Paratoi a hwyluso cyfleoedd chwarae penodol
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â pharatoi a hwyluso cyfleoedd chwarae penodol mewn lleoliad gwaith chwarae. Fe all y cyfleoedd chwarae penodol hyn fod wedi neu heb fod wedi eu cynllunio gyda phlant a phobl ifanc, ond bydd gan y plant a’r bobl ifanc bob tro y dewis pa un ai i gymryd rhan ynddynt ai peidio. Fe ddylai’r cyfleoedd hyn fod yn rhan o weithgareddau ehangach y lleoliad gwaith chwarae, lle mae cyfleoedd a phosibiliadau i blant a phobl ifanc wneud pethau heb ymyrraeth oedolion. Mae’n bosib y byddai’r safon hon yn amhriodol ar gyfer rhai lleoliadau gwaith chwarae lle nad yw oedolion yn dylunio a darparu cyfleoedd chwarae priodol.
Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad gwaith chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- paratoi cyfleoedd chwarae penodol
- hwyluso cyfleoedd chwarae penodol
*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi cyfleoedd chwarae penodol
- sôn wrth eraill am syniadau ynglŷn â chyfleoedd chwarae
- cyfiawnhau wrth eraill fod hyn yn unol ag anghenion a dymuniadau chwarae’r plant a’r bobl ifanc
- cynllunio cyfleodd chwarae gyda’r plant a’r bobl ifanc, os ydyn nhw’n dewis cymryd rhan
- datblygu cynllun o’r hyn sydd angen ei gwblhau ar gyfer pob cyfle chwarae
- trafod y cynllun gyda chydweithiwr cyfrifol i gael cadarnhad
- dewis a chael offer ar gyfer pob cyfle chwarae
Hwyluso cyfleoedd chwarae penodol
- gwirio bod y plant a'r bobl ifanc yn dal i ddymuno cymryd y cyfle i chwarae cyn bwrw â’r gweithgaredd hwnnw
- hwyluso pob cyfle chwarae gan ddilyn dulliau ymyrryd cydnabyddedig y maes gwaith chwarae
- terfynu pob cyfle chwarae
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi cyfleoedd chwarae penodol
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
- y rhesymau pam fod rhai cyfleoedd chwarae penodol yn cael eu paratoi a phryd mae hi’n briodol gwneud hyn
- ble i ymchwilio a chael ysbrydoliaeth a syniadau ar gyfer gwahanol gyfleodd chwarae penodol
- pwysigrwydd sicrhau fod pob gweithgaredd chwarae rydych chi’n ei ddewis yn addas ar gyfer anghenion a dymuniadau chwarae plant a phobl ifanc
- sut i gynnwys plant a phobl ifanc yn y gwaith o gynllunio’r gweithgaredd
- yr hyn i’w ystyried wrth wneud cynllun
- gyda phwy mae angen i chi drafod y cynllun a pham ei bod hi’n bwysig rhannu’r cynllun
- sut i ddewis adnoddau ar gyfer cyfleodd chwarae a lle mae dod o hyd iddyn nhw
Hwyluso cyfleoedd chwarae penodol
- pam y dylech chi wirio a ydy'r plant a’r bobl ifanc yn dal i fod eisiau chwarae cyn bwrw ymlaen gyda’r gweithgaredd.
- pwysigrwydd cynnwys dim ond y rheini sydd eisiau cymryd rhan, a dim ond am gyhyd ag y maen nhw’n dymuno hynny
- dulliau ymyrryd gwaith chwarae
- ffyrdd o fod yn hyblyg a chaniatáu i addasu’r gweithgaredd ym
mhob rhan o’r chwarae fel bod modd ymateb i anghenion a
dymuniadau’r plant a’r bobl ifanc ar y pryd - ffyrdd o derfynu pob gweithgaredd yn effeithiol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Eraill
1. staff
2. plant a phobl ifanc
3. pobl allanol
Cynllun
1. ystyriaethau iechyd a diogelwch
2. cynnwys pawb a gweithio mewn ffordd ddiragfarn
3. ffyrdd o fynd ati a chynnwys y cynllun
4. pethau allai godi
5. monitro a gwerthuso
6. polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth Cwmpas
Cynllun
1. ystyriaethau iechyd a diogelwch
2. cynnwys pawb a gweithio mewn ffordd ddiragfarn
3. ffyrdd o fynd ati a chynnwys y cynllun
4. pethau allai godi
5. monitro a gwerthuso
6. polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr diduedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dulliau Ymyrraeth
Gwahanol ddulliau mae modd i’r gweithiwr chwarae eu defnyddio yn y lleoliad gwaith chwarae. Gall y rhain amrywio o ddim ymyrraeth o gwbl i fathau penodol o ymyrraeth, ac fe allan nhw gynnwys: aros i gael gwahoddiad i chwarae; galluogi i’r plant chwarae heb ymyrraeth; galluogi i blant a phobl ifanc archwilio’u gwerthoedd eu hunain; gadael i’r plant a’r bobl ifanc wella eu perfformiad eu hunain, gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu ar gynnwys a diben y chwarae; gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu pam eu bod yn chwarae; gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu beth sy’n ymddygiad priodol; a dim ond trefnu pan fod ar y plant a’r bobl ifanc eisiau i chi wneud hynny
Anghenion chwarae
Yr hyn sydd ei angen ar blant a phobl ifanc i allu chwarae, ond na allan nhw o hyd eu cael am amryw o resymau; er enghraifft, diffyg mynediad, oedolion gor-amddiffynnol, diffyg mannau awyr agored ac ati.
Dymuniadau chwarae
Yr hyn mae gan blant a phobl ifanc ddiddordeb ynddo a’r hyn maen nhw’n dewis ei chwarae; yn seiliedig ar eu profiadau blaenorol
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.