Ymdrin â sylweddau sy’n beryglus i iechyd mewn pyllau nofio
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymdrin â sylweddau a all fod yn beryglus fel cemegau pwll a chyfryngau glanhau gaiff eu defnyddio mewn gweithrediadau peirianwaith pwll. Mae’n cynnwys cludo, trin, defnyddio, storio a chael gwared ar sylweddau sy’n beryglus i iechyd.
Mae’r safon hon wedi’i bwriadu ar gyfer unrhyw un sydd, fel rhan o’u gwaith o ddydd i ddydd, yn defnyddio, storio ac yn symud sylwedd sydd wedi’i ystyried yn sylwedd sy’n beryglus i iechyd.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
1. cludo a thrin sylweddau sy’n beryglus i iechyd
2. defnydd diogel o sylweddau sy’n beryglus i iechyd
3. storio a chael gwared ar sylweddau sy’n beryglus i iechyd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cludo a thrin sylweddau sy'n beryglus i iechyd
adnabod sylweddau peryglus ac asesu'r risg sydd ynghlwm wrth eu cludo a'u trin
defnyddio cyfarpar diogelu personol sy'n addas i'r sylwedd rydych chi'n ei gludo, ei drin a'i ddefnyddio
defnyddio cyfarpar cludo a thrin sy'n ddiogel ac yn sicr
ymdrin ag unrhyw orlifoedd a halogiad i'ch hun neu i bobl eraill trwy ddilyn dulliau gweithredu mewn argyfwng cyfundrefnol, cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a gofynion cyfreithiol
rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau neu broblemau trwy ddilyn dulliau gweithredu cyfundrefnol
Defnydd diogel o sylweddau sy'n beryglus i iechyd
* *
osgoi cyffwrdd â sylweddau yn uniongyrchol trwy ddefnyddio cymhorthion, offer a chyfarpar mecanyddol
defnyddio sylweddau neu gemegau anghydnaws mewn modd sy'n sicrhau nad ydyn nhw'n cyffwrdd â'i gilydd
ychwanegu cemegau at ddŵr wrth wanhau
gwirio bod arwyddion, labeli a rhybuddion sy'n gysylltiedig ag ardal y peirianwaith pwll yn cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol
* *
Storio a chael gwared ar sylweddau sy'n beryglus i iechyd
* *
storio cemegau hylifol mewn ardal fwnd ar wahân (bunding area)
defnyddio storfeydd ar wahân gyda labeli ar gyfer cemegau a sylweddau
dychwelyd cemegau pur (uncontaminated) i'r storfa gywir yn syth ar ôl eu defnyddio
storio cemegau yn eu blychau penodol a storio sylweddau anghydnaws ar wahân
cael gwared ar flychau gwag neu dreuliedig gan ddilyn dulliau gweithredu cyfundrefnol
adnabod unrhyw wastraff a sylweddau sy'n hŷn na'u dyddiad terfyn a dilyn gofynion cyfreithiol ar sut i gael gwared â nhw
adnabod a rhoi gwybod am unrhyw broblemau yn y storfa
ymdrin ag unrhyw broblemau sy'n dod o dan eich cyfrifoldebau chi trwy ddilyn dulliau gweithredu mewn argyfwng cyfundrefnol a gofynion cyfreithiol
dilyn dulliau gweithredu er mwyn cael gwared ar flychau gweigion
diweddaru'r cofnodion storio gan ddilyn gofynion cyfundrefnol
diogelu a chau'r storfa yn dynn pan na fydd unrhyw un yno
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cludo a thrin sylweddau sy'n beryglus i iechyd
1.eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch a Rheoli Sylwedd sy'n Beryglus i Iechyd fel sydd wedi'i ddiffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch swydd
sut i adnabod gwahanol fathau o sylweddau peryglus
y cytundebau ysgrifenedig a chyfreithiol sydd gan eich sefydliad gyda chyflenwyr ar gyfer dosbarthu llwythi a chyfrifoldebau'r naill a'r llall gan gynnwys gyda mynediad a dadlwytho
y peryglon neilltuol sy'n gysylltiedig â chludo a thrin sylweddau peryglus
y math o ddillad amddiffynnol a chyfarpar diogelu eraill sydd eu hangen er mwyn ymdrin â gwahanol sylweddau peryglus
sut i ymdrin â gorlifoedd a halogiad sylweddau peryglus
pa fath o broblemau y mae angen rhoi gwybod amdanyn nhw i berson cyfrifol
