Cydlynu a goruchwylio gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio peirianwaith pwll

URN: SKAPP03
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianwaith Pwll
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Ion 2016

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau fod cyfleusterau a chyfarpar y pwll, peirianwaith pwll ac ardaloedd atodol yn cael eu monitro a'u cynnal. Mae hefyd yn ymwneud â goruchwylio prif atgyweiriadau, mân atgyweiriadau a gwelliannau i'r cyfleusterau a'r cyfarpar.

Mae'r safon hon wedi'i bwriadu ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio ar y lefel hon.

Prif ddeilliant y safon hon ydy:

  1. cydlynu a goruchwylio rhaglen cynnal a chadw ac atgyweirio cyfleusterau ac offer peirianwaith pwll

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cydlynu a goruchwylio rhaglen cynnal a chadw ac atgyweirio cyfleusterau ac offer peirianwaith pwll

* *

  1. cydlynu a goruchwylio gwaith cynnal a chadw cyfleusterau ac offer peirianwaith pwll trwy ddilyn canllawiau'r gwneuthurwyr, rhaglen cynnal a chadw gyfundrefnol a gofynion iechyd a diogelwch

  2. trosglwyddo'r safonau ynglŷn â chyflwr y cyfleusterau a'r cyfarpar i'r staff sy'n gweithio yn y maes rydych chi'n gyfrifol amdano

  3. rhoi adnoddau i'r staff fonitro a chynnal cyflwr y cyfleusterau a'r offer peirianwaith pwll 

  4. cynnal archwiliadau rheolaidd i sicrhau fod y cyfleusterau a'r offer peirianwaith pwll yn bodloni'r *safonau *cytunedig

  5. gwirio bod gwybodaeth am unrhyw broblemau gyda'r cyfleusterau a'r offer peirianwaith pwll sydd wedi'u nodi yn ystod y gwaith cynnal a chadw wedi'i trosglwyddo i'r person perthnasol

  6. cydlynu atgyweiriadau trwy ddilyn dulliau gweithredol

  7. cael gwared ar gyfarpar a neu gyfleusterau pan gaiff problem ei nodi a chadw'r ardal a neu'r cyfarpar ar wahân

  8. monitro'r gwaith a rhoi cefnogaeth er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni'r rhaglen gytunedig

  9. rhoi gwybodaeth i staff perthnasol a phobl eraill ynglŷn â'r gwaith sy'n digwydd ac unrhyw drefniadau sy'n cael effaith arnyn nhw

  10. rhoi dulliau gweithredu yn eu lle er mwyn cynnal iechyd a diogelwch y staff a phobl eraill pan fydd y gwaith yn digwydd

  11. gwirio bod gwaith, pan fydd wedi'i gwblhau, yn bodloni'r rhaglen gytunedig

  12. cwblhau a storio cofnodion cynnal a chadw


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cydlynu a goruchwylio rhaglen cynnal a chadw ac atgyweirio cyfleusterau ac offer peirianwaith pwll

* *

  1. eich cyfrifoldebau a'ch rhwymedigaethau personol o dan y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch bresennol

  2. egwyddorion y ddyletswydd gofal a gofynion cyfreithiol ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio cyfleusterau a chyfarpar

  3. y rhesymau dros drosglwyddo'r safonau ynglŷn â chyflwr y cyfleusterau a'r cyfarpar i'r staff

  4. y rhesymau dros ddilyn canllawiau cynnal a chadw ac atgyweirio y gwneuthurwyr, y cyflenwyr a'r gosodwyr

  5. yr adnoddau sydd eu hangen ar y staff er mwyn cynnal a chadw'r cyfarpar a'r cyfleusterau i'r safon gytunedig

  6. y rhaglen cynnal a chadw gytunedig ar gyfer cyfarpar a chyfleusterau a pham ei bod hi'n bwysig ei dilyn

  7. yr archwiliadau cynnal a chadw rheolaidd sydd eu hangen a sut a phryd dylai'r rhain gael eu cynnal

  8. y dulliau gweithredu cyfundrefnol ar gyfer caniatáu atgyweiriadau

  9. y dulliau gweithredu i'w dilyn wrth ymdrin â chontractwyr allanol

  10. y math o broblemau all godi gyda chyfleusterau, cyfarpar, gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio a sut i reoli hyn o fewn a thu allan i'ch cyfrifoldebau

  11. y rhaglen waith sydd ar fynd a pham ei bod hi'n bwysig lleihau unrhyw amhariad ar weithredoedd arferol

  12. y math o amhariadau all godi a sut i reoli hyn

  13. y goblygiadau iechyd a diogelwch sydd angen eu hystyried yn ystod gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio a sut i leihau'r risg i staff a phobl eraill

  14. y mathau o gefnogaeth ac adnoddau efallai y bydd eu hangen er mwyn bodloni'r rhaglen

  15. yr anghenraid i gyfathrebu'n rheolaidd gyda staff a phobl eraill yn ystod gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio

  16. cofnodion gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio y mae'n rhaid eu cwblhau a pham eu bod yn bwysig


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cyfleusterau

  1. y pwll ac ardaloedd atodol

  2. ystafelloedd peirianwaith

  3. storfa gemegau

  4. ardaloedd danfon

* *

Staff

  1. mewnol

  2. allanol

* *

Safonau

  1. cyflogwr

  2. gwneuthurwr

  3. cyflenwr

  4. gosodwr

  5. deddfwriaeth/rheoliadau

  6. canllawiau diwydiant

Gwaith

  1. gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio cyfarpar

  2. gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio cyfleusterau

Eraill

  1. contractwyr allanol

  2. ymwelwyr cyfreithlon ac anghyfreithlon


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd

​Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol yn sail i sut gaiff gwasanaethau eu darparu yn y sector chwaraeon a hamdden

  1. parodrwydd i ddysgu

  2. parodrwydd i gymryd cyfrifoldeb

  3. agwedd hyblyg at waith

  4. gweithiwr tîm

  5. agwedd gadarnhaol

  6. gwerthoedd moesegol personol a phroffesiynol


Ymddygiadau

Mae’r ymddygiad canlynol yn sail i sut gaiff gwasanaethau eu darparu yn y sector chwaraeon a hamdden:

1. bodloni safonau ymddygiad ac ymddangosiad y sefydliad

2. cynnal dulliau gweithio effeithiol, glân a diogel

3. glynu wrth gyfarwyddiadau’r gweithle, y cyflenwyr a’r gwneuthurwyr ynglŷn â defnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel


Sgiliau

Mae’r sgiliau allweddol canlynol yn sail i sut gaiff gwasanaethau eu darparu yn y sector chwaraeon a hamdden

1. y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau a hunan-reoli

2. y gallu i gyfathrebu ar lafar a chyfathrebu’n ddieiriau

3. y gallu i ddarllen a deall cyfarwyddiadau ysgrifenedig


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAC19

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Proffesiynol a Thechnegol Cyswllt, Gweithredwr Peirianwaith Pwll, Rheolwr Peirianwaith Pwll, Gweithredwr Sba

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Goruchwylio; cynnal a chadw; cyfarpar; cyfleusterau; peirianwaith pwll;