Gwneud penderfyniadau yn y lleoliad gwaith chwarae
Trosolwg
Mae a wnelo’r safon hon â chasglu a dadansoddi gwybodaeth, ac yna ei ddefnyddio fel sail i benderfyniadau pwysig. Fe allai’r safon hon gwmpasu ystod eang iawn o weithgareddau fel cynnal arolygon cwsmer i benderfynu pa un ai i addasu gwasanaethau penodol, dadansoddi sut y caiff cyfleusterau eu defnyddio i weld a oes modd eu defnyddio’n fwy effeithiol, dadansoddi swyddi i benderfynu pa fath o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ddylai eich staff feddu arnyn nhw, edrych ar ddyddlyfrau ac ymchwilio’r farchnad leol i benderfynu a ddylid cyflwyno gwasanaeth newydd, neu gasglu a dadansoddi gwybodaeth ariannol i ddatblygu cynllun busnes.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
- cael gwybodaeth i wneud penderfyniadau
- dadansoddi gwybodaeth i gefnogi penderfyniadau
- cynghori a hysbysu eraill ynghylch penderfyniadau
Mae’r safon hon ar gyfer rhywun sy’n gweithio yn y maes gwaith chwarae, sy’n gweithio ar lefel reolaethol mewn amryw o swyddi traws-sector; sydd mewn swydd lle mae angen rheoli nifer o leoliadau gwaith chwarae sydd a’r prif ddiben o roi cyfle i blant a phobl ifanc chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Byddant yn gyfrifol am redeg y lleoliadau gwaith chwarae hyn, am nifer o staff ac am eu lles.
Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cael gwybodaeth er mwyn gwneud penderfyniadau
- casglu gwybodaeth i gefnogi’ch dewis ynghylch y systemau a’r gweithdrefnau mae angen penderfyniad yn eu cylch
- gwneud gwaith ymchwil i gael yr wybodaeth fydd yn gymorth i chi wneud penderfyniadau ac sy’n cwrdd â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
- trefnu, cofnodi a chadw’r wybodaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
Dadansoddi gwybodaeth i gefnogi penderfyniadau
- dadansoddi gwybodaeth fel bod modd gwneud penderfyniadau dibynadwy
- cadw cofnodion o’r dadansoddiad sy’n ddigonol i allu dangos y rhagdybiaethau a’r penderfyniadau y daethpwyd iddyn nhw ym mhob cam
- gwahaniaethu rhwng barn a ffaith wrth ddod i gasgliad ynglŷn â chanlyniad y dadansoddiad.
- dod i gasgliad yn seiliedig ar y dadansoddiad gyda dadl resymegol a thystiolaeth briodol.
Cynghori a hysbysu eraill
- cyfleu eich penderfyniad i eraill yn unol â gweithdrefnau a pholisïau eich sefydliad
- darparu gwybodaeth o’ch canfyddiadau i ddangos sut ddaethoch chi i’ch penderfyniad
- cadarnhau fod eraill yn ymwybodol o’r farn y daethoch chi iddi o ran y systemau a’r gweithdrefnau oedd angen penderfyniadau yn eu cylch
- gwneud argymhellion ynglŷn â gwella systemau a phrosesau sydd angen penderfyniadau i’r bobl berthnasol
- sicrhau fod pobl eraill yn dilyn eich systemau a’ch gweithdrefnau
- defnyddio adborth gan eraill i wella darpariaeth systemau a phrosesau sydd angen penderfyniadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cael gwybodaeth er mwyn gwneud penderfyniadau
- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith
proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi - sut i farnu ansawdd yr wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi penderfyniadau mewn cyd-destunau gwahanol
- ffynonellau ymchwil sy’n gallu llywio’ch penderfyniad o ran systemau a gweithdrefnau sydd angen penderfyniad
- dulliau ymchwilio a’u manteision a’u hanfanteision
- sut i adnabod canfyddiadau anghyson, amwys neu annigonol a sut i ymdrin â’r problemau hyn
- dulliau gwahanol o gofnodi a chadw eich canfyddiadau a’u manteision a’u hanfanteision, yn unol â pholisïau eich sefydliad a gofynion cyfreithiol
Dadansoddi gwybodaeth i gefnogi penderfyniadau
- pwysigrwydd gwaith ymchwil effeithiol a rheolaeth effeithiol o’ch canfyddiadau
- y gwahaniaeth rhwng ffaith a barn a sut i adnabod y rhain wrth ddod i gasgliad a phenderfynu ar rywbeth
- pwysigrwydd cefnogi’ch casgliadau a’ch penderfyniadau gyda dadl resymegol a thystiolaeth briodol
Cynghori a hysbysu eraill am y penderfyniadau
- y gwahanol ffyrdd o gyflwyno gwybodaeth feintiol ac ansoddol
- sut i gyfleu eich penderfyniad i eraill mewn ffordd addas
- ffyrdd o fonitro ac annog eraill a’u galluogi i ddilyn eich penderfyniadau
- pam ei bod hi’n bwysig cael adborth gan eraill
- pam ei bod hi’n bwysig rhoi cyfleoedd i aelodau’r tîm wneud argymhellion ar welliannau i systemau a gweithdrefnau sydd angen penderfyniad yn eu cylch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth
1. manwl
2. cyfoes
3. perthnasol
4. digonol
5. cyson
6. eglur
Systemau a gweithdrefnau sydd angen penderfyniad (o leiaf 3 allan o 4)
1. yn ymwneud â’r sefydliad i gyd
2. yn benodol i chi a’ch tîm
3. mewn ymateb i gais
4. o’ch pen a’ch pastwn eich hun
Ymchwil
1. ansoddol
2. meintiol
3. dibynadwy
4. effeithiol
5. eang
6. defnydd effeithiol o adnoddau
7. cyfoes
Dadansoddi
1. ffurfiol ac wedi ei gynllunio
2. anffurfiol ac fel bo angen
Cyfathrebu
1. ar lafar
2. yn ysgrifenedig
Eraill (o leiaf 2 allan o 3)
1. cydweithwyr yn gweithio ar yr un lefel
2. uwch-reolwyr a noddwyr
3. pobl allanol
Gwybodaeth Cwmpas
Gwybodaeth
1. manwl
2. cyfoes a dealltwriaeth
- perthnasol
- digonol
cyson
eglur
Ymchwil
1. ansoddol
2. meintiol
3. dibynadwy
4. effeithiol
5. eang
6. defnydd effeithiol o adnoddau
7. cyfoes
Systemau a gweithdrefnau sydd angen penderfyniad
1. yn ymwneud â’r sefydliad i gyd
2. yn benodol i chi a’ch tîm
3. mewn ymateb i gais
4. o’ch pen a’ch pastwn eich hun
Dadansoddi
1. ffurfiol ac wedi ei gynllunio
2. anffurfiol ac fel bo angen
Cyfathrebu
1. ar lafar
2. yn ysgrifenedig
Eraill
1. cydweithwyr yn gweithio ar yr un lefel
2. uwch-reolwyr a noddwyr
3. pobl allanol
Gwerthoedd
Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.
Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.
Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.
Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.