sut i gwblhau adroddiad digwyddiadau
* *
Defnydd diogel o sylweddau sy'n beryglus i iechyd
* *
y cymhorthion, offer a chyfarpar mecanyddol gaiff eu defnyddio i osgoi cyffwrdd ag unrhyw sylweddau peryglus yn uniongyrchol
beth ydy'r canlyniad o sylweddau a chemegau anghydnaws yn cyffwrdd â'i gilydd a'r camau angenrheidiol er mwyn atal hyn
sut i ddiogelu sylweddau peryglus wrth eu defnyddio
rheswm pam gaiff cemegau eu hychwanegu at ddŵr wrth wanhau
y prif ofynion wrth ddosio cemegau
yr arwyddion sydd eu hangen er mwyn defnyddio sylweddau peryglus yn ardal y peirianwaith pwll
Storio a chael gwared ar sylweddau sy'n beryglus i iechyd
gofynion storio hylif a chemegau sych ar wahân
pam ei bod hi'n bwysig storio sylweddau peryglus yn syth ar ôl eu defnyddio
y storfeydd a*'*r amodau storio cywir sy'n angenrheidiol ar gyfer sylweddau peryglus
gofynion storio cywir ar gyfer cemegau sych
sut i adnabod a storio cemegau peryglus
20.pam na ddylai blychau gweigion gael eu defnyddio i unrhyw ddiben arall a pham fod angen cael gwared arnyn nhw yn unol â dulliau gweithredu cyfundrefnol
pam fod angen adnabod sylweddau sy'n hŷn na'u dyddiad terfyn a'r dulliau angenrheidiol i gael gwared arnyn nhw
problemau yn y storfa a sut i ymdrin â nhw'n effeithiol
beth all ddigwydd os nad ydy problemau yn y storfa yn cael eu datrys yn syth
storio a chadw cofnodion sy'n angenrheidiol ar gyfer sylweddau peryglus
rhesymau dros ddiogelu a chau storfeydd yn dynn pan na fydd unrhyw un yno
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Dillad amddiffynnol a chyfarpar diogelu arall
gorchuddwisg
offer diogelu llygaid
offer diogelu dwylo
esgidiau
offer anadlu
* *
Ardal y peirianwaith pwll
storfeydd
y pwll
ystafell beirianwaith
ardaloedd cael gwared ar bethau
ardaloedd danfon
* *
Problemau
blychau diffygiol
storfeydd diffygiol
arferion gweithio peryglus
camgymeriadau dyn
gorlifoedd cemegol
Gwybodaeth Cwmpas
Peryglon
nwyon gwenwynig
tanau
ffrwydradau
mewnanadliad
amlyncu
Dillad amddiffynnol a chyfarpar diogelu
gorchuddwisg
offer diogelu llygaid
offer diogelu dwylo
esgidiau
offer amddiffyn clustiau
offer anadlu
cyflenwr dŵr croyw
offer golchi llygaid
Storfeydd ac amodau storio
lleoliad
risg tân
gorlifoedd
awyru
tymheredd
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol yn sail i sut gaiff gwasanaethau eu darparu yn y sector chwaraeon a hamdden
parodrwydd i ddysgu
parodrwydd i gymryd cyfrifoldeb
agwedd hyblyg at waith
gweithiwr tîm
agwedd gadarnhaol
gwerthoedd moesegol personol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae’r ymddygiad canlynol yn sail i sut gaiff gwasanaethau eu darparu yn y sector chwaraeon a hamdden:
1. bodloni safonau ymddygiad ac ymddangosiad y sefydliad
2. cynnal dulliau gweithio effeithiol, glân a diogel
3. glynu wrth gyfarwyddiadau’r gweithle, y cyflenwyr a’r gwneuthurwyr ynglŷn â defnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
Sgiliau
Mae’r sgiliau allweddol canlynol yn sail i sut gaiff gwasanaethau eu darparu yn y sector chwaraeon a hamdden
1. y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau a hunan-reoli
2. y gallu i gyfathrebu ar lafar a chyfathrebu’n ddieiriau
3. y gallu i ddarllen a deall cyfarwyddiadau ysgrifenedig
Geirfa
Gofynion cyfreithiol
Mae'r rhain yn cynnwys Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd er enghraifft Cyfarpar Diogelu Personol
* *
Halogiad
Sylweddau peryglus yn mynd ar ddillad a neu rannau o'r corff a neu sylweddau yn mynd i'r amgylchedd
Person cyfrifol
Yr aelod o staff sy'n gyfrifol am sylweddau peryglus yn y gweithle
Sylweddau peryglus
Unrhyw sylweddau sydd wedi'u rhestru trwy reoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd