Cyfrannu at wneud asesiadau risg yn y lleoliad gwaith chwarae
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â chyfrannu at y broses o asesu peryglon a manteision a gwneud asesiadau risg-manteision yn y lleoliad gwaith chwarae.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
1. Cyfrannu at y broses o asesu peryglon a manteision
2. Gwneud asesiadau risg-manteision dynamic
Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad gwaith chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyfrannu at y prosesau asesu peryglon-manteision
- archwilio agweddau o’r lleoliad gwaith chwarae mewn perthynas â’r prosesau asesu peryglon-manteision
- cyfrannu at yr asesiadau risg-manteision ar y cyd ag eraill
Gwneud asesiad risg-manteision dynamig
- arsylwi plant a phobl ifanc yn chwarae
- asesu’r niwed posib
- asesu’r manteision posib
- dewis ffordd o ymyrryd fydd ddim yn tarfu ar y fframwaith chwarae
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyfrannu at y prosesau asesu risg - manteision
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
- sut i adnabod manteision
- sut i asesu peryglon
- sut a phryd i leihau’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r peryglon hyn, ar y cyd ag eraill, ond gan gadw elfen o her
Gwneud asesiadau risg-manteision dynamig
- sut i arsylwi plant a phobl ifanc yn chwarae
- dulliau ymyrryd sy’n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae
- sut i gydbwyso risg gyda’r lles a’r manteision i blant a phobl ifanc
- sut i ymyrryd i newid y sefyllfa er mwyn leihau’r risg, ond gan fod yn ymwybodol o’r effaith y gall hyn ei gael ar chwarae’r plant neu’r bobl ifanc.
- sut mae datblygiad a phrofiadau plant yn effeithio ar eu gallu i reoli risg, yn gorfforol ac yn feddyliol, drostyn nhw eu hunain.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
*Agweddau o’r lleoliad gwaith chwarae*
1. lle
2. Ymddygiad
3. Offer
4. deunyddiau
5. adnoddau
Eraill
1. rhieni a / neu ofalwyr
2. staff
3. gweithwyr proffesiynol eraill
Gwybodaeth Cwmpas
Eraill
1. rhieni a / neu ofalwyr
2. staff
3. gweithwyr proffesiynol eraill
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dulliau Ymyrraeth
Gwahanol ddulliau mae modd i’r gweithiwr chwarae eu ddefnyddio yn y lleoliad gwaith chwarae. Gall y rhain amrywio o ddim ymyrraeth o gwbl i fathau penodol o ymyrraeth, ac fe allan nhw gynnwys: aros i gael gwahoddiad i chwarae; galluogi i’r plant chwarae heb ymyrraeth; galluogi i blant a phobl ifanc archwilio’u gwerthoedd eu hunain; gadael i’r plant a’r bobl ifanc wella eu perfformiad eu hunain, gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu ar gynnwys a diben y chwarae; gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu pam eu bod yn chwarae; gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu beth sy’n ymddygiad priodol; a dim ond trefnu pan fod ar y plant a’r bobl ifanc eisiau i chi wneud hynny
Ffrâm chwarae
Ffin materol neu ffigyrol i gadw’r chwarae’n gyfan
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.