Sicrhau y caiff gofynion iechyd a diogelwch eu bodloni yn ardal weithredol y peirianwaith pwll
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau y bydd y safonau iechyd a diogelwch ar gyfer cyfleusterau'r pwll, ystafelloedd peirianwaith, a storfeydd yn cael eu bodloni yn eu crynswth. Ei bwriad ydy sicrhau bod iechyd a diogelwch yn rhan gadarn o'r prosesau cynllunio a phenderfynu a 'diwylliant' yr hyn rydych chi'n gyfrifol amdano.
Mae'r safon hon wedi'i hargymell ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol am ardaloedd gweithredol y peirianwaith pwll.
Deilliant y safon ydy:
- sicrhau y caiff gofynion iechyd a diogelwch eu bodloni yn ardal weithredol y peirianwaith pwll
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
*Sicrhau y caiff gofynion iechyd a diogelwch eu bodloni yn ardal weithredol y peirianwaith pwll
*
*
*
trosglwyddo polisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig y sefydliad i bawb sy'n gweithio yn y maes rydych chi'n gyfrifol amdano
adnabod anghenion hyfforddi iechyd a diogelwch i chi eich hun ac i bobl eraill
*ymgynghori gyda phobl, neu eu cynrychiolwyr, sy'n gweithio yn y maes *rydych chi*'*n gyfrifol amdano ar faterion iechyd a diogelwch
canfod a defnyddio gwybodaeth arbenigol gan arbenigwyr sy'n gysylltiedig â materion iechyd a diogelwch
**dilyn camau i leihau peryglon a risgiau
*monitro, mesur ac adrodd ar berfformiadau iechyd a diogelwch yn y maes *rydych chi*'*n gyfrifol amdano
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
*Sicrhau y caiff gofynion iechyd a diogelwch eu bodloni yn ardal weithredol y peirianwaith pwll
*
**
pam fod iechyd a diogelwch yn y gweithle yn bwysig
eich cyfrifoldebau a'ch rhwymedigaethau personol o dan y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch bresennol
y rhesymau dros adnabod anghenion hyfforddi iechyd a diogelwch angenrheidiol i'r holl staff
sut i barhau gyda deddfwriaeth a datblygiadau eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch
y gofyn i fudiadau fod â pholisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig
pryd i drosglwyddo'r polisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig i'r rhai sy'n gweithio yn y maes rydych chi'n gyfrifol amdano ac i bobl berthnasol eraill a ffyrdd o wneud hyn
sut a phryd i adolygu'r polisi iechyd a diogelwch sy'n ymwneud a'r hyn rydych chi'n gyfrifol amdano
pa wybodaeth arbenigol gan arbenigwyr sy'n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch, a phryd ac o le mae ei chael
proses rheoli risg o fewn eich sefydliadau
sut i ddatblygu diwylliant iechyd a diogelwch yn y maes rydych chi'n gyfrifol amdano
dulliau gaiff eu defnyddio i rannu adnoddau ymysg yr hyn rydych chi'n gyfrifol amdano er mwyn rheoli materion iechyd a diogelwch
sut i ddefnyddio a chynnal a chadw cyfarpar argyfwng yr ystafell beirianwaith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Cyfrifoldebau
cyfleusterau pwll
pwll nofio
ystafell beirianwaith
storfeydd
ardaloedd danfon
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol yn sail i sut gaiff gwasanaethau eu darparu yn y sector chwaraeon a hamdden
parodrwydd i ddysgu
parodrwydd i gymryd cyfrifoldeb
agwedd hyblyg at waith
gweithiwr tîm
agwedd gadarnhaol
gwerthoedd moesegol personol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad canlynol yn sail i sut gaiff gwasanaethau eu darparu yn y sector chwaraeon a hamdden:
bodloni safonau ymddygiad ac ymddangosiad y sefydliad
cynnal dulliau gweithio effeithiol, glân a diogel
glynu wrth gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ynglŷn â defnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol canlynol yn sail i sut gaiff gwasanaethau eu darparu yn y sector chwaraeon a hamdden
y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau a hunan-reoli
y gallu i gyfathrebu ar lafar a chyfathrebu'n ddieiriau
y gallu i ddarllen a deall cyfarwyddiadau ysgrifenedig