Cynnal safon y dŵr gyda pheirianwaith pwll
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu’r peirianwaith pwll er mwyn sicrhau’r safon orau posibl o ddŵr pwll a phwll glân. Mae’r safon yn cynnwys arferion cynnal a chadw er mwyn sicrhau bod safon, claerder a thymheredd y dŵr yn ddiogel ac o fewn yr amrediad awgrymedig.
Mae’r safon hon wedi’i bwriadu ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am arferion cynnal a chadw a gwaith rhedeg peirianwaith y pwll.
Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:
1. monitro a chynnal gweithrediadau peirianwaith pwll
2. cynnal arbrofion ar
ddŵr tarddle a dŵr pwll
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Monitro a chynnal gweithrediadau peirianwaith pwll * *
* *
cyflawni eich swyddogaethau yn unol â dulliau gweithredu cyfreithiol a chyfundrefnol a dulliau gweithredu'r gwneuthurwyr a chyrff blaenllaw y diwydiant
monitro, gwirio a chynnal arferion cynnal a chadw'r gweithrediadau peirianwaith pwll i fodloni dulliau gweithredu arferol sydd ar waith ar gyfer:
2.1. hidlo
2.2. diheintio
2.3. gwresogi
2.4. pwysedd
2.5. mesur a rheoli
2.6. hydroleg
2.7. cylchrediad dŵr a chyfradd y llif
2.8. rheolaeth amgylcheddol o gyfleusterau'r pwll
2.9. calibradu rheolaeth awtomatig
2.10 dosio awtomatig a chyda llaw
defnyddio cemegau peirianwaith pwll yn unol â dulliau gweithredu iechyd a diogelwch, cyfreithiol a chyfundrefnol a dulliau gweithredu'r gwneuthurwyr
cwblhau cofnodion peirianwaith y pwll yn unol â dulliau gweithredu cyfundrefnol a rhoi gwybod i'r bobl berthnasol am unrhyw faterion
Cynnal arbrofion ar ddŵr tarddle a dŵr pwll
* *
cynnal arbrofion rheolaidd, gwaith monitro a gwerthusiad synhwyraidd ar ddŵr y pwll
monitro safon y dŵr er mwyn sicrhau'r amodau dŵr mwyaf ffafriol
dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar sut i ddefnyddio a chynnal a chadw cyfarpar profi dŵr y pwll
samplo dŵr y pwll a chofnodi canlyniadau'r profion gan ddilyn dulliau gweithredu arferol
dilyn camau cywirol pan na fydd yr arbrofion dŵr a chanlyniadau'r gwaith monitro yn bodloni'r dulliau gweithredu arferol a chofnodi unrhyw gamau gaiff eu dilyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Monitro a chynnal gweithrediadau peirianwaith pwll
* *
eich cyfrifoldebau a'ch rhwymedigaethau personol o dan y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch bresennol sy'n gysylltiedig â'ch swydd
gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol a gofynion cyrff blaenllaw y diwydiant a'r gwneuthurwyr ar gyfer gweithredoedd peirianwaith pwll
cyrff blaenllaw y diwydiant a lle i ddod o hyd i argymhellion, canllawiau a chodau ymddygiad wedi'u cymeradwyo
mathau o byllau a'u defnydd; mathau o danciau pwll a gorffeniadau a systemau mesur a rheoli ar eu cyfer a sut mae hyn yn cael effaith ar waith cynnal a chadw safon y dŵr
y rhesymau dros fonitro a chynnal safon a thymheredd y dŵr
sut mae dewis diheintyddion dŵr a sut maen nhw'n gweithio
y gwahanol fathau, effeithiau a pha mor addas ydy diheintyddion cynradd ac eilaidd wrth drin dŵr
y gwahanol fathau o afiechydon a heintiau yn y dŵr a'r aer
sut i gynnal a dehongli arbrofion samplo dŵr ac ymateb i'r canlyniadau
y camau adfer sydd eu hangen er mwyn ymateb i safon dŵr gwael
y gwahanol fathau o hidlwyr dŵr pwll a chyfraddau llif
arwyddocâd darlleniadau pwysedd yn y proses hidlo
