neu fyfyrwyr a / neu weithwyr dan hyfforddiant; gweithwyr proffesiynol eraill, gweithwyr cefnogi a staff asiantaethau
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.