goblygiadau amgylcheddol y cyfleusterau pwll ynglŷn â gweithredu a rheoli gweithredoedd peirianwaith pwll
yr angen am beirianwaith pwll economaidd, sy'n effeithlon ac yn effeithiol o ran ynni
y dulliau monitro ac amserlenni er mwyn gweithredu'n effeithiol
y dulliau cynnal a chadw ac amserlenni er mwyn defnyddio'r cyfarpar peirianwaith pwll yn effeithiol
dulliau profi larymau argyfwng y pwll
y dulliau ar gyfer adrodd am gyfarpar diffygiol neu faterion eraill a'r camau i'w dilyn er mwyn delio â hwy
cynllun gweithredu mewn argyfwng ar gyfer gweithredoedd peirianwaith pwll
cofnodion y mae angen eu cwblhau a'u cynnal ac am ba mor hir y dylen nhw fod ar gael i bobl
* *
Cynnal arbrofion ar ddŵr tarddle a dŵr pwll
* *
egwyddorion trin dŵr
y profion, archwiliadau a gwerthusiad synhwyraidd rheolaidd sydd eu hangen ar gyfer gweithrediadau peirianwaith pwll a chynnal a chadw tymheredd a safon y dŵr
23. y tymheredd gwahanol sydd ei angen ar gyfer gwahanol weithgareddau dŵr
24. y * *cemegau gaiff eu defnyddio gyda gweithrediadau peirianwaith pwll, y peryglon a'r risg sy'n gysylltiedig â nhw a'r camau rheoli sydd angen eu rhoi mewn lle i sicrhau defnydd diogel ohonyn nhw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Profion a monitro
pH
lefel diheintyddion rhydd a chyflawn
cyfrifo lefelau diheintyddion ar y cyd
cyfanswm solidau wedi toddi
Gwerthusiad synhwyraidd
claerder dŵr
algâu
llinellau llysnafedd
glendid y pwll ac o'i gwmpas
arogleuon llidus
cael gwared ar ddŵr yr wyneb
Samplo
lleoliad
dyfnder
amlder
cofnodi
cyfarpar
Gwybodaeth Cwmpas
Gofynion cyfreithiol, cyfundrefnol, cyrff blaenllaw y diwydiant a'r gwneuthurwyr
strwythur staffio a systemau rheoli – eu heffaith ar safon y dŵr
iechyd a diogelwch
protocolau ar waith
cynlluniau diagram a chyda llaw o weithredoedd a gwaith cynnal a chadw
* *
Cyrff blaenllaw y diwydiant
Grŵp Cynghori ar Drin Dŵr Pwll – PWTAG
Safonau Prydeinig ac Ewropeaidd - BSI
Asiantaethau Iechyd Cenedlaethol
Swimming Pool & Allied Trades Association – SPATA
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - HSE
Systemau mesur a rheoli
system gylchrediad
hidlo
diheintyddion cynradd ac eilaidd
rheoli tymheredd y dŵr
Ymateb i'r canlyniadau
anghydbwysedd cemegol
canlyniadau microbiolegol anfoddhaol
hysbysiad gan asiantaethau allanol
*Amserlenni
*
dyddiol
wythnosol
misol
12 mis
yn ôl y gofyn
* *
Profion
alcalinedd cyflawn
caledwch calsiwm
tymheredd yr aer a'r dŵr
cydbwysedd dŵr
lleithder cymharol
capasiti pwll a nodweddion
microbiolegol
sylffad
asid syanwrig
cloridau
dŵr tarddle
cymylogrwydd
* *
Cemegau
diheintydd
cywiriad pH
cemegau ychwanegol wedi'u defnyddio
ceulyddion a chlystyryddion
deunydd glanhau
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae cofnodion efallai y bydd angen ichi eu cwblhau a'u cynnal wedi'u cynnwys yn y rhestr isod:
archwiliadau cyn agor a chau
darlleniadau pwysedd
tymheredd y dŵr a'r aer
lleithder cymharol
claerder dŵr
canlyniadau profion cemegol a microbiolegol
lefelau cemegol
cyfradd llif y cylchrediad
larymau
rhoi gwybod am ddigwyddiadau
Cynlluniau pwll sy'n cael effaith ar waith cynnal a chadw safon y dŵr efallai y bydd angen ichi wybod amdanyn nhw:
pyllau confensiynol
pyllau cynllun rhydd
pyllau hamdden (gydag effaith traeth)
llithrennau a phyllau ar y gwaelod
pyllau hydrotherapi
pyllau ysgol
pyllau sba
pyllau nofio naturiol (gwyrdd)
nodweddion dŵr rhyngweithiol
pyllau padlo
pyllau cartref
pyllau awyr agored
Ffactorau sy'n cael effaith ar waith cynnal a chadw safon y dŵr efallai y bydd angen ichi wybod amdanyn nhw:
ystafelloedd newid
mynediad diogel i nofwyr
ystafell beirianwaith
storfa gemegau
tymheredd a lleithder
rheoli ynni
hydroleg a chylchrediad y dŵr
capasiti nofwyr
cael gwared ar ddŵr yr wyneb
tanciau cydbwyso
diogelwch yr allanfa a'r fewnfa
lloriau a bwmau sy'n symud
falfiau
mesuryddion llif a medryddion pwysedd
profion lliw
mwy nag un pwll
cyfarpar gaiff ei ddefnyddio yn y pyllau
cyflwr y gwely hidlo
Gall peryglon all ddigwydd wrth ymdrin â chemegau gynnwys:
gorlif
storio
cymysgu
trin
cludo
trydanol
sŵn
gweithio ar eich pen eich hun
Gall agweddau o safon dŵr y pwll gynnwys y mathau canlynol o halogiad pwll:
ysgarthion
chŵd
gwaed
cemegol
corfforol
bacteriol
* *
Gwerthoedd
Mae’r gwerthoedd allweddol canlynol yn sail i sut gaiff gwasanaethau eu darparu yn y sector chwaraeon a hamdden
1. parodrwydd i ddysgu
2. parodrwydd i gymryd cyfrifoldeb
3. agwedd hyblyg at waith
4. gweithiwr tîm
5. agwedd gadarnhaol
6. gwerthoedd moesegol personol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae’r ymddygiad canlynol yn sail i sut gaiff gwasanaethau eu darparu yn y sector chwaraeon a hamdden:
1. bodloni safonau ymddygiad ac ymddangosiad y sefydliad
2. cynnal dulliau gweithio effeithiol, glân a diogel
3. glynu wrth gyfarwyddiadau’r gweithle, y cyflenwyr a’r gwneuthurwyr ynglŷn â defnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
Sgiliau
Mae’r sgiliau allweddol canlynol yn sail i sut gaiff gwasanaethau eu darparu yn y sector chwaraeon a hamdden
1. y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau a hunan-reoli
2. y gallu i gyfathrebu ar lafar a chyfathrebu’n ddieiriau
3. y gallu i ddarllen a deall cyfarwyddiadau ysgrifenedig
Geirfa
Algâu
Math syml o blanhigyn microsgopig sy'n ffynnu yng ngolau'r haul ac yn gallu gwneud dŵr pwll yn gymylog
Amserlen cynnal a chadw
Canllawiau'r gwneuthurwyr ar gyfer amserlen cynnal a chadw'r peirianwaith a'r cyfarpar
Caledwch calsiwm
Mesur o'r halwynau calsiwm sydd wedi toddi mewn dŵr pwll
Camau adfer
Y camau i'w dilyn pan fydd namau, larymau neu amrywiadau yng ngwaith gweithredu'r peirianwaith
Cynllun gweithredu mewn argyfwng
Y cynllun ysgrifenedig sydd wedi'i lunio gan y gweithle er mwyn ymdrin ag unrhyw argyfwng all godi
Diheintydd cynradd
Cael gwared ar risg o haint, yn bennaf trwy gynnal y crynodiad cywir o ddiheintydd yn y dŵr. Bydd diheintydd cynradd yn lladd bacteria a firysau, ac yn gadael gweddill i osgoi croeshalogiad
* *
Diheintydd eilaidd
Mae diheintydd eilaidd (UV neu osôn) yn cynyddu faint o organebau heintus gaiff eu lladd, yn arbennig Cryptosporidium; mae'n ddiheintydd ychwanegol sy'n bod er mwyn cefnogi'r diheintydd cynradd
Dulliau gweithredu arferol
Y dulliau gweithredu y mae'r gweithle wedi'u llunio i gwmpasu gwaith arferol o ddydd i ddydd
Hidlo
Cael gwared ar sylwedd coloidaidd a gronynnol trwy basio dŵr y pwll trwy'r hidlydd
*Person cyfriol
*
Y person sy'n gwbl gyfrifol am y peirianwaith a safon dŵr y pwll - gan amlaf y rheolwr llinell neu oruchwyliwr
pH
Mesur o gyfradd asidedd/alcalinedd y dŵr ar raddfa logarithmig o 0-14.0. Mae pH o dan 7.0 yn asidig ac yn uwch na 7.0 yn alcalïaidd
Systemau cylchrediad dŵr
Mae'r system gylchrediad wedi'i chynllunio'n hydrolig i gylchdroi dŵr y pwll yn barhaus er mwyn cynnal y dŵr ar y safon ofynnol, trwy hidlo a thriniaeth gemegol